body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Prosiectau Cyfnod Clo

Rydym ni’n darparu prosiectau newydd dros yr wythnosau newydd a byddem yn gallu rhannu mwy o wybodaeth gyda chi yn fuan. Yn y cyfamser, dyma pwt bach am bob prosiect...

Straeon dros y Ffôn (cyd-gynhyrchiad gyda PeopleSpeakUp)

Rydym ni wedi bod yn gynhyrfus iawn i weld gymaint o brosiectau chwedleua sy’n symud arlein, a’r wledd o waith perfformio a phrosiectau sydd yn digwydd ar hyn o bryd mewn gofodion digidol. Ond beth am y bobl sydd ddim gyda cysylltiad i’r wê? Sut ydyn ni’n parhau i weithio gyda’r grwpiau yma yn ystod y cyfyngiadau symud? Mae nifer o’r bobl yma yn unig a mewn perygl.

Gan gydweithio gyda chwedleuwr Phil Okwedy a PeopleSpeakUp, rydym yn treialu ffyrdd newydd o gysylltu gyda phobl hŷn drwy rannu a chyfnewid straeon dros y ffôn.

Hel Straeon (cyd-gynhyrchiad gyda PeopleSpeakUp)

Gan weithio’n agos gydag ysgolion a chartrefi gofal yn Sir Gâr, rydym yn cydweithio gyda PeopleSpeakUp ar brosiect dwyieithiog, rhwng cenedlaethau, fydd yn cysylltu pobl ifanc gyda thrigolion cartrefi gofal drwy straeon.

Byddem yn creu straeon newydd, hel hen straeon, a dod o hyd i ffyrdd newydd o weithio gyda’n gilydd hyd yn oed tra’n bod ni arwahan.

Cefnogaeth am Chwedleuwyr

Mae Beyond the Border yn gweithio’n galed i gefnogi chwedleuwyr yn ystod yr amser yma, drwy rannu rhestr wythnosol o ddigwyddiadau stori arlein gyda’n cynulleidfaoedd a chynnal sgwrs Trydar arlein ar #askastoryteller.

Rydym hefyd yn cynnal hyfforddiant arlein ar ddydd Mercher, gan gynnig cefnogaeth i chwedleuwyr mewn creu perfformiadau ffilm, rhedeg digwyddiadau stori arlein a cheisio am gyllideb mewn argyfwng.

Os oes gennych chi unrhyw anghenion hyfforddiant neu syniadau am weithdai yn ystod yr amser yma, plîs e-bostiwch tamarwilliams@beyondtheborder.com.

Cefnogir gan

^
Cymraeg