body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Datblygu cenhedlaeth newydd o chwedleuwyr – Cronfa Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru i gyflawni cydweithrediad rhwng gweithwyr llawrydd a sefydliadau ledled Cymru.

Mae Beyond the Border - Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru ynghyd ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Menter Iaith, People Speak Up, Citrus Arts a Head4Arts wedi derbyn cyfraniad ariannol sydd iw groesawu gan gronfa Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru I gyflawni cydweithrediad newydd a chyffrous i sicrhau dyfodol y sector chwedleua yng Nghymru. Daeth Cysylltu a Ffynnu yn bosibl trwy arian a ddosberthir gan Gyngor Celfyddydau Cymru o enillion y Loteri Genedlaethol.

Bydd yr Hwb Chwedlau Mycelium yn rhwydwaith o bartneriaid sefydliadol a llawrydd, wedi ymrwymo i rannu arfer a meithrin chwedlau llai cyffredin o bob rhan o gymunedau amrywiol Cymru. Mae'r model wedi'i ysbrydoli gan rwydweithiau mycelium natur ac mae'n cynnwys cefnogaeth i gynhyrchwyr a rôl newydd Cyfarwyddion cyfoes.

Dywedodd y chwedleuwr o Gaerdydd, Chandrika Joshi, un o Leisiau Newydd BTB yn 2021, “Mae’r cydweithredu hyn yn galluogi plannu mwy o hadau fel y gall chwedleuwyr y dyfodol dyfu. Gall gweithio mewn lleoliadau cymunedol gynyddu dealltwriaeth o ddiwylliant Cymru, llawer ohono'n anhysbys. Yng nghymunedau Gujarati, Indiaidd ac ethnig mae yna dreftadaeth gyfoethog o chwedleua; mae angen i ni glywed y chwedlau hynny a dod o hyd i ddulliau o’u trosglwyddo."

Bydd Cyfarwyddion Cyfoes yn helpu i ddatgelu a rhannu chwedlau’r cymunedau y maent wedi'u lleoli ynddynt am gyfnod preswyl o ddeuddeg mis. Mae rôl y Cyfarwydd yn cael ei hysbrydoli'n uniongyrchol gan draddodiadau hŷn y Cyfarwydd Cymraeg; chwedleuwyr a gadwodd ac a adlewyrchodd yr hyn oedd yn digwydd yn eu cymunedau, gan gynnig arweiniad cynnil trwy'r chwedlau a adroddwyd ganddynt. Roedd pob Cyfarwydd yn dilyn prentisiaeth, gan symud ymlaen i ddod yn aelodau uchel eu parch yn y gymdeithas, gan deithio a dod â newyddion yn ôl i'r llysoedd, gan adlewyrchu cymdeithas eu hoes.

Dywedodd Sioned Edwards o’r Eisteddfod, “Bydd Hwb Chwedlau Mycelium yn adlewyrchu hanesion diwylliannol cyfoethog ac amrywiol Cymru a thraddodiadau dwfn chwedleua, ar yr un pryd â datblygu dulliau newydd a ddyluniwyd ar gyfer heriau'r presennol a'r dyfodol. Rydyn ni wedi'n cyffroi gan yr angerdd a rennir a ddangosir gan chwedleuwyr, cynhyrchwyr a phartneriaid fel Menter Iaith a Beyond the Border i gynyddu chwedleua drwy gyfrwng y Gymraeg, ac i bob oedran gael mynediad i raglen amrywiol a datblygol sy'n croesawu ieithoedd niferus y Gymru gyfoes. ”

Bydd blwyddyn gyntaf y prosiect yn cynnwys dwy bartneriaeth ddaearyddol benodol, un gyda People Speak Up yn Sir Gaerfyrddin, cartref newydd gŵyl Beyond the Border, sy'n cefnogi iechyd a llesiant, ac ail bartneriaeth a fydd yn cael ei lansio yn y Rhondda, gan gynnwys Citrus Arts, Head4Arts, Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful a Theatr Soar. Mae yna ddiddordeb ar y cyd mewn adlewyrchu cydnerthedd, hanes, gwleidyddiaeth, tafodieithoedd a nodweddion cymunedau penodol, gan ddod o hyd i ffyrdd o sicrhau bod chwedlau’r cymunedau hyn yn cael eu meithrin a’u dathlu.

Mae'r cydweithredu hefyd yn treialu modelau newydd. Dywedodd Eleanor Shaw o People Speak Up, “Bydd Hwb Chwedlau Mycelium yn rhoi prawf ar fodel ariannol gwahanol, yn seiliedig ar warantu cyfran o incwm sylfaenol i artistiaid ymlaen llaw. Bydd hyn yn helpu cyllidebau pawb i fynd ymhellach, ac yn galluogi mwy o bobl i ystyried gwaith celfyddydol fel dewis gyrfa hyfyw. Mae creu rôl ddiffiniedig gydag incwm gwarantedig yn gam clir y gellir ei gymryd gan artistiaid na fyddai ganddynt fel arall, o bosib, yr adnoddau i ariannu eu cynnydd. Byddwn yn rhoi prawf ar fuddion y model gwahanol hwn ac yn rhannu'r dysgu gyda’r holl bartneriaid a gweithwyr llawrydd, gan greu, gobeithio, newid ehangach wrth i'r cydweithredu dyfu."

Dywedodd chwedleuwr o Aberystwyth a sylfaenydd Gŵyl Chwedleua Aberystwyth, Peter Stevenson,

“Mae gan hyn y potensial i fod yn un o’r cyfraniadau pwysicaf i chwedleua yng Nghymru yn yr hirdymor”. Bydd Hwb Chwedlau Mycelium yn cael ei ddatblygu mewn ymgynghoriad â chwedleuwyr a sefydliadau llawrydd sy'n rhannu diddordeb mewn cryfhau sylfeini chwedleua ledled Cymru, gan sicrhau bod hwn hefyd yn gyfle i wrando ar a gweithio gydag ystod fwy amrywiol o chwedlau yn y dyfodol.

Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd yr Hwb yn cefnogi ac yn hyrwyddo gwaith pedwar Cyfarwydd Cyfoes, pedwar Cynhyrchydd Cyswllt, dau Gyfansoddwr Cysylltiol a thair gŵyl fach, gan ddod â chwedlau newydd i'r amlwg. Bydd y rolau hyn yn creu cyfleoedd wedi'u teilwra i rinweddau pob cymuned a byddant yn cysylltu â'i gilydd i sicrhau bod y dysgu'n cael ei gadw ac y bydd yr hwb ym medru parhau i dyfu.

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Beyond the Border, Naomi Wilds, “Mae Cymru yn wlad o fythau, chwedlau a straeon, ond nid hen chwedlau yn unig. Wrth i ni ddathlu ac ail-drefnu ein hen chwedlau, rydyn ni hefyd yn sicrhau ein bod ni'n clywed chwedlau heddiw ac yn cefnogi chwedleuwyr yfory, gan greu ffyrdd newydd o glywed y chwedlau anhygoel yn datblygu y funud hon ledled Cymru.”

“Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi gweld gwaith gwych yn cael ei wneud yng Nghymru, ond heb ddigon o adnoddau ar gyfer ein holl gymunedau. Dechreuon ni siarad â sefydliadau a gweithwyr llawrydd eraill a rannodd ein hangerdd i gysylltu. Bydd yr arian hwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn creu gwe gynyddol o gefnogaeth, yn creu cyfleoedd ac yn cefnogi mwy o chwedleuwyr, a’r adnoddau i ddysgu am ddulliau newydd y gallwn eu creu gyda’n gilydd.”

Er bod llawer o chwedleuwyr yn cyflawni gwaith cymunedol pwysig eisoes, mae llawer yn dibynnu ar eu rhwydweithiau eu hunain i wneud i gyfleoedd ddigwydd. Mae rhai sefydliadau nad ydynt yn ymwybodol o'r buddion a fedr ddeillio o chwedleua. Bydd yr Hwb Mycelium yn sicrhau y bydd y Cyfarwyddion a’r Cynhyrchwyr yn cynnal proffil uchel yn eu cymunedau, tra hefyd yn rhannu enghreifftiau o brosiectau a chwedlau gwych sy'n dod yn sgil y gwaith y maent yn ei ddatblygu.

Mae hyn yn parhau â'r gwaith y mae Beyond the Border wedi dechrau mynd i'r afael ag ef, rhwng ei brif wyliau, trwy weminarau, rhannu arfer Casglu, Cân, Ysbrydoli / Inspire, mentora Lleisiau Newydd a Mannau Myfyrdod, cysylltu artistiaid â'i gilydd, amlygu materion, sefydlu egwyddorion ansawdd a llunio arfer. Mae canolbwynt Hwb Chwedlau Mycelium yn cysylltu'r gweithgaredd hwn â phartneriaid yn y gymuned sy’n ffocysu’n genedlaethol - i ddechrau sgyrsiau newydd a rhannu sgiliau creadigol, wrth i ni ddychwelyd i gyfuniad o waith digidol a gwaith wyneb yn wyneb.

Aeth Naomi Wilds yn ei blaen, “Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth wraidd yr ymyriadau hyn, sy'n blaenoriaethu gweithwyr llawrydd o gefndiroedd a chymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd. Pan fyddwn yn lansio’r rolau hyn ym mis Medi byddwn yn gwarantu cyfweliadau i bobl y mae eu lleisiau heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd, gan gynnwys pobl anabl, pobl Dduon ac Asiaidd, a phobl o gefndiroedd ethnig eraill, siaradwyr Cymraeg ac aelodau o gymunedau LGBTQI.“

Bydd Hwb Chwedlau Mycelium yn rhwydwaith â ffocws cenedlaethol sy'n croesawu hynodrwydd lleol. Bydd yr hwb yn cyhoeddi galwad agored i Gyfarwyddion a Chynhyrchwyr ym mis Medi, yn ogystal â chynrychiolwyr artistiaid a chymuned i fod yn rhan o'r Hwb chwedlau. Bydd gweminarau a sgyrsiau un i un yn rhoi mwy o wybodaeth a chefnogaeth i unrhyw un sy'n dymuno ymgeisio.

Mae llawer o'r partneriaethau hyn eisoes wedi dechrau cydweithio gyda Beyond the Border - bydd People Speak Up, Citrus Arts a Menter Iaith yng Ngŵyl Beyond the Border 2-4 Gorffennaf. Cynhelir Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Beyond the Border yn Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dinefwr, Sir Gaerfyrddin 2-4 Gorffennaf yn ogystal â Gŵyl Ar-lein rhwng 26 Mehefin a 10 Gorffennaf.

Cefnogir gan

^
Cymraeg