body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Gŵyl Ar-lein - Ffilm Ivan Coyote o'r Caban gyda Sgwrs Fyw gyda Ivan

Dydd Sadwrn 10 Gorffennaf 2021 8:00pm

Rydym wedi partneru gyda Festival Interculturel du conte de Montréal yng Nghanada i greu ffordd ddigidol o rannu straeon o Ivan Coyote o'u Caban yn rhan mwyaf anghysbell Yukon.

Mae Ivan Coyote yn awdur gwobrwyedig, chwedleuwr a pherfformiwr wedi ei eni yn yr Yukon yng Ngogledd Canada ac mae'n ffefryn cynulleidfa mewn gwyliau cerddorol, barddoniaeth a chwedleuwyr ar draws y byd. Roedden nhw i fod ymweld â Beyond the Border am y tro cyntaf yn 2020.

Oherwydd y cyfyngiadau teithio fe wnaeth Ivan greu ffilm fer o'r Yukon tra roedd ar ymweliad yn yr haf, o dan yr haul canol nos. Bydd dangosiad o'r ffilm cyn sgwrs fyw gyda Tamar Eluned Williams a chynulleidfa ar Zoom.

8pm: Ffilm Ivan Coyote

8.45pm: Zoom byw - sgwrs rhwng Ivan Coyote a Tamar Eluned Williams

9.15pm: Lolfa Glyd - sgwrs rhwng y gynulleidfa a dathlu diwedd yr ŵyl

Nodwch os gwelwch yn dda: mae elfen fyw y sie (y sgwrs Zoom) am 8.45pm ar 10 Gorffennaf. Mae modd gwylio'r ffilm ar alw tan 15 Gorffennaf.

Saturday 10/07/2021 8:00pm
Ar-lein
Archebwch

Cefnogir gan

Creative Europe logo
Beyond the Border Partners - Foyle Foundation
^
Cymraeg