body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

sesiynau cefnogi chwedleua CASGLU i chwedleuwyr yn Ghana, De Affrica a Kenya.

Bydd Beyond the Border – Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru yn lansio ei sesiynau CASGLU (GATHERING) yn rhyngwladol ar-leini i chwedleuwyr o Gymru ac o wledydd i’r de o’r Sahara yn Affrica i ymgasglu a thrafod eu gwaith creadigol fel chwedleuwyr ar-lein.

Diolch i gyllid o raglen grant Gweithio’n Rhyngwladol Llenyddiaeth y Cyngor Prydeinig, mae Beyond the Border yn trefnu chwech o gyfarfodydd ar-lein o fis Mawrth 2021.

Lansiwyd sesiynau Beyond the Border CASGLU yn ystod y cyfnod clo ac fe’u cynhaliwyd ar fore Gwener ar-lein fel man cyfarfod i chwedleuwyr. Trwy sesiynau cyson sy’n para am awr i 90 munud, mae chwedleuwyr yn trafod y pynciau llosg o ddiddordeb ac o bwys i artistiaid, yn rhannu eu harfer, yn datblygu syniadau, rhwydweithio a llunio cysylltiadau.

Mae pob sesiwn, a hwylusir gan Gydlynydd Ymgysylltiad dwyieithog Beyond the Border, Tamar Williams, yn cychwyn gydag 1-2 artist/gwestai yn procio trafodaeth, ac yna fe wahenir i drafod mewn grwpiau bach. Trwy CASGLU, mae artistiaid yn llunio perthynas ac yn herio ei gilydd, gan gynyddu eu hymdeimlad unigol o fod â rheolaeth ar bethau yn ogystal â’u hunaniaeth fel rhan o gymuned sy’n tyfu.

CASGLU Rhyngwladol yn agor sesiynau ar ddydd Gwener cyntaf pob mis yn cychwyn o fis Mawrth fel man i gasglu artistiaid rhyngwladol, gan greu cyfle i chwedleuwyr o dair gwlad i’r de o’r Sahara yn Affrica i gychwyn (De Affrica, Ghana, Kenya) gyfarfod chwedleuwyr o Gymru, rhannu eu gwaith, cyfleu eu themâu ac agendâu creadigol sydd yn eu hysbrydoli a’i diddori.

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Beyond the Border, Naomi Wilds,“Fel sefydliad sy’n ymroddedig i hyrwyddo a chefnogi’r grefft draddodiadol o chwedleua ar lafar, rydym yn awyddus iawn i glywed gan chwedleuwyr llafar. Fodd bynnag, bydd y sesiynau hefyd yn agored i artistiaid sy’n gweithio ar draws nifer o ffurfiau celfyddydol y mae eu gwaith yn cysylltu ag adrodd neu ail-fframio storïau. Mae potensial yma ar gyfer deialog gyfoethog yn archwilio chwedleua dwyieithog ac amlieithog a gwaith wedi ei gyfieithu, gyda chreadigrwydd digidol cydweithredol dilynol yn ymdrin ag awch cynulleidfaoedd byd-eang am flaengaredd, yn ogystal â storïau traddodiadol dilys.”.”

Dywedodd Sinead Russell, Cyfarwyddwr Llenyddiaeth y Cyngor Prydeinig: “Rydym yn hynod falch i gefnogi prosiect CASGLU Rhyngwladol Beyond the Border. Bydd yn gyfle amserol i ddod â chwedleuwyr o Gymru ac Affrica Is-Sahara i rannu ac ymchwilio eu gwaith ac adeiladu cysylltiadau. Mae cynllun grant Gweithio’n Rhyngwladol y Cyngor Prydeinig, sy’n cefnogi’r prosiect hwn, yn anelu i roi cyfleoedd i sefydliadau ym Mhrydain ac ym mhedwar ban byd i gydweithio mewn ffyrdd newydd, ar ystod eang o raglenni llenyddiaeth. Edrychwn ymlaen at weld y prosiect yn datblygu.”

Mae posibilrwydd hefyd y gall syniadau digidol o CASGLU Rhyngwladol gael eu cefnogi gan Beyond the Borders yn y dyfodol, gan gefnogi datblygiad proffesiynol, hwyluso cydweithredu o’r newydd a galluogi artistiaid i gael dealltwriaeth lawer cryfach o waith ei gilydd.

Cefnogir gan

^
Cymraeg