Y prosiect rwyf wedi bod yn gweithio arno yn ddiweddar yw Y llyn برکه . Mae hyn yn ddarn o chwedleua i ddathlu diwylliant gwerin Cymru a Lorestan yn Iran. Mae’r darn am hwiangerddi o’r ddau le daearyddol anghysbell yma. Mewn geiriau eraill, rwy’n dod â hwiangerddi o Gymru ac Iran ynghyd drwy’r darn dawns cyfoes yma. Mae’r syniad creiddiol cyntaf yn llawer symlach. I fi, mae’n hunan-fynegiant. Mae fy ymarfer artistig mewn chwedleua yn deillio o fy nhreftadaeth ddiwylliannol Bersiaidd ac fy nghyffro am ddiwylliant Cymru fel y wlad yr ydw i’n byw ynddi ac yn teimlo cysylltiad â hi. Cafodd y prosiect hwn ei gyfoethogi gan yr holl ymchwil sydd ar gael ar hwiangerddi traddodiadol Cymru a Persia ac rydw i’n wirioneddol obeithio y bydd y cynulleidfa sydd â diddordeb mewn perfformiadau diwylliannol yn gadarnhaol amdano.
Mae’r darn chwedleua yn ffordd o gyfathrebu i fi. Fe fyddwn wrth fy modd yn dathlu’r diwylliant a ganfyddais yng Nghymru a dod â fy nghynnig artistig i’r diwylliant hwn. Byddwn wrth fy modd pe byddai’r rhai sydd â diddordeb mewn gwaith diwylliannol yn cael mynediad i fy ngwaith a’i weld a chanfod os yw fy nghynnig artistig o ddarn diwylliannol amrywiol yn rhywbeth y gallant gysylltu ag ef. Medrir gweld y gwaith yn
https://youtu.be/lvrCQwLnt9Q
Caiff y gwaith ei gynhyrchu ar ffurf fideo i’r gynulleidfa edrych arno. Un agwedd yr ydw i fel perfformiwr yn ei golli drwy ffrydio gwaith yn ddigidol yw gweld y gynulleidfa a theimlo eu hymateb a chael adborth gan y gynulleidfa. Bydd yn bwysig iawn yn fy ngwaith ar gyfer y dyfodol os all unrhyw un adael adborth drwy’r ddolen adborth yn y disgrifiad YouTube islaw’r fideo. Bydd adborth y gynulleidfa yn wirioneddol fy helpu i gynhyrchu gweithiau pellach. Hefyd mae croeso mawr i chi gysylltu â fi os yw’r pwnc o ddiddordeb i chi.
Rwy’n gynhyrchydd creadigol, chwedleuwr ac artist dawns cyfoes, ac wedi gweithio yn y celfyddydau perfformiad ers 2018. Mae gen i ddiddordeb mewn gwaith am ddiwylliant a dathlu amrywiaeth drwy fy nghelfyddyd. Rwy’n dod o Iran ac mae gweithio gyda chymunedau yng Nghymru a chysylltu gyda diwylliant y bobl yn ddeniadol iawn i fi. Mae fy mynegiant artistig yn dod o hunan-fynegiant a dweud fy stori bersonol o ddod o Iran a chael croeso yng Nghymru. Mae gen i ddiddordeb mewn amrywiaeth ddiwylliannol a dathlu harddwch diwylliant Cymru, fel yr amgylchedd sy’n fy lletya, a diwylliant Persia, lle mae fy ngwreiddiau
Beth fuoch chi’n edrych arno ar-lein yn ystod y cyfnod clo? Unrhyw beth a welsoch y credwch y dylai eraill hefyd fod yn edrych arno? Yn ystod y cyfnod clo rwyf wedi edrych ar berfformiad o “Zero Degrees” gan gwmni Akram Khan a ddangosodd gyffro dod â gwerth a chynnig fy mhrofiad a diwylliant fy hun i’r stori. Hefyd yn dod ynghyd â gwahanol elfennau theatrig i’r stori yn ddiddorol ac ysbrydoliaeth fawr.