body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Michael Harvey - Cyrsiau Ar-lein (Chwefror)

Yn yr un modd â’r rhan fwyaf o artistiaid a gweithwyr llawrydd yn y sector chwedleua a digwyddiadau, pan darodd COVID Brydain ym mis Mawrth fe ddiflannodd y gwaith dros nos. Collodd y chwedleuwr o Gymru, Michael Harvey, y rhan fwyaf o’i waith chwedleua fel ei brif ffynhonnell incwm. Gan ei fod yn addysgu chwedleua roedd cwrs hyfforddi ar-lein wedi tanio ei chwilfrydedd. Mae rhoi cynnig ar hynny wedi ei arwain i ddatblygu rhaglen hyfforddi newydd ar gyfer pob lefel wahanol o chwedleua. Dysgwch ychydig mwy am y cyrsiau fel rhan o Ysbrydoli’r mis hwn.

Beth yw'r prosiect?

Diflannodd fy ngwaith i gyd pan darodd COVID flwyddyn yn ôl. Roedd yn rhaid i mi feddwl am rywbeth arall i’w wneud, ond beth? Chwedleua yw’r unig beth yr wyf fi’n wirioneddol dda am ei wneud. Yna ymddangosodd e-bost gan gwmni addysg ar-lein o Ganada o’r enw Mirasee yn fy mewnflwch. Roedd eu dull clir, ymarferol, heb fod yn ymwthiol wedi tanio fy niddordeb ers tro, ac ar ôl i mi wneud ychydig mwy o ymchwil, fe wnes i fentro o’r diwedd. Roedd yn fuddsoddiad sylweddol, ond fe wnaethon nhw ddweud wrthyf, petawn i’n dilyn y camau, y byddwn yn ennill ffi’r cwrs yn ôl o’r cwrs peilot yn unig - ac fe wnes i!

Roeddwn wedi bod wrthi yn cynnal rhywfaint o hyfforddiant chwedleua ar-lein yn barod, ac, er mawr syndod i mi, roedd yn llawer mwy effeithiol nag yr oeddwn wedi rhagweld. Felly, os oedd hyfforddi ar-lein yn gweithio, roeddwn o’r farn y gallai cyrsiau chwedleua weithio ar-lein hefyd. Wrth lwc, roeddwn yn iawn.

Rwy’n colli’r rhyngweithio wyneb yn wyneb byw ac mae rhai pethau, fel gwaith gyda’r corff a’r llais, sydd yn fy marn i yn well yn fyw. Fodd bynnag, mae’r profiad hwn wedi fy nysgu bod un agwedd ar hyfforddi sy’n ymddangos ei fod yn llawer gwell ar-lein - ymarferion y myfyrwyr dan eu cyfarwyddyd eu hunain ar ôl i’r cwrs orffen.

Aeth y ddau gwrs sydd eisoes wedi gorffen ymlaen i ddatblygu dysgu parhaus ar sail cohort a chyfleoedd perfformio ar-lein mewn ffordd nad yw’r cyrsiau preswyl yn gwneud i’r un graddau. Mae grwpiau cyd-hyfforddi a chlwb chwedleua Cymraeg ar-lein yn awr yn brysur yn gweithio’n annibynnol.

I bwy yw e a sut gall bobl gymryd rhan ynddo?

Mae’r cyrsiau ar-lein yr wyf yn eu rhedeg i’r rhai gydag unrhyw lefel o brofiad neu ddim profiad o gwbl. Mae’n rhyfeddol sut y mae cohort o wahanol lefelau o arbenigedd yn gallu dysgu gyda’i gilydd mewn ffordd lle mae cydraddoldeb creadigol yn y grŵp.

Mae cohortau cyd-hyfforddi yn dechrau esblygu o’r cyrsiau cynharach a bydd hyn yn dod yn nodwedd o’m hyfforddiant yn y dyfodol, fel y bydd cyrsiau penodol i fathau o storïau (storïau rhyfeddol, chwedlau, storïau yn seiliedig yn y dirwedd ac ati) a ffurfiau penodol o chwedleua (chwedleua dwyieithog a dau yn cyd-chwedleua). Bydd rhywfaint o’m haddysgu yn symud at gymysgedd o sesiynau wedi eu recordio ymlaen llaw a byw ar-lein er mwyn rhoi lle i’r grwpiau cyd-hyfforddi.

Mae’r momentwm wedi fy synnu ac ym mis Chwefror rwy’n dechrau gweithio gyda chohort o chwedleuwyr sy’n siarad Almaeneg!

(Dolenni ar waelod y dudalen)

Dywedwch fwy wrthym amdanoch eich hun mewn bywgraffiad byr. Sut wnaethoch chi ddechrau chwedleua? Pa mor hir fuoch chi’n gwneud hyn? Lle ydych chi’n byw? Sut ydych chi’n gweithio gyda stori?

Deuthum yn chwedleuwr yn yr ŵyl Beyond the Border gyntaf erioed yng Nghastell Sain Dunwyd yn 1993. Y stori olaf oedd perfformiad o’r stori Norwyaidd the Companion gan y chwedleuwraig o Ffrainc, Abbi Patrix. Dyma un o’r perfformiadau gorau o unrhyw fath a welais i erioed ac fe gerddais i allan o’r babell fawr yn gwybod bod yn rhaid i mi fod yn chwedleuwr. Rwy’n eithaf sicr mai nid y fi oedd yr unig un.

Rwyf wedi byw yng Nghaerdydd ers dros 35 o flynyddoedd a thrwy ddysgu Cymraeg lluniais gyswllt llawer nes â’m cartref mabwysiedig o ran cymuned a thirwedd. Yn un peth, roedd yr holl enwau lleoedd yn sydyn yn golygu rhywbeth ac roedd stori yn y rhan fwyaf ohonynt!

Cyn Covid roedd rhan helaeth o’m gwaith yng Nghymru ac rwyf wedi bod yn ddigon ffodus a breintiedig hefyd i gael gwaith rhyngwladol, o ran perfformio ac addysgu. Rwyf hefyd yn gweithio’n eang mewn addysg a gyda’r Cynllun Ysgolion Creadigol, gan hyrwyddo’r cwricwlwm newydd ar sail creadigrwydd yng Nghymru.

Rwyf wedi bod yn ffodus iawn o’r cyfleoedd chwedleua sydd wedi eu cynnig i mi. Un mawr yw gweithio gyda’r tîm Adverse Camber ar y storïau ar sail y Mabinogion Hunting the Giant’s Daughter a Dreaming the Night Field. Un arall yw ennill Gwobr Cymru Greadigol bwysig a roddodd gyfle i mi gymryd rhan yn y 3ydd Labo yn La Maison du Conte, ger Paris dros gyfnod o 18 mis, gan weithio gyda Abbi Patrix a grŵp disglair o ymarferwyr ar ymweliad gan gynnwys Yoshi Oida o’r Peter Brook Company.

Dolenni eraill
Fy ngwefan https://www.michaelharvey.org
Tudalen hyfforddi ar-lein (Saesneg) https://www.michaelharvey.org/onlinecoaching
Tudalen hyfforddi ar-lein (Cymraeg) https://www.michaelharvey.org/un-i-un

Ysbrydoliaeth Cyfnod Clo: beth yw rhywbeth rydych chi wedi'i weld ar-lein rydych chi am ei rannu? e.e. fideo / podlediad / digwyddiad ar-lein sydd wedi eich ysbrydoli ar yr adeg hon?

The Forgiveness Project Awgrymwyd y prosiect rhyfeddol hwn i mi gan rywun yr oeddwn i ar gwrs gydag o. Mae eu podlediad ‘The F-Word Podcast’ hefyd yn werth gwrando arno.

The Spooky Men’s Chorale Llawer o hetiau, cryn nifer o farfau a harmonïau hyfryd

Cefnogir gan

^
Cymraeg