body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Gwnewch a Pheidiwch

Gobeithiwch y cewch amser gwych. I wneud yn siŵr fod pawb yn mwynhau'r ŵyl, gofynnwn i chi ddod yn gyfarwydd ag ychydig o reolau syml.

Rydym yn ŵyl di-gyffuriau a byddwn yn cymryd camau cryf yn erbyn unrhyw un sy'n torri hyn.

Ni chaniateir ysmygu mewn unrhyw leoliad, yn cynnwys pebyll.

Mae Tir Parc Dinefwr yn fferm waith ac felly bydd da byw mewn caeau cyfagos, felly dylai pob ci gael ei gadw ar dennyn tra mae ar y safle.

Mewn perfformiadau, gofynnir i chi droi eich ffôn symudol i ffwrdd, cyrraedd mewn da bryd (mewn rhai achosion ni fydd mynediad i bobl sy'n cyrraedd yn hwyr), aros am doriad addas os oes angen i chi adael, cofiwch y gall sŵn tu allan i safleoedd effeithio ar berfformwyr tu mewn a gwneud yn siŵr y caiff plant eu goruchwylio.

Nifer gyfyngedig o leoedd sydd yn ein safleoedd - mae mynediad ar sail cyntaf i'r felin.

Gofynnir i chi beidio tynnu lluniau neu recordiad sain neu ffilm tu mewn i unrhyw un o'r gofodau perfformiad. Gall hyn amharu ar y perfformwyr, ymyrryd ar yr offer sain a difetha profiad pobl eraill.

Defnyddiwch ein biniau ailgylchu o amgylch y safle, caiff yr holl wastraff o'r biniau hyn ei ddidoli a'i ailgylchu lle'n bosibl.

Dylai plant fod yng nghwmni oedolyn bob amser.

Cefnogir gan

^
Cymraeg