body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Cyfarwydd Cyfoes newydd fydd yn gweithio yn Llandeilo, cartref Gŵyl Beyond the Border

Mae Hwb Chwedleua Myseliwm a Beyond the Border – Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru yn hynod falch i gyhoeddi eu bod wedi llwyddo i sicrhau cyllid drwy Loteri Cod Post y Bobl i gefnogi’r chwedleuwr lleol, Ceri Phillips, fel Cyfarwydd Cyfoes newydd, a fydd yn gweithio yn Llandeilo fel rhan o Hwb Chwedleua Myseliwm.

Mae Hwb Chwedleua Myseliwm yn rhwydwaith cenedlaethol o chwedleuwyr gyda gwreiddiau lleol yn eu cymunedau gyda’r nod o alluogi a grymuso pobl a chymunedau i ddefnyddio chwedleua i gysylltu gyda’i gilydd, a chysylltu gyda thraddodiadau amrywiol, treftadaeth, ieithoedd a diwylliannau yn lleol ac yng Nghymru

Mae Hwb Chwedleua Myseliwm wedi datblygu fframwaith i greu, cefnogi a datblygu Cyfarwyddion Cyfoes. Yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol roedd gwaith y Cyfarwydd, yr hen chwedleuwyr Cymreig, yn croniclo a myfyrio ar yr hyn oedd yn digwydd yn eu cymunedau, drwy stori, gan gynnig arweiniad cynnil drwy’r straeon a ddywedent. Byddai pob Cyfarwydd yn cael prentisiaeth a mynd ymlaen i ddod yn aelodau uchel iawn eu parch o gymdeithas, gan deithio a dod â newyddion yn ôl i’r llysoedd, gan adlewyrchu cymuned eu hoes.

Cafodd yr Hyb ei lansio yn 2021 mewn partneriaeth gyda People Speak Up, Citrus Arts, Menter Iaith, yr Eisteddfod, Theatr Soar a Celf ar y Blaen diolch i gefnogaeth o gronfa Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru. Gwnaed y penodiadau cyntaf ym Mhowys, Castell-nedd Port Talbot a Dinas Mawddwy yn ogystal â rhaglen a ddatblygwyd i gefnogi dysgwyr Cymraeg ar-lein. Mae’r holl Gyfarwyddion yn siarad Cymraeg ac yn cyflwyno gweithgaredd yn Gymraeg ac yn Saesneg yn eu cymunedau.

Mae hefyd ddau Gyfarwydd Cyswllt yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro mewn partneriaeth gyda People Speak Up. Bydd rôl Ceri Phillips fel Cyfarwydd yn Llandeilo yn ategu’r gwaith a gyflawnir eisoes yn Llanelli a Sir Benfro gan Phil Okwedy a Deb Winter.

Yn ddiweddarach eleni bydd yr Hyb yn cefnogi Peter Stevenson a Gŵyl Chwedleua Aberystwyth i ysbrydoli gwyliau chwedleua newydd yng Nghymru.

Bydd y cyllid ychwanegol o Loteri Cod Post y Bobl yn benodol yn cefnogi rôl Cyfarwydd modern yn gweithio yn Llandeilo, cartref Gŵyl Beyond the Border.

Mae Ceri John Phillips yn chwedleuwr, awdur a chomig sy’n byw yn Llandeilo ar ôl siwrne hir o Dreforys, ger Abertawe trwy Richmond, Llundain. Mae wedi gweithio’n helaeth yn y cyfryngau yng Nghymru ac ar draws Prydain, o gigio mewn clybiau comedi tywyll i serennu mewn ac ysgrifennu sioeau i’r BBC, ITV ac S4C.

Yn 2020-2021 roedd yn rhan o raglen Lleisiau newydd Beyond the Border, prosiect yn cefnogi lleisiau newydd mewn chwedleua a chafodd ei fentora gan Daniel Morden, sydd wedi hen ennill ei blwyf fel chwedleuwr yng Nghymru. Fel rhan o raglen Lleisiau Newydd ymchwiliodd Ceri y cyswllt rhwng traddodiad barddol Cymru a chwedleua modern yn Stori’r Gerdd’ y gwnaeth wedyn ei rhannu gyda rhai o’r datblygiadau fel rhan o Beyond the Border – Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru yn Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym mis Gorffennaf 2023.

"Rwyf ar ben fy nigon i fod wedi fy newis fel y Cyfarwydd yn Llandeilo. Mae’n rhoi’r gofod a chyfle anadlu i fedru meddwl yn fwy, bod yn fwy uchelgeisiol ac ystyried sut i greu diwylliant chwedleua yn Llandeilo. Rwyf eisiau dechrau prosiectau a all barhau am y deng mlynedd nesaf lleol, ac eisiau meithrin perthynas gyda grwpiau, mudiadau a busnesau lleol. Mae’n wych fod yr ŵyl chwedleua fwyaf ym Mhrydain yn digwydd yma ac mae hynny’n bendant yn mynd i’w gwneud yn bosibl i wneud Llandeilo yn gartref chwedleua yng Nghymru. Rwyf mor ddiolchgar i Beyond the Border. Ychydig flynyddoedd yn ôl wyddwn i ddim fod chwedleua fel gyrfa yn bosibl cyn i mi weld eu digwyddiad yn Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dinefwr. Cefais wedyn fy newid fel un o’u Lleisiau newydd a byddaf yn awr yn cael fy nghefnogi i fod y Cyfarwydd yn fy nghymuned fy hun.”

Dywedodd Sandra Bendelow, Rheolwr Gŵyl Beyond the Border:Roeddem yn hynod falch y gwnaeth Ceri Phillips gais i ddod yn Gyfarwydd – yn benodol i weithio yng nghymuned Llandeilo. Mae’n berffaith medru cefnogi un o Leisiau Newydd Beyond the Border ar ddechrau’r hyn yr ydym yn sicr fydd yn yrfa hir iawn yn chwedleua, i weithio yn y dref, sef cartref newydd yr ŵyl yn Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dinefwr. Yn awr, yn fwy nag erioed, mae cymunedau angen Cyfarwydd i ddweud straeon wrthynt, eu helpu i ddweud eu straeon eu hunain a chasglu straeon yr ardal i’w helpu i wneud synnwyr o heriau bywyd.”

Caiff Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Beyond the Border ei chefnogi gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dinefwr ac mae’n rhan o brosiectau ymgysylltu a chyfranogi lleol tebyg i Hyb Stori Myseliwm. Cynhelir yr ŵyl nesaf yn Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dinefwr rhwng 7-9 Gorffennaf 2023.

Hwb Chwedleua Myseliwm gan gynllun cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru.

Mae’r gwaith hwn wedi bod y bosibl trwy ddyfarniad gan y People’s Postcode Trust elusen sy’n rhoi grantiau wedi eu hariannu yn llwyr gan y bobl sy’n chwarae Loteri Cod Post y Bobl.

Cefnogir gan

^
Cymraeg