body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Chris Harris – The Atlantis Project

Mae ein cyfres newydd Ysbrydoli yn rhannu rhai o’r prosiectau a gynhelir ledled Cymru gan chwedleuwyr ac artistiaid. Daw’r ail flog Ysbrydoli ar gyfer mis Medi gan Chris Harries sy’n gweithio ar brosiect rhwng artistiaid yng Nghymru a Norwy i greu cyfres sain yn edrych ar effeithiau Newid Hinsawdd ar ddiwylliant.

Beth yw'r prosiect? 

Mae ‘The Atlantic Project’ yn gyfres sain gyffrous a diddorol mewn 5 rhan. Wedi ei greu fel cywaith rhyngwladol rhwng artistiaid yng Nghymru a Norwy, dadlennwn effeithiau newid hinsawdd ar ddiwylliant drwy stori anturus a chynnes Evie a Deean – dau berson ifanc sy’n ein gwahodd i’w byd o gyfeillgarwch, argyfwng a derbyniad.

Dechreuodd fy mhrosiect fel cywaith rhyngwladol rhwng fy nghydweithiwr a chyfaill hirdymor Eliot Moleba a finnau. Roeddem yn trafod gwahanol straeon am y flwyddyn a allai weddu gwrandawyr iau, ond sy’n pontio deunyddiau pwnc sy’n bwysig i wrandawyr yng Nghymru a Norwy. Gellid dadlau mai newid hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf mae’r byd yn ei wynebu; ond mae ei effaith ar ddiwylliant yn fater pwysig sy’n cael llai o sylw. Wedi’i ysbrydoli gan y dinistr arfaethedig yn Fairbourne yng Ngwynedd, a phobl gynhenid Sami yng ngogledd Norwy, fe wnaethom benderfynu creu ein byd ffuglennol ein hun lle caiff diwylliant cynhenid, hynafol ei gwthio yn fwy i gymdeithas orllewinol fel canlyniad i gynnydd yn lefelau’r môr. Mae ‘The Atlantic Project ‘ – gêm a gaiff ei chwarae gan ein dau gymeriad yn chwarae ar y traeth, yn troi yn ddyfais feta-theatraidd ar gyfer hysbysu gwrandawyr ifanc ar draws y byd am yr hyn sy’n digwydd i gymunedau glan môr, a sut mae’r grym ganddynt i ddylanwadu ar newid.

I bwy yw e a sut gall bobl gymryd rhan ynddo?

Er nad oes unrhyw ddeunydd yn y darn a fyddai’n anaddas ar gyfer cynulleidfaoedd iau, rydym yn ei argymell ar gyfer 11+ oed oherwydd natur ei thema.

Cyhoeddir y gyfres sain ar 11 Medi 2020 am 7pm, yn dilyn digwyddiad lansio dechreuol. Bydd y penodau ar gael ar AM, Soundcloud a www.chrisharristheatre.com | https://www.amam.cymru/theatlantisprojectBydd cyfres o gwestiynau trafod a gweithredu ar ôl pob pennod yn cyfeirio at gynnwys a themâu’r stori y gellir eu mwynhau fel unigolyn, fel dosbarth ysgol neu fel teulu.

Dywedwch fwy wrthym amdanoch eich hun mewn bywgraffiad byr. Sut wnaethoch chi ddechrau chwedleua? Pa mor hir fuoch chi’n gwneud hyn? Lle ydych chi’n byw? Sut ydych chi’n gweithio gyda stori?

Rwy’n wneuthurydd theatr dwyieithog – cefais fy ngeni yn ne Cymru ac yn byw yno – ac yn gweithio yn y Gymraeg yn bennaf. Graddiais o Brifysgol Aberystwyth gyda BA mewn Drama yn 2014, ac yna o Brifysgol Amsterdam gyda MA mewn Dramatwreg yn 2019. Rwyf wedi creu gwaith ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion mewn nifer o gyfryngau. Gweithiais gydag ystod o ddisgyblaethau technolegol a gyda llawer o gwmnïau theatr ac opera yng Nghymru, Prydain ac yn rhyngwladol. Rwy’n creu gwaith sy’n ymchwilio bydoedd dychmygol o wahanol safbwyntiau; weithiau wedi ysbrydoli gan hanes ac weithiau’n hollol ffugiannol. Rwyf bob amser yn cael fy nghyffroi gan chwilfrydedd a’r dychymyg, ac wrth i mi aeddfedu a datblygu yn fy nghrefft, rwy’n holi’n barhaus beth yw theatr a beth sydd ganddo’r potensial i fod.

Rwy’n credu fod unrhyw waith o wneud perfformiad angen cariad a gwybodaeth at chwedleua. Dechreuais ganolbwyntio mwy ar stori’r cymeriadau (yn hytrach na’r term ‘plot’ sydd wedi ei or-saernïo) pan sylweddolais, os oedd yn ddifyr i fi, mai dyna sut y dylid dweud y stori. Dysgais mai stori (a chymeriad) yw popeth rydych ei angen mewn gwirionedd. Gellir wedyn hyn ei fowldio i unrhyw fath o berfformiad – unrhyw le, mewn unrhyw ffordd!

Ysbrydoliaeth Cyfnod Clo: beth yw rhywbeth rydych chi wedi'i weld ar-lein rydych chi am ei rannu? e.e. fideo / podlediad / digwyddiad ar-lein sydd wedi eich ysbrydoli ar yr adeg hon?

Mae Catherine Dyson a Theatr Iolo’s ‘Transporter’ yn wych. Fe wnaeth fy ngorfodi i feddwl am chwedleua dychmygus mewn ffordd wahanol. Ond rwyf yn bennaf wedi bod yn edrych ar yr holl ffilmiau clasurol hynny y dylwn fod wedi eu gweld flynyddoedd yn ôl – yn ogystal ag ailedrych ar rai hen ffefrynnau. Mae gwaith Taika Waititi a Noah Baumbach' yn ysbrydoliaeth fawr – yn ogystal ag edrych ar holl ganon ‘The Simpsons’ gyda fy mhartner (mae gennym lawer o ffordd i fynd o hyd!).

 

Cefnogir gan

^
Cymraeg