body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Gŵyl Beyond the Border 2023 -30 mlynedd o Ŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru.

Ryngwladol Cymru, sy’n cael ei hystyried yn un o’r gwyliau chwedleua mwyaf llwyddiannus ac amlwg ar draws y Deyrnas Unedig, ac yn rhyngwladol. Mae’n meithrin talent o Gymru yn ogystal â denu chwedleuwyr rhyngwladol ac amrywiol i Gymru a dangos Cymru i’r byd.

Bydd Beyond the Border yn 30 eleni, ac i ddathlu mae rhaglen dri diwrnod lawn i’r ymylon (7-9 Gorffennaf 2023) yn nhirwedd hudolus, castell a choetir trawiadol Ystâd Dinefwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, CADW ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru, yn Sir Gaerfyrddin. Os byddwch yn ymuno am brofiad gwersylla unigryw am y penwythnos cyfan, neu yn ymweld am y diwrnod, bydd teuluoedd o bob oed (ac oedolion hefyd) wrth eu boddau gyda rhaglen amrywiol a difyr o storïau, cerddoriaeth, perfformiadau, sgyrsiau i ysbrydoli a gweithgareddau celf a chrefft. Bydd yr ŵyl yn cynnwys dathliad o storïau yn Saesneg, rhai yn Gymraeg, a rhai rhyngwladol, ac mae hygyrchedd yn ganolog iddi, gydag ymrwymiad i sicrhau bod pob cynulleidfa’n gallu profi’r ŵyl.

Thema’r ŵyl eleni fydd Dyma’r Amsersy’n cwmpasu gorffennol, presennol a dyfodol chwedleua yng Nghymru, trwy lens ieithoedd, storïau a cherddoriaeth o Ewrop a’r byd – gyda gwahoddedigion rhyngwladol arbennig yn cynnwys Csenge Zalka chwedleuwraig y troseddwyr gwaethaf a llên gwerin ffeministaidd o Hwngari a Joe Baele ‘Mysgedwr anarchaidd’ Gwlad Belg.

Bydd un o ffefrynnau’r ŵyl Daniel Morden â’r ffidlwr eithriadol Oli Wilson-Dickson yn rhannu eu cymysgedd fywiog o hwyl llên gwerin i deuluoedd. A hefyd, y seiri geiriau meistrolgar, TUUP a Sally Pomme Clayton gyda chwedlau llawn awyrgylch a risqué weithiau yn hwyr y nos i oedolion!

Ceir traddodiadau gwirioneddol o gerddoriaeth a storïau o Orllewin Affrica gyda’r perfformiwr meistrolgar ar y Balafon N’famady Kouyaté a The Successors of the Mandingue, a thriawd o Gyfarwyddion Cyfoes Mycelium, Mair Tomos Ifans, Jo Munton a Deb Winter yn rhannu darnau blasus o’r chwedlau a gasglwyd yn ystod eu cyfnod preswyl o flwyddyn ar draws Cymru.

Bydd Citrus Arts yn rhannu eu cymysgedd arbennig o syrcas, dawns a drama a gall y rhai ddaw i’r ŵyl rannu eu stori eu hunain ar Ddydd Sadwrn Llafar gyda People Speak Up. Mae sioeau i deuluoedd, sesiynau drama ben bore i’r plant, perfformiadau wedi eu hysbrydoli gan Cad Goddeu: The Battle of the Trees a darn newydd Carl Gough yn teithio trwy amser Nexus, yn amlygu eiliadau o lunio penderfyniadau a fydd, gobeithio, yn ein harwain at ddyfodol mwy disglair. Hyn i gyd, a Cath Little, Alim Kamara, Christine Watkins, a llawer mwy o artistiaid, cerddorion a chwedleuwyr i’w cyhoeddi yn Chwefror 2023.

Newydd eu cyhoeddi:

Ochr yn ochr â’r rhestr liwgar o artistiaid fydd yn chwedleua, mae Gŵyl Beyond the Border yn cynnig cyfle i ymwelwyr ymlacio ac ailgysylltu â natur; archwilio tiroedd rhyfeddol Dinefwr, gyda theithiau cerdded trwy’r coed a’r Castell hanesyddol, yn llawn chwedlau. Mae’r amgylchedd naturiol yn cynnig digonedd o ffyrdd i ymlacio gyda ffrindiau a theulu a mwynhau bwyd blasus a stondinau diod yn cynnig y bwyd lleol a Chymreig gorau.

Bydd Beyond the Border hefyd yn cynnwys uchafbwyntiau ei rhaglen flynyddol. Mae’r rhain yn cynnwys:

Am wybodaeth lawn am Ŵyl Beyond the Border – Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru ewch i: Ŵyl

Cefnogir gan

^
Cymraeg