CASGLU is the Welsh word for Gathering (pronounced ‘Casglee’).
Cychwynnodd CASGLU yn ystod y cyfnod clo ym mis Mawrth 2020, fel man cyfarfod anffurfiol ar-lein ar gyfer chwedleuwyr o Gymru bob dydd Gwener ar Zoom - man i gasglu pan nad oedd cyfarfodydd arferol yn bosibl ac i drafod pynciau creadigol llosg. Parhaodd y sesiynau trwy gydol 2020, gan redeg am 1- 1.5 awr fel arfer ac yn cael eu harwain gan Gydlynydd Ymgysylltiad Beyond the Border, Tamar Eluned Williams.
Mae’r cyfarfodydd yn fannau bywiog ac anffurfiol, lle bydd y trafodaethau yn cychwyn trwy brocio trafodaeth, ac yna symud i grwpiau llai i gael sgyrsiau manwl a phreifat. Bydd crynodeb o’r trafodaethau bychan yma wedyn yn cael eu rhannu gyda’r grŵp cyfan ar ddiwedd y sesiwn.
Derbyniodd BTB yn awr gyllid gan raglen grant Gweithio yn Rhyngwladol Llenyddiaeth y Cyngor Prydeinig, i gynnal chwech o gyfarfodydd rhyngwladol o fis Mawrth 2021, yn canolbwyntio ar ddatblygu cysylltiadau rhwng chwedleuwyr o Gymru a chwedleuwyr yn Ghana, Kenya a De Affrica.
Bydd y cyfarfodydd rhyngwladol yma yn rhedeg ar ddydd Gwener cyntaf pob mis, yn para am 60-90 munud ac yn cynnwys cyfuniad o sgyrsiau procio trafodaeth cychwynnol gan chwedleuwyr o Affrica, cyfarfodydd grwpiau llai i bobl drafod y pynciau perthnasol ac yna cyfarfod i’r grŵp cyfan i ni glywed am sgyrsiau pawb.
Bydd y rhaglen yn dechrau o fis Mawrth 2021 ac yn cael ei chynnal ar y dyddiadau canlynol:
Dydd Gwener 5 Mawrth
Dydd Gwener 9 Ebrill
Dydd Gwener 7 Mai
Dydd Gwener 4 Mehefin
Dydd Gwener 3 Medi
Dydd Gwener 1 Hydref
Amseriad:
Mae CASGLU fel arfer yn cael ei gynnal am 11am GMT. Gallwn newid yr amser i wneud y sesiynau mor hygyrch â phosibl i chwedleuwyr rhyngwladol, gan gynnwys pobl mewn swyddi yn ystod y dydd y byddai’n well ganddynt gyfarfod ar fin nos. Rydym wedi trefnu arolwg i wirio pryd sydd orau i’r rhan fwyaf o bobl ynghyd ag ychydig o gwestiynau eraill am bynciau trafod. Os hoffech fod yn bresennol, dilynwch y ddolen hon i roi gwybod i ni am eich syniadau o ran yr amser gorau i chi.
https://www.surveymonkey.co.uk/r/332FTQC
Cyfieithu a Mynediad:
Cyfieithu a Mynediad:
Mae CASGLU yn fan cyfarfod dwyieithog Cymraeg/Saesneg gyda’r dewis i dorri i grwpiau llai i drafod yn y naill iaith neu’r llall. Rydym yn awyddus iawn i groesawu chwedleuwyr sy’n dymuno trafod mewn ieithoedd o’u dewis - a gallwn gynnig gwasanaeth cyfieithu. Os oes gennych unrhyw ofynion eraill o ran mynediad, fel iaith arwyddion neu gapsiynau, rhowch wybod inni ac fe wnawn ein gorau i drefnu hyn.
Pynciau’r Cyfarfodydd:
Pynciau’r Cyfarfodydd: Canolbwyntiodd sesiynau 2020 ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys mynediad at hyfforddiant a mentora, sut i ymdrin â stereoteipiau a chyfeddiant diwylliannol mewn chwedleua, chwedleua a’r theatr, cydweithrediad rhyngwladol, chwedleua ac iaith gan gynnwys gweithio yn ddwyieithog ac amlieithog a defnyddio ieithoedd lleiafrifol wrth chwedleua.
Bydd pob sesiwn yn cychwyn gydag ysgogiad 2-3 munud neu rannu profiad gan un neu ddau o artistiaid. Diolch i’r cyllid gan y Cyngor Prydeinig, bydd ein cyfarfodydd rhyngwladol yn cynnwys ysgogiad i drafod gan artistiaid o Affrica o fis Ebrill ymlaen.
Mae croeso i bobl awgrymu pynciau o ddiddordeb arbennig yn ein harolwg https://www.surveymonkey.co.uk/r/332FTQC, neu yn unrhyw un o’r cyfarfodydd.