body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Teuluoedd

Dros y 30 mlynedd ddiwethaf rydym wedi ymfalchïo mewn gwneud yr ŵyl mor hygyrch ag sydd modd ar gyfer pobl hŷn a phobl iau.

Mae rhai o’r uchafbwyntiau i deuluoedd yn cynnwys y Goedwig Llais, gofod agored gyda golygfa ysblennydd o Gastell Dinefwr a Choedwig y Castell tu hwnt, lle bydd artistiaid awyrol yn ymgasglu i berfformio; bydd Citrus Arts yn cynnal gwersi ar sgiliau syrcas a chylch hwla a People Speak Up yn cynnig crefftau ymarferol ynghyd â gwneud pypedau gyda Jo Munton ar gyfer ein seremoni gau liwgar.

Byddwn yn ymchwilio’r coetiroedd godidog o amgylch y safle drwy deithiau stori; bydd gweithdai ceidwad bach a hyd yn oed wneud cuddfannau. Cyhoeddir mwy o fanylion yn yr ychydig wythnosau nesaf.

Os ydych yn aros ar y safle, peidiwch â phryderu am ddeffro’n rhy gynnar ... rydym wedi creu rhaglen Codwyr Cynnar i blant sy’n cynnwys chwarae meddal ar gyfer gwersyllwyr bach a’u rhieni a gofalwyr. Mae gennym ddwy babell neilltuol ar gyfer teuluoedd, un ar gyfer plant dan 6 a rhaglen i blant dros 8 ar y dydd Sadwrn a’r dydd Sul. Mae’r artistiaid yn cynnwys y chwedleuwyr Lynwen Thomas, Francis Maxey, Megan Lloyd, Ceri Phillips a Mair Tomos Ifans.

Rydym yn falch iawn cyhoeddi y bydd gennym ddarn newydd sbon ar gyfer teuluoedd yng ngŵyl BtB 2023 mewn cysylltiad gyda Festival interculturel du conte de Montréal diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Quebec. Yn rhannu straeon gwerin a chwedlau Quebec a Chymru, bydd y storïwr Michael Harvey o Gymru a Stephanie Beneteau o Quebec yn creu “Iaith Chwedleua” gan blethu’r Gymraeg, Ffrangeg a Saesneg yn llyfn ar gyfer cynulleidfaoedd teulu (8+) ac oedolion.

Mae hefyd gyfle i’ch chwedleuwr ifanc gymryd rhan yn ein cystadleuaeth chwedleua a gynhaliwn ar y safle. Rhannwch eich stori fer orau gyda ni a gallech gael eich coroni yn Chwedleuwr Ifanc Beyond the Border 2023 ac ennill gwobr fach.

Gallwch aros dan y sêr yn Ninefwr. Mae gennym nifer gyfyngedig o leoedd ar gael yn ein gwersyll a safle cerbydau cysgu.

Mae’r profiad anhygoel hwn yn wahanol i bob gŵyl arall ym Mhrydain. Byddwch yn gwersylla dan y sêr, wrth droed olion castell hanesyddol dafliad carreg o gae yr ŵyl, gyda synau anifeiliaid yn y coetiroedd o’ch amgylch ac ystlumod yn hedfan yn y nos. Caiff llawer o’r bywyd gwyllt o amgylch y safle ei ddiogelu felly efallai y gwelwch y gwartheg gwyn, pili pala prin, mochyn daear neu garw.

Yn ogystal â chynnig llwythi ar gyfer eich fforwyr bach i’w darganfod, mae gennym chwedleuwyr, cerddorion a pherfformwyr gyda’r gorau yn y byd yr ŵyl yn cynnwys Abbi Patrix, Angharad Jenkins Quintet, High Lupton, Myrddin, Citrus Arts, Csenge Zalka, Daniel Morden, Julie Murphy a Ceri Rhys Matthews, Mererid Hopwood, Michael Harvey, N’famady Kouyaté, People Speak Up, Sally Pomme Clayton, TUUP a The Successors of the Mandingue.

Mae Gŵyl Beyond the Border yn cynnig cyfle i ymwelwyr ymlacio ac ailgysylltu gyda natur, i ymchwilio safle ysblennydd Dinefwr, gyda cherdded yn y coedlannau a’i gastell hanesyddol, yn gyforiog o chwedlau a mythau. Mae’r amgylchedd naturiol yn cynnig digonedd o ffyrdd i ymlacio gyda ffrindiau a theulu a mwynhau stondinau bwyd a diod blasus yn cynnig cynnyrch gorau lleol a Chymreig.

Mae tocynnau dydd, penwythnos a gwersylla ar gael yn awr ar gyfer oedolion, pobl ifanc a theuluoedd a chaiff plant dan 5 fynd i mewn am ddim. Mae hefyd nifer gyfyngedig o leoedd i wersylla dan y sêr yn Ninefwr. Bydd gostyngiadau pris i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a phobl sy’n byw yn ardal cod post SA.

Cefnogir gan

^
Cymraeg