Gwyddom fod llawer o’n cynulleidfa eisiau archebu ar gyfer y flwyddyn nesaf ond y gallent fod yn bryderus sut fydd y 10 mis nesaf. O ddydd Llun 16 Tachwedd byddwn yn defnyddio system Swyddfa Docynnau newydd a bydd y tocynnau presennol ar werth ar y pris presennol ar gyfer tocynnau tan 30 Tachwedd 2020.
Rydym hefyd wedi diweddaru ein Telerau ac Amodau felly os oes angen i chi ganslo eich archeb am ba bynnag rheswm, gallwch wneud hynny hyd at y diwrnod cyn yr ŵyl. Os ydych yn canslo eich tocyn, dim ond eich Ffi Gweinyddol o 6% y byddwch yn ei golli.
O 1 Rhagfyr 2020 caiff prisiau ar gyfer tocynnau penwythnos a gwersylla a phenwythnos ar y safle eu cynyddu a byddant yn dal i fod ar werth ar sail cyntaf i’r felin nes byddant i gyd wedi eu gwerthu.
Oherwydd y sefyllfa bresennol byddwn yn cyfyngu’r nifer o docynnau penwythnos (dim gwersylla) a thocynnau dydd. Byddwn yn cyhoeddi nifer gyfyngedig o 1 Ebrill 2021 y flwyddyn nesaf.
O 1 Ebrill ni fydd tocynnau gwersylla ar y safle ar gael i’w prynu. Gallwch ddal i brynu tocynnau penwythnos a thocynnau dydd a mwynhau’r rhaglen helaeth, ond bydd hyn ar bris uwch o 1 Ebrill 2021 ac ni fydd yn cynnwys gwersylla ar y safle.
Rydym eisiau sicrhau pan fyddwn yn dod â’r ŵyl fyw i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dinefwr yn 2021 ei bod yn ddiogel a chysurus i’n holl gynulleidfaoedd, artistiaid a phawb sy’n gweithio yn yr ŵyl. Bydd angen i ni ddod i mewn â chyfleusterau ac elfennau diogelwch ychwanegol sy’n golygu y bu’n rhaid cynyddu prisiau tocynnau o 31 Rhagfyr 2020. Os ydych eisiau arbed ar bris llawn tocynnau Penwythnos a Phenwythnos a Gwersylla, gwenwch hynny nawr ar y pris is cyn 31 Rhagfyr os gwelwch yn dda.
Gwyddom y gall fod posibilrwydd o gyfnodau clo lleol a digwyddiadau’n cael eu canslo oherwydd y sefyllfa barhaus. Os caiff y digwyddiad ei ganslo, byddwn yn eich hysbysu ar unwaith drwy e-bost ynghyd â chyfarwyddiadau ar beth i’w wneud nesaf.
Bydd gennym opsiwn ar-lein ar gyfer rhai sydd eisiau cysylltu ar-lein, ond hefyd weithdrefn syml i naill ai ofyn am ad-daliad neu gadw eich tocynnau ar gyfer y digwyddiad byw.