body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Digital callout – looking forward

Mae Gŵyl Beyond the Border wedi’i gohirio tan 2021 ond rydym ni’n parhau i ddod o hyd i ffyrdd o ddod at ein gilydd a rhannu straeon. Mae straeon yn teimlo’n bwysicach nag erioed.

Dyna pam rydym ni eisiau gwybod beth gallem ni’i wneud yn y cyfamser i gefnogi’r gymuned chwedleua, achos rydym ni’n credu bod angen straeon nawr yn fwy nag erioed.

Roedd Beyond the Border yn barod yn datblygu cynlluniau i edrych ar sut i wella sgiliau digidol yn y byd chwedleua. Rydym ni wedi gweld dros y bythefnos ddiwethaf symudiad cyffrous tuag at ddefnyddio platfformau digidol i adrodd straeon. Felly, er mwyn ein helpu ni gyd i gysylltu drwy hunan-ynysu, rydym ni eisiau gwybod beth i’w wneud er mwyn cefnogi, rhannu a datblygu’r gwaith yma.

Rydym ni’n gobeithio defnyddio platfformau digidol Beyond the Border er mwyn cysylltu chwedleuwyr a chynulleidfaoedd gyda’r gwaith digidol eang sydd yn digwydd ar hyn o bryd, ac hefyd i gynnig cyfleuoedd i hyfforddi a datblygu sgiliau chwedleuwyr sydd efallai yn cymryd eu camau cyntaf i fewn i adrodd straeon arlein. Buasem ni’n ddiolchgar iawn petaech chi’n gallu cymryd cwpl o funudau i adael i ni wybod beth rydych chi’n gweithio arno, sut hoffech chi i ni rannu’r gwaith, a pha sgiliau hoffech chi ddatblygu mewn chwedleua’n ddigidol.

We’d be really grateful if you could take a few moments to let us know what you’re working on, how you might like us to share it, and what skills you are hoping to develop in digital storytelling.

Rhai gwestiynau i’ch cael chi i feddwl Digital Cymraeg

Ebost tamarwilliams@beyondtheborder.com

Cefnogir gan

^
Cymraeg