Datblygu cenhedlaeth newydd o chwedleuwyr – cynllun cydweithredol newydd rhwng gweithwyr llawrydd a sefydliadau a gefnogir gan Gronfa Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru.
Mae Beyond the Border - Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru ynghyd ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Menter Iaith, People Speak Up, Citrus Arts, Head4Arts a Theatre Soar yn gweithio gyda’i gilydd mewn cynllun cydweithredol cyffrous i sicrhau dyfodol y sector chwedleua yng Nghymru, gyda chyllid gan gronfa Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru.
Mae’r Hwb Chwedleua Myseliwm yn rhwydwaith o bartneriaid sefydliadol a llawrydd, wedi ymrwymo i rannu arfer a meithrin chwedlau llai cyffredin o bob rhan o gymunedau amrywiol Cymru. Ysbrydolwyd y model gan rwydweithiau myceliwm natur ac mae’n cynnwys cefnogaeth i gynhyrchwyr a rôl newydd i’n Cyfarwyddion cyfoes.
Bydd Cyfarwyddion cyfoes yn helpu i ddatgelu a rhannu storïau’r cymunedau y maent yn gweithio ynddynt am breswyliad deuddeng mis. Ysbrydolir swyddogaeth y Cyfarwydd yn uniongyrchol gan draddodiadau hŷn y Cyfarwydd yng Nghymru; chwedleuwyr a wnaeth gofnodi ac adlewyrchu’r hyn oedd yn digwydd yn eu cymunedau, gan gynnig arweiniad cynnil trwy’r storïau yr oeddent yn eu hadrodd. Roedd gan bob Cyfarwydd brentisiaeth, a byddai’n mynd ymlaen i fod yn aelod mawr ei barch o gymdeithas, yn teithio a dod â newyddion i’r llysoedd, gan adlewyrchu cymdeithas y cyfnod.
Bydd yr Hwb Myseliwm hefyd yn cynnwys cynhyrchwyr, naill ai wedi eu paru â’r Cyfarwyddion i weithio mewn partneriaeth mewn cymuned benodol neu i ddatblygu rhaglenni neu brosiectau eraill, ar sail meysydd sy’n cael blaenoriaeth neu lle mae potensial.
Dewch i Gyfarfod Tîm yr Hwb