body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Kama Roberts & Emergency Turtle (Rhagfyr)

Ym mis Rhagfyr mae Kama Roberts yn sôn am ddatblygiad ei chwmni newydd Emergency Turtle a’u sioe chwedleua, cerddoriaeth fyw a chaneuon newydd, Shadow Puppetry.

Hoffech chi wybod mwy am y prosiect? Bydd Kama yn siarad am bypedau cysgod yn ein sesiwn Coffi a Chlonc ddydd Gwener 11 Rhagfyr am 11am, gyda chyfleoedd i ofyn cwestiynau am y cwmni a’r prosiect. I fod yn rhan o’r sesiwn ar-lein, anfonwch e-bost at tamarwilliams@beyondtheborder.com

Beth yw'r prosiect?

Rydym yn gwmni newydd yn y Canolbarth o’r enw Emergency Turtle sy’n cyfuno chwedleua, pypedau cysgod, cerddoriaeth fyw a chân. Bu’n daith gyffrous i’r tri ohonom fel artistiaid. Mae fy nghefndir i mewn theatr ond mae gwneud theatr yng nghefn gwlad y Canolbarth yn galed pan fo cyn lleied o berfformwyr i weithio gyda nhw. Rwy’n teimlo egni pan fyddaf yn dechrau dweud straeon – roedd gen i’n sydyn gyfraniad clir y gwyddom ei fod yn barod ar gyfer dull traws-gelf, cydweithio a chysylltais yn sydyn gyda dau ffrind lleol y gwyddwn y byddwn wrth fy modd yn gweithio gyda nhw.

James Jones Morris, yw’r artist pyped cysgod. Mae’n animeiddiwr gwych, ac wedi gweithio i gwmnïau fel Wild Works, Coney a Rough Fiction yn ogystal â llu o fideos cerdd ar drws Ewrop. Roedd eisoes defnyddio llawer o bypedwaith cysgod yn ei waith.

Roeddwn wedi gweithio nifer o weithiau gyda Jim Elliott fel cyfarwyddwr cerddorol ar gyfer dramâu roeddwn wedi eu cyfarwyddo neu eu cefnogi mewn modd arall. Mae’n chwarae llawer o offerynnau ac yn gitarydd a chanwr gwych. Mae’n gyfansoddwr a chydweithiwr greddfol a daeth gweithio gyda stori fel ail natur iddo mewn dim o dro.

Mae’r sioe yn dilyn tri ysbryd afon; Ystwyth, Hafren a Gwy a gafodd eu geni o dorcalon Pumlumon, eu cawr o dad. Pan maent yn tyfu’n rhy fawr i’r mynydd, mae eu tad yn gwneud tri chlogyn hudolus iddynt sy’n eu helpu i gario oddi ar y mynydd. Mae’r sioe yn olrhain eu hanturiaethau wrth iddynt gerfio eu llwybrau eu hunain ar draws tir a môr.

I bwy yw e a sut gall bobl gymryd rhan ynddo?

Ein ffocws wrth wneud y gwaith oedd dweud stori gyffrous a diddorol, oedd yn bwysig i ni ac y gallai pawb ei mwynhau – beth bynnag eu hoed. Dywedwn ei bod yn addas ar gyfer 8 oed i oedolion. Mae’n gweddu’n dda i gynulleidfa deuluol hefyd, gan y bydd oedolion yn cymryd haen wahanol o ystyr ohoni. Mae ganddi apêl eang – yn rhannol fel canlyniad i’r disgyblaethau lluosog sydd ynddi. Ein profiad ni yw fod hyn wedi annog cynulleidfaoedd i ymgysylltu gyda chwedleua, er enghraifft, rai na fyddai’n gwneud hynny fel arfer oherwydd eu bod yn hoffi pypedau cysgod neu’r elfen gerddorol. Mae pobl leol, yn arbennig rai gyda chysylltiad gyda’r afonydd dan sylw, wedi cael profiadau neilltuol o ystyrlon gyda’r darn.

Cafodd y sioe ddwy archeb Noson Allan, cafodd ei pherfformio yng Ngŵyl Chwedleua Ynys Wyth, ar gwch yng ngŵyl 6 Music ac roedd i fod i deithio i Ganolfan Celfyddydau Aberystwyth a Chanolfan Celfyddydau Glannau Gwy yn ystod yr haf eleni.

Rydym wrthi’n gweithio mas sut y gallwn addasu’r darn i weddu gyfyngiadau Covid – rydym yn ymchwilio ei berfformio yng nghefn fan fel y gellir ei ddangos mewn gofodau awyr agored a hefyd yn arbrofi gyda’r syniad o’i ddigideiddio – fel cynhyrchiad wedi’i ffilmio neu drwy Zoom; mae gennym archeb ar gyfer naill ai berfformiad byw neu ddigidol yng ngŵyl chwedleua Ynys Wyth ym mis Chwefror a gobeithiwn y gallwn deithio’r darn eto i safleoedd cymunedol a gwyliau cyn rhy hir.

Dywedwch fwy wrthym amdanoch eich hun mewn bywgraffiad byr. Sut wnaethoch chi ddechrau chwedleua? Pa mor hir fuoch chi’n gwneud hyn? Lle ydych chi’n byw? Sut ydych chi’n gweithio gyda stori?

Fe wnes i hyfforddi fel actor yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru. Ers hynny rwyf wedi symud i’r Canolbarth i fagu teulu. Dros y 15 mlynedd ddiwethaf gweithiais fel actor, rheolwr celfyddydau yn y Willow Globe Theatr, fel hwylusydd gweithdy theatr, fel cyfarwyddwr theatr gyda Theatr Ieuenctid Canol Powys ac yn fwyaf diweddar fel chwedleuwr. Fel actor roeddwn yn gweithio’n rheolaidd gyda Pentabus yn Swydd Amwythig a gyda Theatr Powys yn Llandrindod cyn iddynt gau.

Dechreuais ddweud straeon tua tair blynedd yn ôl yn dilyn cwrs wythnos yn Bleddfa gyda Jane Flood a Michael Harvey. Ers hynny rwyf wedi dweud straeon mewn ysgolion ac mewn clybiau gwyliau, mewn partïon preifat a gwyliau. Datblygais lwybr stori ymdrochol awyr agored ar gyfer plant yn Willow Globe, cefais fy nghomisiynu gan Elan Links i gynnal llwybrau stori seren yn y nos mewn cysylltiad â seryddwr lleol a theithiau yn ystod y dydd o Gwm Elan, yn dweud straeon o ac am y tirlun.

Mae gen i ddiddordeb neilltuol mewn mannau lleol a thirluniau a straeon a gafodd eu geni allan o le. Mae gennyf ddiddordeb yn sut mae hyn yn cysylltu gyda fy mhrofiadau personol o’r ardal leol ac eraill sy’n byw yn y tirluniau hyn nawr. Mae LAB diweddar gyda National Theatre Wales wedi fy nghefnogi i ddatblygu’r gwaith yma.

Edrych dros y Cyfnod Clo – oes rhywbeth a welsoch ar-lein yr hoffech ei rannu e.e. fideo/podlediad/digwyddiad ar-lein sydd wedi eich ysbrydoli ar hyn o bryd?

Bu’r cyfnod clo yn wych i mi o ran datblygiad proffesiynol a meithrin rhwydweithiau – mae’r diwethaf yn eithaf anodd fel arfer pan fyddwch yn byw yn y Canolbarth.

Mae Casglu ar frig fy rhestr. Roeddwn wrth fy modd yn clywed gan chwedleuwyr eraill ac edrych ar chwedleua o wahanol safbwyntiau; ymestyn fy syniadau am yr hyn yw ac y gall chwedleua fod a sut y gellir ei ddefnyddio. Mae wedi rhoi amser i mi feddwl dros bethau ac eisoes wedi ysgogi arbrofi gyda chwedleua; yn arbennig yn ymchwilio themâu amgylcheddol.

Rwyf wrthi’n gwneud cwrs MOOC (‘Masive, Open, Online’) gyda Articulture yng Ngorllewin Cymru sydd am greu mewn gofodau cyhoeddus. Cafodd ei ddatblygu gan In Situ a Fai-ar. Bu’n wych ehangu syniadau am greu gwaith yn y awyr agored gan gysylltu gydag artistiaid a chynhyrchwyr o bob rhan o Gymru drwy drafodaethau cytosol ar Zoom.

Rwyf wirioneddol wedi mwynhau cylchoedd stori ar-lein a digwyddiadau a gaiff eu rhedeg gan y Scottish Storytelling Centre a Maria Watton ymysg eraill. Mae hyn wedi fy nghysylltu gyda chwedleuwyr arall ac yn ddiweddar arweiniodd at ffurfio cwlwm Celtaidd rhyngof i, Marie Gillen o Iwerddon a Shona Cowie o’r Alban wrth i ni ddweud straeon o’n mamwledydd Celtaidd ar gyfer Calan Gaeaf/Samhain. Rydym yn cysylltu eto ar gyfer Byrddydd Gaeaf ac yn chwarae gyda’r syniad o gwblhau’r holl Galendr Celtaidd! Mae’n gyffrous fod hyn yn gysylltiad na fyddai digwydd heb Covid.

Cefnogir gan

^
Cymraeg