Mae Beyond the Border yn edrych am fynegiadau o ddiddordeb gan chwedleuwyr ac artistiaid sydd yn gweithio gyda stori i gymryd rhan mewn cyfres o ofodau arbrofol arlein a gweithdai sydd yn gysylltiedig â’n Prosiect Ail-Ddychmygu Ail-Ddatblygu.
Fe fydd Ail-Ddychmygu Ail-Ddatblygu yn darparu sbringfwrdd i fewn i brosiectau creadigol y dyfodol ac arbrofion newydd gan yr ŵyl. Rydym ni’n gobeithio y bydd y prosiect yn ein helpu ni i ledaenu ein rhwydwaith, cwrdd ag artistiaid newydd, creu syniadau newydd, a dod o hyd i gydweithredwyr am waith yn y dyfodol.
Ar y pwynt yma, rydym ni’n annog ceisiadau o unrhywun sydd yn gweithio gyda stori a chwedleua yn gysylltiedig â’r amgylchedd, treftadaeth, iaith a thechnoleg/dulliau digidol.
Nodwch fod hwn yn gyfle wedi’u talu.
Byddwn yn blaenoriaethu artistiaid yng Nghymru ond yn croesawu mynegiadau o ddiddordeb o ymhellach i ffwrdd.
Sut mae mynegi diddordeb?
Sut mae mynegi diddordeb? E-bostiwch eich CV Artist (os oes gennych chi un), neu ddisgrifiad fer o’ch gwaith yn gysylltiedig â chwedleua i tamarwilliams@beyondtheborder.com wrth ymyl gair fer yn sôn am eich diddordeb mewn gweithio gyda Beyond the Border.
Dyddiad cau am fynegiadau o ddiddordeb: Dydd Iau 10fed o Fedi 5y.h.