body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Kestrel – Blog 2

Mae Kestrel yn un o chwedleuwyr y Lleisiau Newydd. Cath Little a Daniel Morden yw mentoriaid Kestrel. Yn y blog diweddaraf, mae Kestrel yn siarad am y broses fentora. Darllenwch flog barddonol ac onest am fethu cysgu gyda syniadau creadigol yn ffrwtian, pryderon am fywyd bob dydd, ceisio bod yn drefnus a phwysau COVID gaeaf yng Nghymru ... a pham mai cofleidio coeden yw’r peth gorau heblaw cwtshio person go iawn.

Mae’n 2am a rydw i’n methu cysgu. Mae’r tân yn llosgi’n isel a’r glaw yn taro to y fan. Does gen i ddim mwy o goed tân tu mewn, i gael mwy byddai’n rhaid i mi fentro mas i noson oer a gwlyb, nid yw’r syniad yn apelio.

Dechreuodd y cyfan ynghynt yn y noswaith. Roeddwn yn ymchwilio hysbysiadau troi pobl allan o’u cartrefi ar gyfer Binderella, yn ceisio canfod y geiriau mwyaf addas am swyddog dienw, pan mae llun o sgwater yn dal fy llygad? Ydw i’n adnabod y person? I mewn i dwll cwningen google.

Mae llun ar ôl llun yn mynd heibio, pynciaid , hipis, anarchwyr ac ymgyrchwyr heddwch, mamau a phlant gweithwyr caled a chlowns difrifol. Sgwaters ym mhob cyflwr o fod wedi ennill neu golli, yn dathlu eu cartrefi newydd, yn gwrthsefyll troi allan, byw, chwerthin, caru a wylo. Rydw i’n edrych am wynebau cyfarwydd, hen atgofion yn cuddio dan haenau o amser a thrawma.

Yna, gwên gyfarwydd, steil gwallt, wyneb mewn mwgwd mai dim ond ffrind fyddai’i ei adnabod. Mae’r hen ffrindiau hyn yn fy arwain yn ôl, lun wrth lun, i’r lluniau o’r lle na fedraf anghofio, y coed a’r gerddi, y baricedau a’r twneli poli, y tai coed, pebyll, yurtiaid a’r hen hangar milwrol rhydlyd hwnnw.

Mae bath tân mewn coedwig, wrth ymyl nant brysur.

Tŵr cam gyda’r geiriau “Cymuned Cyn Elw” ar ongl fach sbriws.

Mae rhai lleoedd yno bob amser, yn hir ar ôl iddynt ddiflannu, wedi’u cerfio’n berffaith yn waliau carreg yr ogofau dwfn lle cadwn ein hatgofion.

Rydw i’n meddwl unwaith eto am bobl yn cael eu troi allan o’u cartrefi. Mae’r Distillers yn chwarae ar offer sain gwael y gliniadur, mae chwyrnu a sgrechian Brody Dale yn rhoi cefnlen ar gyfer pypedau cysgod fy meddwl. Rwy’n cofio am dai ar dân, coed ar dân, peiriannau jac-codi-baw yn y nos, sgrechian metel rhydlyd yn cael ei rwygo, mwg gwenwynig du a dynion hyll yn gweiddi. Mae’r atgof am y trais gyda fi o hyd, pob drws a gafodd ei dorri lawr, pob cartref a ddinistriwyd, pob breuddwyd a chwalwyd, maent yn baent chwistrell yn yr ogof, yn dew ac amrwd, yn cuddio cerfiadau gorwych atgofion o’r gorffennol. Tagiau anniben gyda’r geiriau “Bailiff was ere”.

Mae’n 2am a rydw i’n methu cysgu. Mae meddwl am y troi allan deffro hen ffynnon iselder. Mae rhai straeon yn anodd i’w dweud.

Mae’n aeaf covid ac mae bywyd yn teimlo’n galed.
Mae to’r fan yn gollwng unwaith eto, dyw’r gawod ddim yn gweithio, does dim digon o olau ar gyfer y paneli solar ac mae’r bibell egsost wedi disgyn bant o’r car. Pwy sy’n gwybod beth wnawn ni am y Nadolig?

Rwy’n teimlo fel clown, yn jyglo gormod o deisennau i geisio diddanu cynulleidfa sy’n aros i fi ollwng un. Ai fy fydd â teisen ar fy wyneb neu’r clown yn fy ymyl?

Rydw i’n dweud wrth bawb fod y mentora yn wych.
Rydw i’n meddwl wrth fy hun fod y mentora yn fy llethu.
Am bopeth a ddysgaf rydw i’n dod i wybod am ddau o bethau eraill na wn i ddim byd amdanynt, ni allaf ddysgu’n ddigon cyflym i fodloni fy chwilfrydedd. Mae’r sioe yn mynd yn dda ond mae cymaint mwy i’w wneud o hyd. Mae creadigrwydd yn dod yn rhwydd ond mae trefnu yn galed ac mae Covid yn dal i hongian, yn gwmwl ansicr dros y dyfodol.

Mae Daniel yn fy nysgu am saith lefel tensiwn mewn perfformiad Jacques Lecoq a rydw i’n sylweddoli mai lefel sylfaenol tensiwn perfformiad yw crensian dannedd, pryder a chygnau gwyn. Pryd daeth bywyd mor anodd? Llosgi tai, llosgi coed. Mae rhai straeon yn anodd eu dweud.
Burning houses, burning trees. Some stories are hard to tell.

Mae Daniel yn fy nysgu am saith lefel tensiwn mewn perfformiad Jacques Lecoq a rydw i’n sylweddoli mai lefel sylfaenol tensiwn perfformiad yw crensian dannedd, pryder a chygnau gwyn. Pryd daeth bywyd mor anodd? Llosgi tai, llosgi coed. Mae rhai straeon yn anodd eu dweud. Mae’n ddiwrnod oer ym Mharc Bute ac rwy’n dweud wrth Cath fy mod yn cael pethau’n anodd. Mae Cath yn bod yn Cath, hyfryd a charedig, ac yn dweud wrthyf am beidio bod yn rhy galed arnaf fy hun. Siaradwn am ddicter mewn chwedleua, yr angen i fynegi gwir emosiynau ac ymchwilio’r tywyllwch. Siaradwn am y profiad seicadelig, dianc rhag gorffwylledd a hudolus shamanig chwedleua. Rydw i’n ceisio canfod geiriau heblaw ‘hud shamanig’ ond yn methu penderfynu ar rai sy’n well gennyf. Dewiniaeth? Sbwriel cyfrin? Celwydd sanctaidd?

Siaradwn am stori Mabon, am animistiaeth ac ymbiiaeth, am leisiaid y dorlan ar yr Afon Taf a’r cytref crychyddion ym maes parcio Asda ger yr M4, yna trafodwn pa ffurf celf yw’r hynaf, stori, cerdd neu dawns. “Wyddom ni ddim” yw ein casgliad olaf, “efallai bob un ohonynt?”

Rydw i’n sôn wrth Cath am fy mreuddwydion am y sioe ar ôl Binderella, yr un sy’n anodd i’w dweud, ac mae Cath yn fy annog i ddal i fwydo fy mreuddwydion hyd yn oed wrth i mi weithio ar brosiectau presennol.
Yna cofleidiwn goeden oherwydd na allwn gofleidio ein gilydd.

Rydw i’n mynd i fysgio yn y glaw i glirio fy mhen o’r sŵn crensian dannedd. Ddeugain munud wedyn, mae’r £8.60 mewn newid mân newydd ei ddiheintio yn hen ddigon i dalu am betrol diwrnod ac rwy’n gadael y ddinas wlyb ar fy ôl.
Rydw i’n cyrraedd gartref wedi blino’n lân i dân cynnes, pryd parod gwych a chath yn canu grwndi.
Roedd y stori yma yn anodd ei dweud.

Mae’n 2am a rydw i wedi blino. Mae’r tân wedi diffodd, ac mae’r glaw yn taro’n galed ar do y fan. Amser mynd i gysgu a bwydo fy mreuddwydion. Gellir dweud hyd yn oed y straeon caled.

Mae’r gelyn yn fwy os wyt ar dy ben gliniau‘ -Zapatista mural
Mae’r gelyn yn llai os wyt ar dŵrdywediad Yorkley

Cefnogir gan

^
Cymraeg