GWYBODAETH BWYSIG
Dim ond drwy wefan Beyond the Border a Brown Paper Tickets y gellir prynu tocynnau. Taliesin Arts Centre, Swansea.
Aiff Tocynnau Deryn Cynnar ar werth ddydd Gwener 28 Hydref 1yh
Bydd prisiau yn codi ym mis Chwefror a mis Mawrth.
Bydd Swyddfa Docynnau Canolfan Gelfyddydau Taliesin yn codi ffi gweinyddol a cherdyn credyd o 10%.
Ni fedrir prynu tocynnau ar gyfer yr Ŵyl drwy Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dinefwr.
Ni fedrir prynu tocynnau ar gyfer yr Ŵyl drwy Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dinefwr.
Os hoffech archebu dros y ffôn ymlaen llaw, cysylltwch â Swyddfa Docynnau Canolfan Gelfyddydau Taliesin (oriau agor yw 1pm-5pm GMT dydd Llun i ddydd Gwener).
Beth mae fy nhocyn yn ei gynnwys?
Oherwydd cyfyngiadau lle ar ein safle gwersylla a safle cerbydau byw-a-chysgu, mae tâl ychwanegol ac mae’n rhaid archebu hyn gyda’ch tocyn penwythnos i sicrhau eich lle.
Bydd tocynnau Penwythnos a Dydd yn caniatáu mynediad i raglen yr Ŵyl rhwng dydd Gwener 7 Gorffennaf 6pm, dydd Sadwrn 8 Gorffennaf 11am-canol-nos a dydd Sul 9 Gorffennaf 11am – canol nos.
Bydd cyfleusterau cawod a thoiled ar y safle
Bydd tocynnau Penwythnos a Dydd yn caniatáu mynediad i raglen yr Ŵyl rhwng dydd Gwener 7 Gorffennaf 6pm, dydd Sadwrn 8 Gorffennaf 10am-canol-nos a dydd Sul 9 Gorffennaf 10am – canol nos.
Mae lleoedd parcio ceir am ddim ar gyfer deiliaid tocyn Penwythnos a Dydd. Mae’n 5 munud ar droed o fynedfa’r Ŵyl.
Os ydych yn ymweld â safle’r Ŵyl ac nad oes gennych docyn penwythnos neu ddydd mae ffi parcio o £5, os nad ydych yn aelod o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mynediad i Newton House, Dinefwr
Rhestr lawn o Fannau Gwersylla yma
TELERAU AC AMODAU
Yn ogystal â’r Telerau ac Amodau hyn, mynychwyr yr Ŵyl yn cytuno i gydymffurfio gyda ‘Rheolau Ymddygiad yr Ŵyl’. Mae’r rhain ar gael ar wefan Beyond the Border, yn rhaglen yr Ŵyl a chânt eu dangos yn Swyddfa Docynnau yr Ŵyl yn ystod y digwyddiad.
Gofynnir i chi roi amser i ymgyfarwyddo gyda nhw fel fod pawb yn mwynhau’r Ŵyl.
Nid yw'r Telerau ac Amodau hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol fel defnyddiwr. I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau statudol cysylltwch â Cyngor Ar Bopeth neu'r Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau.
Diweddarodd Beyond the Border y Telerau ac Amodau ar 1 Hydref 2022.
Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio’n rheolaidd i benderfynu os cafodd y Telerau ac Amodau eu newid.
1. Cyffredinol
- Bydd prif raglen cae yr Ŵyl ar gael o 6pm-12 canol-nos ddydd Gwener 7 Gorffennaf 2021 a 10am-11pm ddydd Sadwrn 8 a dydd Sul 9 Gorffennaf 2023.
- Mae Beyond the Border yn cadw'r hawl i newid y rhaglen cyn ac yn ystod yr ŵyl lle mae angen rhesymol i wneud hynny
- Caiff cynulleidfaoedd eu hatgoffa hefyd am y mesurau diogelwch ac ymddygiad ar y safle un mis cyn yr Ŵyl ac unrhyw ddiweddariad ar ôl hynny. Gallwch hefyd ddarllen mwy am Wybodaeth Diogelwch BtB ar y dudalen hon.
- Mae Beyond the Border ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dinefwr yn gweithio i wneud hon ein gŵyl fwyaf hygyrch erioed. Rydym hefyd yn gweithio i sicrhau fod ein rhaglen digwyddiadau yn fwy hygyrch ar gyfer ein cynulleidfaoedd, gyda mwy o BSL yn ogystal â chyflwyno disgrifiadau sain, teithiau cyffwrdd, is-deitlau a defnyddio amrywiaeth o offer digidol a thechnoleg. Mae manylion llawn ein cyfleusterau a gofynion mynediad ar gael yn beyondtheborder.com.
- Mae Tir Parc Dinefwr yn fferm waith ac felly bydd da byw mewn caeau cyfagos, felly dylai pob ci gael ei gadw ar dennyn tra mae ar y safle.
- Ni chaniateir unrhyw fasnachu ar y safle heblaw gan fasnachwyr a awdurdodwyd gan Beyond the Border.
- Mae’r mynychwyr yn rhoi caniatâd i gael eu ffilmio, tynnu llun ohonynt a’u recordio tra’u bod yng ngweithgareddau’r Ŵyl i’w defnyddio yn neunyddiau hyrwyddo Beyond the Border. Yn ychwanegol, caiff nifer o’r digwyddiadau eu ffrydio’n fyw ar fideo ar-lein ar gyfer cynulleidfaoedd na fydd yn medru mynychu’r digwyddiad byw.
- Caniateir i'r rhai sy'n mynychu ddod ag alcohol ar gyfer defnydd personol i'r wersyllfa ond nid i brif safle'r ŵyl neu adeiladau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
- Mae'n rhaid i'r rhai sy'n mynychu barchu cyfarwyddyd y stiwardiaid ar y safle.
- Yn unol ag ethos o chwedleua llafar, mae Beyond the Border yn gwahardd yn llwyr ddefnydd heb ganiatad o offer recordio sain/gweledol yn ystod perfformiad.
- Ni chaniateir ysmygu unrhyw le ar y safle. Mae hyn yn cynnwys e-sigarets
- Mae gan Beyond the Border hawl, ond nid y rheidrwydd, i fonitro unrhyw weithgaredd a chynnwys amhriodol yn gysylltiedig gyda Beyond the Border ar-lein (h.y. ffilmio a darlledu heb ganiatâd, ymddygiad amhriodol ar-lein tuag at yr ŵyl a staff). Gallwn ymchwilio unrhyw gwynion a chymryd unrhyw gamau gweithredu a farnwn yn briodol a all gynnwys, ond heb ei gyfyngu i, roi rhybuddion, atal, terfynu neu osod amodau ar eich mynediad i'r Ŵyl a/neu ofyn am unrhyw ddeunyddiau i gael eu tynnu oddi ar lein.
- Dylech dybio fod hawlfraint ar bopeth a welwch ac a ddarllenwch ar wefan a chyfryngau cymdeithasol Beyond the Border os na nodir fel arall, ac ni chaniateir ei ddefnyddio mewn man arall heblaw gyda chaniatâd. Cedwir pob hawl.
2. Tocynnau a bandiau arddwrn
- Mae mynediad i Barc Dinefwr ar agor i’r cyhoedd ac felly gallwch gael mynediad i ran o safle gŵyl Beyond the Border am ddim, fodd bynnag mae angen pas penwythnos neu ddydd i gael mynediad i safle’r Ŵyl. Nid yw aelodaeth o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol neu Cadw yn caniatáu mynediad i chi i i ofodau a gweithgareddau fodd bynnag mae prisiau tocyn rhatach ar gael.
- Bydd Beyond the Border yn cynnig system prisio haenog yn seiliedig ar i’r tocynnau rhataf gael eu cynnig gyntaf fel Tocynnau Deryn Cynnar o 28 Hydref 2022. Rhain fydd y tocynnau rhataf a dim ond am gyfnod cyfyngedig y byddant ar gael. Pris y tocyn fydd y pris a osodwyd adeg y byddwch yn archebu. Mae’r holl brisiau a hysbysebwyd yn eithrio ffioedd archebu a gweinyddol, a godir ar ddiwedd trafodiad gan Ganolfan Celfyddydau Taliesin. Ffioedd gweinyddol a cherdyn credyd Canolfan Celfyddydau Taliesin yw 10% fesul trafodiad. Ni dderbynnir unrhyw archeb nes bod Canolfan Celfyddydau Taliesin/BtB wedi derbyn taliad llawn mewn cyllid a gliriwyd.
- Ni fydd gan y sawl sy’n mynychu’r Ŵyl i Dŷ Newton yn ystod yr Ŵyl (oriau agor yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn unig) a gaiff ei gynnwys yn nhocynnau’r Ŵyl.
- Gall deiliaid tocynnau dydd ddydd Sadwrn a dydd Sul gael mynediad i safle'r ŵyl o 10am tan gau rhaglen yr ŵyl. Ni chaniateir gwersylla ar gyfer deiliaid tocyn dydd
- Ni chaiff tocynnau eu cyhoeddi cyn y digwyddiad. Bydd angen i’r sawl sy’n mynychu’r Ŵyl i gyflwyno eu cyfeirnod archebu/rhif archeb, tystiolaeth o bwy ydynt (cerdyn banc, trwydded gyrru ac yn y blaen) a cherdyn aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (os yn hawlio gostyngiad) ac yna rhoddir band arddwrn iddynt.
- Mae’n rhaid gwisgo bandiau arddwrn ar yr arddwrn bob amser yn ystod eich presenoldeb yn yr Ŵyl.
- Gall plant 5 oed a iau fynd i'r ŵyl am ddim. Fodd bynnag, mae angen i docyn 'Plentyn (5 oed a iau)' fod wedi eu harchebu ar eu cyfer.
- Mae'n rhaid rhoi rhif ffôn oedolyn cyfrifol ar fandiau arddwrn plant.
- Gall y rhai sy'n mynychu'r ŵyl fynd a gadael safle'r ŵyl ond mae'n rhaid iddynt gadw eu bandiau arddwrn a'u cyfeirnod archebu arnynt.
- Dim ond ar gyfer defnydd personol y ceir prynu tocynnau ac nid i'w gwerthu ymlaen, hysbysebu, hyrwyddiadau, cystadlaethau neu swîp.
- Mae Beyond the Border yn cadw'r hawl i ganslo unrhyw archeb y mae gennym sail resymol dros amau iddynt gael eu gwneud yn dwyllodrus
3. Ad-daliadau a Chanslo
- Ni fyddwn yn cynnig ad-daliadau ar gyfer Gŵyl Beyond the Border 2023 ac fe’ch cynghorwn yn gryf i gymryd yswiriant ar gyfer y digwyddiad.
- Os yw'n rhaid canslo'r ŵyl am unrhyw reswm, byddwn yn eich hysbysu drwy e-bost neu alwad ffôn yn y lle cyntaf cyn cyhoeddi gwybodaeth ganslo ar-lein. Eich cyfrifoldeb chi yw ein hysbysu am unrhyw newidiadau mewn manylion cyswllt, enw, e-bost, rhif ffôn neu gyfeiriad fel y gallwn eich hysbysu am newidiadau.
- Os yw’n rhaid i Beyond the Border ganslo’r digwyddiad, yna rhoddir ad-daliadau neu opsiwn i drosglwyddo eich tocyn i’r Ŵyl nesaf.
- Ni fydd unrhyw newidiadau sydd eu hangen i'r rhaglen yn rhoi hawl i'r sawl sy'n archebu i gael unrhyw ddisgownt neu ad-daliad o brisiau'r tocyn.
4. Cyfyngiadau Oedran
- Mae'n rhaid i bobl ifanc dan 18 gael eu goruchwylio gan oedolyn cyfrifol (dros 21 oed) bob amser. Gall rhieni a gwarcheidwaid fod yn gyfrifol ar bob amser am rai dan 18 oed yn yr ŵyl sy'n mynychu gyda nhw. Nid yw Beyond the Border yn derbyn unrhyw ddyletswydd gofal neu ymrwymiad rhieni neu oruchwylio ar gyfer unrhyw un dan 18 oed ar y safle.
- Rydym yn cynghori pobl ifanc 18 oed a throsodd i ddod â thystiolaeth o oedran, gan y byddwn yn gadarnhad o'u hoedran os ydynt yn edrych dan 25 oed.
- Ni chaniateir i ran dan 18 brynu alcohol ar y safle. Bydd polisi her 21 yn ei le ar gyfer pob gwerthiant alcohol ar y safle. Mae'n anghyfreithlon i unrhyw un i brynu alcohol ar ran rhai dan 18.
- Gall fod cyfyngiad oedran ar rannau o'r rhaglen artistig oherwydd cynnwys aeddfed. Dangosir hyn yn rhaglen yr ŵyl.
5. Gwersylla
- Mae lleoedd cyfyngedig ar gael ar gyfer gwella a chaiff ei gynnig ar sail cyntaf i’r felin. dim ond i gwsmeriaid sy’n prynu tocynnau penwythnos y mae ar gael.
- Ni fedrir prynu tocynnau gwersylla neu gerbydau byw-a-chysgu gyda Thocynnau Dydd.
- Bydd safle gwersylla’r Ŵyl yn agor am 11an ddydd Gwener 7 Gorffennaf 2023 ac yn cau am 11am ddydd Llun 10 Gorffennaf 2023.
- Mae lleoedd parcio ger y safle gwersylla ar gyfer gwersyllwyr yr Ŵyl. Ni chaniateir cerbydau ar y safle gwersylla. Dylai pob cerbyd ddefnyddio’r maes parcio, 5 munud ar droed o fynedfa’r Ŵyl a 5 munud i fynedfa’r safle gwersylla
- Mae oriau tawel ar y safle gwersylla rhwng 10pm a 8am. Ni chaniateir defnyddio offerynnau neu ddyfeisiau chwyddo sain personol yn ystod yr amserau hyn.
- Oriau tawel y wersyllfa yw 10pm tan 8pm. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd offerynnau neu offer sain personol yn ystod y cyfnodau hyn
- Caiff y rheoliadau gwersylla eu cylchredeg ym mis Mehefin 2023 i’r rhai sy’n gwersylla, pan fydd y Telerau ac Amodau hyn wedi eu diweddaru i’w cynnwys.
- Mae nifer gyfyngedig o ofodau ar gael ar gyfer faniau byw-a-chysgu ac fe’u cynigir ar sail cyntaf i’r felin. Dim ond i gwsmeriaid sy’n prynu tocynnau penwythnos yr Ŵyl y maent ar gael.
6 Data Personol
- Caiff unrhyw ddata personol a drosglwyddwch i ni drwy bost electronig neu mewn modd arall ei ddefnyddio gennym yn unol â'n Polisi Preifatrwydd a thrwy brynu tocynnau rydych yn derbyn ein Polisi Preifatrwydd sydd ar gael i'w weld PRIVACY POLICY
- Nid yw Beyond the Border yn cadw unrhyw wybodaeth ariannol bersonol. Caiff pob taliad am docyn eu gwneud drwy gwmni trydydd parti, Canolfan Celfyddydau Taliesin/Ticket Solve.
7 Diogelwch ac Atebolrwydd Cyhoeddus
- Mae Beyond the Border eisiau sicrhau diogelwch ei gynulleidfaoedd, artistiaid a staff wedi creu dogfen gyfredol ar fesurau diogelwch ar sut y bydd BTB yn gwneud y profiad yn ddiogel i bawb.
- Mae mynychwyr yr ŵyl yn mynd ar y safle ar y risg eu hunain.
- Ar gyfer diogelwch pawb sy'n mynychu'r ŵyl, cynhelir chwiliadau diogelwch ar fynediad i'r safle. Gallwch gael eich chwilio wrth y fynedfa neu unrhyw rhan o faes yr ŵyl neu mewn gweithgareddau safle. Gellir gwrthod mynediad i bobl sy'n anfodlon cael eu chwilio neu gellir eu troi o'r safle a chael ei band arddwrn wedi ei dynnu.
- Ni chaniateir yr eitemau dilynol ar faes yr ŵyl neu o amgylch Tŷ Newton neu Gastell Dinefwr ac os deuir o hyd iddynt cânt eu tynnu oddi ar y rhai sy'n mynychu a gall olygu y bydd y gwrthodir mynediad iddynt neu ofyn iddynt adael yr ŵyl:
- Sylweddau anghyfreithlon
- Nwy chwerthin
- Tannau agored neu farbeciws
- Generaduron
- Cynwysyddion gwydr
- Unrhyw beth y gellid ei ddehongli fel arf neu fygythiad
- Tân gwyllt, ffaglau neu ffrwydron.
- Systemau sain, laserau neu oleuadau strôb.
- Mae Beyond the Border a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cadw'r hawl i wrthod mynediad i fynychwyr i'r digwyddiad os ystyriwn eu bod yn risg, anghyfleuster neu ymyriad posibl i eraill.
5. Mae’n rhaid i fynychwyr yr Ŵyl gydymffurfio gyda’r holl statudau, cyhoeddiadau diogelwch a chyfarwyddiadau perthnasol gan staff y lleoliad pan fyddant yn mynychu’r Ŵyl. Gellir gwrthod mynediad i rai rhannau o’r Ŵyl i bobl nad oes ganddynt awdurdod.
6.Pe byddai ymddygiad gwrthgymdeithasol, afreolus, anniogel neu anghyfreithlon neu ddiffyg cyd-weithredu gyda swyddogion y digwyddiad, efallai na chewch fynediad neu gall fod angen i chi adael y safle. Ni chaniateir ail-fynediad os yw hynny’n digwydd.
7. Os oes gen fynychwyr unrhyw ofynion arbennig neu bryderon am unrhyw effeithiau arbennig (mae’r rhain yn cynnwys sain, clyweledol, effeithiau pyrotechnig neu effeithiau golau) a all gael sylw, yna dylid rhoi hysbysiad ymlaen llaw i Beyond the Border drwy e-bost.
8. Mae trefniadau personol mynychwyr yr Ŵyl yn cynnwys teithio, llety neu letygarwch yn ymwneud â’r Ŵyl ar eu risg eu hunain.
9.Nid yw Beyond the Border yn atebol am golled neu iawndal am gerbydau, nwyddau neu ddeunyddiau eraill sy’n eiddo mynychwyr, artistiaid a chriw sy’n mynychu’r Ŵyl.
10. Ni fydd Beyond the Border nac unrhyw un o’i asiantau yn gyfrifol mewn unrhyw amgylchiadau am unrhyw iawndal yn cynnwys ond heb ei gyfyngu i unrhyw iawndal uniongyrchol, anuniongyrchol, arbennig, dilyniadol, cosbol neu ddigwyddiadol, neu iawndal am golli defnydd, elw, data neu eitemau anniriaethol eraill neu gost caffael nwyddau gwasanaethau yn lle, yn deillio allan neu’n gysylltiedig â’r Ŵyl, p’un ai yw iawndal o’r fath yn codi mewn contract, esgeulustod, cyfraith droseddol, dan statud, mewn ecwiti, yn y gyfraith neu fel arall, heblaw (a) mewn unrhyw amgylchiadau lle mae toriad ar ddyletswydd gofal cyfreithiol i Beyond the Border; (b) mewn amgylchiadau lle mae colled neu iawndal o’r fath yn ganlyniad rhesymol rhagweladwy unrhyw doriad o’r fath; a (c) i’r graddau y bydd unrhyw gynnydd mewn unrhyw golled neu iawndal nad yw’n codi o doriad gan fynychwyr yr ŵyl neu unrhyw un o’r Delerau ac amodau hynny.
11.Nid oes dim yn y Telerau ac Amodau hynny yn gweithredu i eithrio neu gyfyngu atebolrwydd Beyond the Border am farwolaeth neu anaf personol yn ganlyniad i’n hesgeulustod, twyll neu unrhyw atebolrwydd arall, na all gael ei eithrio neu ei gyfyngu gan y gyfraith berthnasol.
Dylai unrhyw gwynion am yr ŵyl gael eu gwneud yn brydlon i Beyond the Border. Os bydd unrhyw anghydfod, bydd Beyond the Border yn ceisio eu datrys cyn gynted ag sydd modd.
Yr hyn a ddisgwyliwn gan ein mynychwyr
Ymddygiad cyffredinol
Rydym yn ddiolchgar i ni gael caniatâd i ddefnyddio’r tir a gaiff ei reoli a’i ofalu ar y cyd gan NT Dinefwr, yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt a CADW. Mae safle gŵyl Beyond the Border yn gweithio ar draws ardaloedd a gaiff eu rheoli gan bob un o’r tri sefydliad, mae gan bob un ei reoliadau ei hun i ddiogelu treftadaeth, natur a bywyd gwyllt ac mae’n rhaid i gynulleidafoedd yr Ŵyl gydymffurfio â phob rheoliad.
Mae’n fraint fawr i Ŵyl Chwedleua Beyond the Border a’i mynychwyr fedru mwynhau gŵyl chwedleua mewn safle sy’n gyforiog o fyth, chwedlau, tirlun, hanes, treftadaeth, bywyd gwyllt a natur.
Felly rydym yn ymroddedig i fod yn ŵyl gydag effaith 0 ar y tirlun unigryw ac arbennig hwn. Rydyn ym ymroddedig i weithio gyda’r partneriaid hyn i gefnogi eu brwydr yn erbyn colli bioamrywiaeth, diogelu’r Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a diogelu cynefinoedd bywyd gwyllt, rydym yn benderfynol i adael yr ystlumod, ceirw, moch daear ac adar, a chynifer o rywogaethau eraill i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau.
Gofynnwn i chi weithio gyda ni i wneud hyn ac ystyried eich dewisiadau yn yr Ŵyl ac ar eich taith iddi.
Diweddarwyd y Telerau ac Amodau ar 1 Hydref 2023.