body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Chandrika Joshi -Rhaglen Mentoriaeth Lleisiau Newydd - BLOG 1

Mae Chandrika yn un o’n Chwedleuwyr Lleisiau Newydd sy’n cael eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau chwedleua gan chwedleuwyr profiadol. Yn ei blog diweddaraf ar gyfer Lleisiau Newydd mae’n rhannu ei chefndir a’i hysbrydoliaeth ar gyfer chwedleua, ei thaith i Gymru fel ffoadur a chael ei magu yn y Rhondda a dechrau ar ei llwybr chwedleua newydd yn 62 oed.

Roeddwn wrth fy modd i gael fy newis ar raglen mentoriaeth Lleisiau Newydd BTB ac nes soniodd rhywun wrthyf amdano, nid oeddwn wedi sylweddoli bod cael cyfle i ddechrau ar lwybr newydd mewn bywyd yn 62 oed yn wir yn rhyfeddol.

Mae chwedleua yn rhan o fy nhreftadaeth deuluol yn ogystal â fy nhreftadaeth ddiwylliannol. Roedd fy nau riant yn chwedleuwyr yn eu ffyrdd eu hunain ac roedd gan y ddau Kathakaar/chwedleuwyr proffesiynol yn eu teuluoedd. Rwy’n rhan o draddodiad byw chwedleua llafar. Mae chwedleua yn rhan gynhenid o ffordd o fyw geunyddiol Hindŵ Gujarati. Fel plentyn clywais straeon gan fy rhieni, yn aml ar ôl swper gan nad oedd teledu bryd hynny. Clywais fy mam a’i ffrindiau yn dweud straeon wrth ei gilydd mewn gwahanol wyliau crefyddol oedd yn cael eu dathlu yn ein cartref. Clywais fy nhad, oedd yn Offeiriad Hindŵ, yn dweud straeon ‘Katha’ wrth ei gynulleidfa, weithiau’n mynd ymlaen am ddyddiau lawer. Ni fyddai wythnos yn mynd heibio heb i mi glywed straeon yn cael eu hadrodd mewn un ffurf neu ei gilydd.

Cyrhaeddais Gymru fel ffoadur a thyfu lan yn y Rhondda. Gwaetha’r modd, nid oedd dod yn artist o unrhyw fath yn opsiwn i fi. Yn yr un modd â llawer o ffoaduriaid, roedd yn bwysig i fi gael incwm dibynadwy cyson. Roeddwn yn gwybod hyn yn 15 oed a dewisais gemeg yn lle celf a dod yn ddeintydd. Rwyf wedi bod yn gweithio fel deintydd anghenion arbennig am y 31 mlynedd diwethaf. Mae’r fentoriaeth hon yn rhoi cyfle i mi ddeffro’r artist oddi mewn i mi a fu yng nghwsg ers pan oeddwn yn bymtheg oed.

Gadewais Gymru yn 1989. Ar ôl trawma symud pan oeddwn yn ifanc, cefais hi’n anodd setlo unrhyw le ym Mhrydain. Roedd gennyf yr hiraeth yma am fy nghartref coll. Felly dychwelais i Gymru yn 2004 a phlannu fy hun yn ei phridd. Dim ond ar ôl i mi setlo yng Nghymru y gwnaeth y straeon o fy mhlentyndod ddechrau dadmer yn fy nghalon ac y gwnes ddechrau ailddweud y straeon hyn oedd yn aros i gael eu dweud.

New Voices Mentoring

Fy nod yn y rhaglen fentoriaeth yma yw dysgu sut i gadw ethos traddodiad chwedleua llafar Gujarati ac ailadrodd y straeon hyn mewn gosodiad mwy proffesiynol i’r byd yn gyffredinol. Dewisais dri mentor, y rhyfeddol Jan Blake, sy’n fy helpu i feistroli sgiliau chwedleua sydd eu hangen mewn chwedleua proffesiynol. Treuliodd Jan a finnau un sesiwn yn gwneud dim byd ond siarad am hil a sut i ddweud straeon nad ydynt yn gynhenid i’r wlad yma. Y stori rwy’n gweithio arni yw Satyavan – Savitri yr oedd fy mam yn arfer ei dweud wrthym pan oeddem yn blant. Mae’n stori am fenyw ryfeddol a drechodd Dduw marwolaeth er mwyn achub ei gŵr o’i afael.

Rwyf bob amser wedi canu ac wedi cynnwys canu a llafarganu gyda chwedleua ond nid wyf yn chwarae unrhyw offeryn cerdd. Felly rwy’n gweithio gyda Uttara Chousalkar, artist o’r India y gwnes ei chyfarfod eleni yn Sanatan Siddhasram yng Ngorllewin Bengal. Roedd yn cymryd rhan mewn encil yn y traddodiad chwedleua/cerddoriaeth Baul gyda Parvathy Baul yn yr ashram lle roedd Uttara yn gwirfoddoli. Mae’n gerddor proffesiynol ac yn fy nysgu sut i chwarae Ektara (offeryn cerddorol traddodiadol cantorion Baul). Mae’n debyg mai dyma’r sgil anoddaf i mi ei hennill. Mae gan Uttaradi amynedd sant ac mae’n garedig a hael iawn gyda fi. Mae dal Ektara yn agos at fy nghorff wrth iddo atseinio yn fy nghysylltu gyda’r absoliwt, gyda’r Bydysawd. Rwyf hefyd yn mynd i gael ychydig o ddosbarthiadau gyda Pauline Down mewn gwaith lleisiol. Nid ydym wedi dechrau cydweithio eto ond bydd hyn yn digwydd yn fuan.

Pan oeddwn yn fyfyrwraig deintyddol ifanc arferwn roi triniaeth dan oruchwyliaeth i fenyw yn ei 60au. Un diwrnod fe wnaethom ddechrau siarad am oedran a dywedodd wrthyf mai’r peth diddorol am oedran yw fod popeth am berson yn newid ond nad yw rhywun yn newid y tu mewn – y tu mewn rydym bob amser yn teimlo fel ein bod yn ifanc. Arhosodd hynny gyda fi. Rwyf mor falch nad wyf yn ymwybodol o fy oed a gwahaniaethu ar sail oedran oherwydd pe byddwn yn ymwybodol o hynny, fyddwn i ddim wedi gwneud cais am y cyfle mentoriaeth yma. Am golled fyddai hynny wedi bod i fi.

Cefnogir gan

^
Cymraeg