body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Hwb Chwedleua Myseliwm yn cyhoeddi ei Gyfarwyddion Cyfoes a chynhyrchydd ar gyfer yr ail flwyddyn

Mae Hwb Chwedleua Myseliwm wedi penodi dau chwedleuwr arall yn Gyfarwyddion Cyfoes a chynhyrchydd fel rhan o’r rhaglen gydweithredol trwy Gymru rhwng gweithwyr llawrydd a sefydliadau, gyda chefnogaeth cronfa Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru.

Mae’r Hwb Chwedleua Myseliwm yn rhwydwaith o bartneriaid sefydliadol a llawrydd, wedi ymrwymo i rannu arfer a meithrin chwedlau llai cyffredin o bob rhan o gymunedau amrywiol Cymru. Ysbrydolwyd y model gan rwydweithiau myceliwm natur ac mae’n cynnwys cefnogaeth i gynhyrchwyr a rôl newydd i’n Cyfarwyddion cyfoes.

Mae Cyfarwyddion cyfoes yn helpu i ddatgelu a rhannu storïau’r cymunedau y maent yn gweithio ynddynt am breswyliad deuddeng mis. Ysbrydolir swyddogaeth y Cyfarwydd yn uniongyrchol gan draddodiadau hŷn y Cyfarwydd yng Nghymru; chwedleuwyr a wnaeth gofnodi ac adlewyrchu’r hyn oedd yn digwydd yn eu cymunedau, gan gynnig arweiniad cynnil trwy’r storïau yr oeddent yn eu hadrodd.

Roedd gan bob Cyfarwydd brentisiaeth, a byddai’n mynd ymlaen i fod yn aelod mawr ei barch o gymdeithas, yn teithio a dod â newyddion i’r llysoedd, gan adlewyrchu cymdeithas y cyfnod.

Mae’r Hwb Chwedleua Myseliwm hefyd yn cynnwys cynhyrchwyr, sy’n gweithio mewn partneriaeth ar draws cymunedau, ac yn datblygu rhaglenni neu brosiectau eraill, ar sail ardaloedd sy’n cael blaenoriaeth neu lle mae potensial.

Mae Beyond the Border, yr Eisteddfod Genedlaethol, People Speak Up, Menter Iaith a Citrus Arts, Head4Arts a Theatr Soar ynghyd â chwedleuwyr unigol ac aelodau o’r gymuned, yn helpu i ddatblygu’r prosiect cyffrous hwn ac yn parhau i ehangu i rannau gwahanol o Gymru. Yn 2022, gyda chefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Loteri’r Cod Post, elusen sy’n rhoi grantiau wedi eu hariannu’n llwyr gan chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl, penodwyd Ceri Phillips hefyd fel Cyfarwydd ar gyfer y dref sy’n gartref i’r ŵyl, Llandeilo.

Mae’r cynllun cydweithredol hwn i gefnogi cynhyrchwyr a phobl greadigol llawrydd i ddatblygu rhwydwaith o weithgareddau chwedleua ar draws Cymru wedi bod yn 12 mis cynhyrchiol. Rydym wedi gweld cymaint o brosiectau a digwyddiadau gwych yn cael eu datblygu a’u cefnogi. Yn awr ym mlwyddyn 2 o Hwb Chwedleua Myseliwm rydym wedi penodi dau Gyfarwydd a Chynhyrchydd newydd er mwyn i ni allu dal i gyrraedd mwy o gymunedau ar draws Cymru. Bydd Kamalagita Hughes, Gillian Brownson a Claire Mace yn ymatebol, cyffrous, yn fentrus, ac yn fwy na dim yn archwilio beth mae adrodd storïau mewn cymunedau cyfoes yn ei olygu.” Naomi Wilds, Cyfarwyddwr Artistig Beyond the Border

Y chwedleuwraig, awdures, bardd, a chrëwr theatr, Gillian Brownson fydd Cyfarwydd yr Hwb Myseliwm ar Ynys Môn, lle maged hi ynghanol y chwedlau’n gysylltiedig â Barclodiaid y Gawres, Bedd Branwen, Ynys Llanddwyn a Llanddona ymhlith llawer mwy.

Dywedodd Gillian,“Dwi isio casglu rhai o’r storïau hyn, neu storïau eraill ym Môn sy’n byw ym meddyliau aelodau hŷn y gymuned, er mwyn i chwedleuwyr iau gysylltu â’u cartref ac ailadrodd y chwedlau o’u safbwynt hwy eu hunain. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at greu perfformiad chwedleua newydd ar sail y darganfyddiadau yma.”.”

Bydd Cyfarwydd Kamalagita Hughes yn gweithio yn ei hardal ei hun, Rhondda Fawr Uchaf ac mae ei theulu wedi byw yno ers cenedlaethau. Mae Kamalagita yn chwedleuwraig ac mae hefyd yn hyfforddwr ymwybyddiaeth ofalgar sy’n gweithio mewn ysgolion yn bennaf.

"Rwy’n credu bod sgiliau ymwybyddiaeth ofalgar o dawelwch a chanolbwyntio yn hanfodol i gyflwr meddwl iach a chreadigol i arweinwyr ysgol, staff a disgyblion. Rwy’n gweld chwedleua fel agwedd allanol y gwaith hwn: ffordd o fynegi meddyliau a theimladau, anghenion a gwerthoedd ac mewn ffordd sy’n cysylltu gyda’r byd. Bydd y chwedleua yng nghyd-destun ymrwymiad yr ysgol i fod yn glwstwr empathi..

Mae ysgolion yn ganolog i gymunedau - felly rwy’n awyddus i sicrhau bod rhieni, teidiau a neiniau a gofalwyr yn ymwneud a phlethu ymdeimlad synhwyrol o berthyn.” Kamalagita Hughes.

Y gantores, chwedleuwraig, cynhyrchydd a’r dysgwr Cymraeg Claire Mace fydd cynhyrchydd yr Hwb Myseliwm yng Ngwynedd. Mae wedi gwirioni ar hen ganeuon a storïau a’u grym i’n helpu i ddod o hyd i’n ffordd heddiw. Claire Mace will be the Mycelium Hub producer in Gwynedd. She’s fascinated by old songs and stories and their power to help us find our way in the present time.

Dywedodd Claire,"Byddaf yn gweithio gyda chymunedau yn ac o gwmpas Bethesda i rymuso ac annog pobl i ddweud storïau, storïau eu teuluoedd eu hunain, a storïau sy’n ymwneud â’r dirwedd hanesyddol yn ddiweddar a’r oes a fu, trwy gyfuniad o recordio, hyfforddi, mentora a theithiau stori.”

Bydd y Cyfarwyddion Cyfoes a’r cynhyrchwyr yn gweithio ochr yn ochr â Phil Okwedy sy’n gweithio yng Ngorllewin Cymru ac sy’n Gyfarwydd Cysylltiol trwy People Speak Up.

Am ragor o wybodaeth am Hwb Chwedleua Myseliwm a’r swyddi sydd ar gael i gynhyrchwyr a chwedleuwyr ar draws Cymru, ewch Hwb Chwedleua Myseliwm

Cefnogir gan

^
Cymraeg