body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Gwyl 7-9 Gorffennaf 2023

Beyond the Border 7-9 Gorffennaf 2023

Beyond the Border yw gŵyl chwedleua fwyaf Prydain ac i ddathlu ein pen-blwydd yn 30, byddwn yn dod â’r chwedleuwyr ac artistiaid gorau o Gymru, Prydain a rhyngwladol i Dinefwr, Sir Gaerfyrddin (SA19 6RT)

Mae’r lleoliad anhygoel hwn yn gyforiog o straeon, mythau, chwedlau, hanes, gyda bywyd gwyllt a natur o’n cwmpas ym mhobman.

Cynhelir ein gŵyl hudolus ymysg y tirwedd, adeiladau, castell a choedwigoedd yn llawn straeon, perfformiadau a cherddoriaeth fyw ar gyfer oedolion, pobl ifanc a’u teuluoedd.

Yn ogystal â’n pen-blwydd yn 30 oed, byddwn yn dathlu cymunedau amrywiol Cymru yn eu gwahanol ieithoedd.

Byddwn yn cynnig ein rhaglen arferol o’r chwedleuwyr gorau yng Nghymru, Prydain a’r byd, ynghyd ag anturiaethau chwedleua newydd a lleisiau newydd.

Bydd hefyd droeon stori, gweithdai, sgyrsiau yn ogystal â ffyrdd i ymlacio yn y lleoliad godidog hwn.

Mae nifer gyfyngedig o leoedd ar gael ar ein cae Gwersylla a hefyd safle Cerbydau Byw a Chysgu. Rhagwelwn y bydd y ddau safle yn llenwi mewn dim o dro felly byddem yn eich cynghori i archebu’n gynnar os dymunwch aros ar y safle.

Tocynnau Bargen Gynnar WEDI GWERTHU I GYD

Tocynnau Penwythnos, Diwrnod a Gwersylla a gwersyll Cerbydau i Fyw ynddynt AR WERTH NAWR.

ARCHEBWCH NAWR AR-LEIN

Prisiau Tocynnau

Beth allwn ni ei ddweud wrthych cyn belled am raglen 2023

Dyma’r Amser i fwynhau Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Beyond the Border 2023, gŵyl hudolus yng nghanol tirwedd, castell a choetir Dinefwr, gyda storïau, perfformiadau a cherddoriaeth fyw i oedolion, pobl ifanc a theuluoedd o bob math a maint.

Mae’r ŵyl yn 30 eleni a byddwn yn dathlu gorffennol, presennol a dyfodol chwedleua yng Nghymru, trwy lens ieithoedd, storïau a cherddoriaeth o Ewrop a’r byd – gyda gwahoddedigion rhyngwladol arbennig yn cynnwys Csenge Zalka chwedleuwraig am y troseddwyr gwaethaf a chwedleuwraig llên gwerin ffeministaidd o Hwngari a Joe Baele ‘Musketeer anarchaidd’ Gwlad Belg.

Bydd un o ffefrynnau’r ŵyl Daniel Morden â’r ffidlwr eithriadol Oli Wilson-Dickson yn rhannu eu cymysgedd fywiog o hwyl llên gwerin i deuluoedd. A hefyd, y seiri geiriau meistrolgar, TUUP a Sally Pomme Clayton gyda chwedlau llawn awyrgylch a risqué weithiau yn hwyr y nos i oedolion!

Traddodiadau dilys o gerddoriaeth a storïau o Orllewin Affrica gyda’r perfformiwr meistrolgar ar y Balafon N’famady Kouyaté a bydd Successors of the Mandingue yn cyfarfod ein triawd o Gyfarwyddion Cyfoes Mycelium, Mair Tomos Ifans, Jo Munton a Deb Winter i rannu tameidiau o’r chwedlau a gasglwyd yn ystod eu cyfnod preswyl o flwyddyn ar draws Cymru.

Cymysgedd arbennig o syrcas, dawns a drama gan ein partneriaid Citrus Arts a chyfleoedd i rannu eich stori eich hun ar Ddydd Sadwrn Llafar gyda People Speak Up. Mae sioeau i deuluoedd, sesiynau drama ben bore i’r plant, perfformiadau wedi eu hysbrydoli gan Cad Goddeu: The Battle of the Trees a darn newydd Carl Gough yn teithio trwy amser Nexus, yn trafod penderfyniadau a fydd, gobeithio, yn ein harwain at ddyfodol mwy disglair. Hyn i gyd, a Cath Little, Alim Kamara, Christine Watkins, a llawer mwy o artistiaid, cerddorion a chwedleuwyr i’w cyhoeddi dros y misoedd nesaf.

Yn ogystal â storïau, cerddoriaeth a chelfyddydau'r awyr agored, mae’r ŵyl yn cynnwys teithiau cerdded a sgyrsiau i’ch ysbrydoli yn ogystal â digon o ffyrdd i ymlacio a mwynhau bwyd, crefftau a lluniaeth lleol yn y lleoliad trawiadol hwn.

Darllen mwy artist

Cefnogir gan

^
Cymraeg