Gyda Daniel dechreuais weithio ar ddatblygu sioe o hedyn chwedl oedd wedi bod yn ffrwtian yn fy meddwl, yn tyfu stori wrth stori, ddeilen wrth ddeilen, am y tair blynedd ddiwethaf nes iddo ddod yn dal iawn ac angen ei docio i’w wneud yn barod i gynulleidfa. Y goeden yma yw saga Binderella, Gwrth-Dduwies yr amddifadus, y digartref, y pyncs a’r sgwatwyr, teithwyr, ffoaduriaid a’r holl drueiniaid unig eraill sy’n byw ar y cyrion ac yn cuddio yn y craciau. Mae’r stori’n dweud hanesion Binderella, y daethpwyd o hyd iddi fel baban ar goll mewn bin, a’i brwydr i oresgyn y Dyn Diwyneb a’i ddymuniad barus i lyncu’r byd, un goedwig, un mynydd, un afon, un genedl ar y tro.

Fel chwedleuwr llafar mae’n gas gen i ysgrifennu unrhyw beth, unrhyw le, byth, fodd bynnag gydag anogaeth Daniel, am y tro cyntaf erioed rhoddais bin ar bapur (bysedd ar fysellfwrdd) ac ysgrifennu Binderella i gyd lawr. Tair ar ddeg o filoedd o eiriau, dau ddeg tri o straeon (wedi eu gorffen, heb eu gorffen a heb eu dechrau) ac un dudalen ar bymtheg yn ddiweddarach, roedd y crynodeb drafft cyntaf wedi’i orffen. Ar ôl cael gwared â’r canghennau ochr a’r prologau diangen ac uno rhai o’r straeon, mae’r drafft nesaf yn dudalen a thri cant o eiriau yn hirach, er bod un ar ddeg o straeon yn llai. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at orffen y cyfansoddiad gyda Daniel fel y gallwn symud ymlaen i feddwl am y perfformiad a siarad am sut i ychwanegu cerddoriaeth.