body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Kestrel Morton - Binderella (Rhagfyr)

Roedd Kestrel yn un o’n Lleisiau Newydd 2019-2020, ein cynllun mentora newydd ar gyfer chwedleuwyr newydd a’r rhai sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru. Mae Kes wedi bod yn datblygu eu stori Binderella, ac efallai eich bod wedi gweld darnau ohoni yn yr ŵyl ar-lein. Fel rhan o gyfres Ysbrydoli|Inspire mae Kes yn rhannu ble maen nhw fel chwedleuwr ar ôl yr ŵyl, a’r heriau nesaf o gael y penderfyniad a’r gallu i ganolbwyntio i fynd â Binderella ar daith. Dyma i chi stori Kes am ddoe, cyn hynny ac ar ôl hynny.

Ddoe- Y Trothwy.

Dydd Gwener, Tachwedd y deuddegfed, dau ddeg dau ddeg un.

Rwy’n cerdded i lawr ochr ffordd â’r golau’n brin; cyfyngiad cyflymder cenedlaethol, ac yn teimlo rhu y ceir sy’n pasio, yn gyflym, golau a thywyll, eu goleuadau yn bwrw cysgodion o’m siapiau fy hun, wedi eu gwnïo’n ddu ar gwr dreiniog y ffordd.

-Mae’r fan newydd yn y garej, dydi’r injan ddim yn tanio’n iawn ac mae’r punnoedd yn cynyddu’n gyson wrth i’r dwylo clyfar chwilio am ateb

Tir trothwyol yw’r tir lle rwy’n cerdded, ddim yn hollol yma, ddim yn hollol acw, ddim yn hollol yn unrhyw le, dim ond ymyl, man sydd rhwng mannau, lle sy’n pasio nad yw’r llygaid meddw ar gyflymder yn ei weld; yn awchus am y filltir nesaf i’w llyncu.

Mae’r ffordd a gurwyd gan rwber, a ddelir yng nghrafangau bodolaeth ddiaros, yn disgleirio’n euraidd dan yr hen lampau stryd sy’n bwydo dawns lesmeiriol fflachiadau’r gwrych - yn fieri a rhosod gwyllt.

Wrth ochr hen deiar, yn ddigartref ac yn gaeth mewn mwsogl, rwy’n canfod ac wedi canfod; y trothwy, grisiau tywyll - oddi wrth hwn ac i mewn i hacw.

Wrth droed y grisiau concrid hynny, rwy’n oedi, i aros a syllu, yn holi fy hun, i’r duwch cleisiog o’m blaen. Rwy’n meddwl am yr eiliad yma fel microcosm o’m taith fy hun, wedi ei chreu o’r misoedd a fu a’r rhai sydd eto i ddod, ac yn fy meddwl, rwy’n gweld eto bod yr eiliad hon, fel pob eiliad, yn ddim ond adlais o’r dyfodol, yn rhagfynegi’r gorffennol - stori yn cael ei dadlennu yn y Nawr-Annherfynol Infinite-Now.

 

Cynt- Yn gaeth yn y niwl.

Dydd Sadwrn, Medi dau ddeg pump.

Fisoedd ar ôl i lewyrch yr ŵyl, yn llawn o guro dwylo a llawenydd, bylu, rwy’n wynebu’r gwirionedd oer na fydd dim byd arall yn digwydd oni bai fy mod yn gwneud iddo ddigwydd. Mae’r ysgubor yn llawn o flychau wedi eu pentyrru’n uchel, mae’r llygod mawr yn fodlon â’r trefniant hwn. Mae’r gaeaf ar ei ffordd a’r storfa goed yn wag. Mae’r man anghofiedig oedd yn gollwng yn y fan wedi dychwelyd ac rwy’n teimlo’n flinedig tu hwnt.

Rwy’n jyglo garddio a labro ac ymdrechion i fod yn greadigol. Mae fy meddwl yn gyfrifiadur clonciog, yn sgrolio trwy restrau o bethau i’w gwneud ond nid oes allweddell, dim llygoden, dim meddalwedd wedi ei osod ac nid yw’r batri’n cadw ei nerth.

Rwyf newydd orffen proses ffilmio gyda Sam Irving, yn creu hysbyseb ar gyfer Binderella, yn llawn o dân a baw, adeiladau gwag ac esgyrn toredig, rwy’n aros iddo orffen golygu.

 

Tic yn un blwch, cant ar ôl. Mae arnaf angen creu gwefan, poster a dylunio taflen, ysgrifennu copi, cysylltu â chynlluniau teithio gwledig a lleoliadau yn dal. Nid wyf wedi dechrau ymarfer ail hanner y sioe eto, mae’n llercian, sgript ddigidol yn llawn o botensial heb ei wireddu.

Rwy’n teimlo’r angen i wneud mwy.

Rwy’n teimlo’n annigonol.

Fi yw Sisyphus yn gwthio ei garreg, y gwrthdaro rhwng dyhead ac ynni yn taro tu mewn i mi, ac rwy’n teimlo’r presenoldeb cyfarwydd hwnnw sy’n aros, yn cuddio tu ôl i flanced dew o niwl llawn cysgod, yn cuddio yn nhir ymylol fy ymdeimlad ohonof fy hun, yn cuddio, aros a hiraethu - am lowcio fy llawenydd eto.

 

Ar ôl- Dod o hyd i stori.

Dydd Mercher, Hydref un deg tri.

Rwy’n troi am i mewn, i ffwrdd o ruthr pethau bydol, ac yn dechrau ar y gwaith o wella’r hen friwiau sydd wedi ymddangos eto. Gan gerdded ar fy mhen fy hun rwy’n croesi’r adlodd noeth ar gae gwenith newydd ei gynaeafu, mae’r awyr yn dywyll ond mae’r gorwel wedi ei oleuo gan wrid canolfan filwrol, ffatri, gorsaf bŵer bellennig, gwaith sment.

Gwyll parhaus.

Ar ymyl y cae rwy’n aros, yn troi i eistedd, gwrych wrth fy nghefn, ac edrych ar y nos yn wincio.

Gan gymryd coesyn o wenith fel hudlath, fy llaw ar fy nghalon, rwy’n creu dau gylch; un i mi, un iddyn nhw.

Yn eu cylch nhw rwy’n creu pentagram, a phum symbol yn ei bigau.

Mewn gair mae wedi ei wneud ac mae’r Endid yn sefyll yn eu cylch o’m blaen, hen Dduw yn gwisgo dillad newydd.

Porth yw’r cylch,

Y Pum Symbol yw’r Allwedd,

Yr Endid yw’r Porthor,

Yn gwarchod atgof.

Goriad i’r clo- mae’r ffordd ar agor ac rwy’n mynd trwyddo, i’r Teseractau; wedi eu taflunio trwy sain fy atgofion fy hun; yn ail-fyw’r anghofiedig a’r cofiedig, y tawelach a’r uwch, y dyfnach a’r hŷn. Yn y cyflwr hedfan-syrthio hwn, rwy’n chwilio am gyflwr o ras myfyriol, wedi ei feithrin trwy flynyddoedd o boen, llawenydd, dryswch a ffoi.

Wrth i mi farchogaeth y trawma a’r buddugoliaethau hyn, rwy’n gadael i bob teimlad fwydo yn ôl i’r canol, y galon.

Yn y galon mae’r Cylch.

Fi yw’r Cylch

Gwibia atgofion heibio fy llygad chwilgar; gwelaf gymuned glwyfedig yn ymgasglu wrth yr hen bont bwyso, yn un yn eu gofid, i godi ysbryd hen gyfiawnder yn y nos dywyll. Gwelaf ddau gylch o halen a lludw ar y clai coch fel gwaed wedi ei dduo gan lo. Pedair allor ar bwyntiau’r cwmpawd; cannwyll, pluen, dŵr, carreg. Gwelaf y goelcerth wedi ei phentyrru’n uchel. Y ddelw; ei freichiau’n ymestyn, ei wyneb heriol - wyneb y gelyn

Aiff amser am yn ôl, oddi wrth y torchau wedi eu tanio a’r wynebau clwyfedig blin.

Rwy’n gwylio fy hun yn sgrechian melltithion ar ddynion treisgar yn gwisgo siacedi llachar, rwy’n gwylio’r fflamau; y mwg fel potel inc wedi tywallt yn staenio’r haen lwyd o gymylau’n ddu. Clywaf wich finiog, y sgrech mochyn wrth i haearn wasgu ar haearn. Mae’r aer yn blasu’n wenwynig, mae cartrefi’n llosgi a’r tir wedi ei ddwyn; fel y mae ers mil o flynyddoedd a mwy, yn adleisio clymau gwrachod o drais, dwyn a chau tiroedd etifeddol.

Rwy’n gwylio fy hun, fel cymaint o rai eraill o’m blaen - yn ddi-dir.

Mae’r cof yr wyf yn dal i chwilio amdano - eiliad cyn hon, yn aros; disgleirdeb yn y cysgod yn treiddio trwy’r awyr serog y Teseract o’m blaen.

Plymiaf trwy’r crac hwnnw mewn amser; drych toredig o gynnwys y meddwl yn gollwng ansicrwydd ac amheuaeth. Wrth basio darnau toredig breuddwydion di-angor a chynllwynion anghofiedig, disgynnaf yn wyllt, i’r tragwyddoldeb oesol a’r byth amhosibl.

Wrth ddisgyn ac esgyn, plymio a rhuthro, y cyfan a geisiaf yw stopio.

Y cyfan a geisiaf yw dod i ben a bod yn llonydd.

- Ac felly mae.

Rwyf yn Llonydd - wrth i bopeth o’m cwmpas arafu, mae’r gorwel tywyll ac isel yn rhewi; ac rwy’n mynd trwyddo, o’r diwedd.

I’r eiliad pan gaf fy Nerbyn - i’r Nawr-Annherfynol,

Mae’n ddydd Mercher yma, yn ddydd Mercher bob amser; ac rwyf wedi dod o hyd i’m Stori.

Ynddi; fy hud.

Ynddi; fy ngwellhad.

 

HeddiwCroesi’r trothwy.

Dydd Sadwrn, Tachwedd un deg tri.

 

Dringwyd y grisiau tywyll.

Croeswyd y trothwy.

Mae hysbyseb Binderella’n gyflawn.

Mae’r sgubor hanner ffordd at daclusrwydd.

Mae’r storfa goed yn llawn.

Mae gennyf gopi ysgrifenedig.

Rwyf wedi gwneud gwefan.

Wedi dechrau ymarfer yr ail act.

Ac mae’r man sy’n gollwng yn nho’r fan, sy’n flwydd oed erbyn hyn, o’r diwedd - wedi ei drwsio.

 

Yfory- Yr hyn ddaw nesaf.

Rhagfyr ac ymlaen.

Wrth edrych tua’r dyfodol, rwy’n cynllunio sgwrs Ysbrydoli i Beyond the Border lle byddwn yn rhannu hysbyseb Binderella am y tro cyntaf cyn iddi fynd allan ar y rhyngrwyd; dewch draw os hoffech glywed rhagor am y sioe, gofyn unrhyw gwestiynau neu wylio darn rhyfeddol o ffilmio diolch i Sam!

Rydym yn dal i chwilio am leoliadau sydd â diddordeb mewn cynnal y sioe. Rydym hefyd yn bwriadu gwneud cais i’r cynllun Noson Allan yng Nghymru a all helpu lleoliadau bach trwy dalu eu ffioedd i artistiaid fel na fydd y lleoliadau yn dioddef colled os na fyddant yn cael digon o gynulleidfa.

Sioe newydd yw The Initiation sydd yng nghyfnod cynnar ei datblygiad, rwy’n ei hadrodd wrth ffrindiau a theulu wrth i mi geisio cael siâp arni. Mae’n plethu chwedloniaeth glasurol yn stori bersonol wirioneddol am iechyd meddwl a hud, bydd yr un mor ddidwyll ac y bydd yn anghredadwy. Gobeithio y bydd yn y pen draw yn cynnwys rhywfaint o drafod ar ôl y sioe am ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, os yw hynny’n swnio’n ddiddorol i chi yna cysylltwch, ac mae croeso arbennig i unrhyw un sy’n cynnig cyllid datblygu!

More info – https://isthatmysoul.wixsite.com/kestrel-morton

Cefnogir gan

^
Cymraeg