body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

CYHOEDDI RHAGLEN MENTORA LLEISIAU NEWYDD AR GYFER CHWEDLEUWYR

Mae Beyond the Border - Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru yn falch i gyhoeddi y bydd yn agor ceisiadau ar gyfer ei Rhaglen Mentora Lleisiau Newydd ym mis Gorffennaf, a fydd yn cefnogi dau chwedleuwr newydd o Gymru i lunio rhaglen bwrpasol o fentora, a deilwriwyd yn bwrpasol i’w hanghenion a’u huchelgeisiau eu hunain.

Bydd Beyond the Border yn cynnig cefnogaeth wrth gyfateb y rhai fydd yn derbyn mentora gyda chwedleuwyr profiadol yng Nghymru ac yn rhoi arweiniad clir a chyfleoedd datblygu ar draws blwyddyn, gan roi blaenoriaeth i artistiaid dwyieithog, Cymraeg, Du, Asiaidd, lleiafrif ethnig, economaidd ddifreintiedig ac anabl.

Cyn i’r ceisiadau agor, mae Beyond the Border yn trefnu gofodau coffi a sgwrs CASGLU ar gyfer chwedleuwyr profiadol a chwedleuwyr newydd i ganfod mwy am yr hyn mae pobl ei eisiau, o amgylch gwahanol themâu. Bydd y sesiynau nesaf yn trafod:

Dydd Gwener 10 Gorffennaf – Chwedleuwyr Profiadol a Lleisiau Newydd.Pa hyfforddiant y credwch

sydd ei angen i gefnogi lleisiau newydd mewn chwedleua? Pa hyfforddiant gawsoch chi? Croeso i bawb i rannu sylwadau a syniadau. Byddai Beyond the Border hefyd yn falch clywed gan unrhyw un a fyddai diddordeb mewn gweithredu fel mentor ar gyfer y rhaglen. Bydd mentoriaid yn derbyn tâl.

Yn yr wythnos yn cychwyn 13 Gorffennaf bydd ceisiadau yn agor ar gyfer y rhaglen Lleisiau Newydd a sesiwn galw heibio CASGLU arall ar gyfer rhai sydd â diddordeb mewn gwneud cais am y mentora neu ei lunio i ddod a rhannu eu syniadau. Cynhelir CASGLU ddydd Gwener 17 Gorffennaf 11am-12pm gyda chroeso hefyd i chwedleuwyr profiadol fynegi eu diddordeb mewn bod yn fentor ar y rhaglen.

Mae Rhaglen Mentora Lleisiau Newydd Beyond the Border yn rhan o’i rhaglen Ailddychmygu, Ailddatblygu a Chreu Cadernid a gyllidir diolch i gefnogaeth ychwanegol hollbwysig gan Gronfa Cadernid Cyngor Celfyddydau Cymru.

Mae Beyond the Border yn ymroddedig i ddatblygu partneriaethau a rhwydweithiau newydd ac i weithio gydag amrywiaeth o gymunedau o amgylch Dinefwr ac ym mhob rhan o Gymru. Mae BtB yn awyddus i ymchwilio ffyrdd newydd i fynd â chwedleua ar daith, i gefnogi chwedleuwyr llawrydd a chreu cysylltiadau gyda dulliau celf eraill, gan gydweithio i greu dyfodol mwy cadarn ar gyfer chwedleua yng Nghymru.

"Rydym yn ddiolchgar tu hwnt i Gyngor Celfyddydau Cymru am gefnogi’r rhaglen, sy’n cynnig cefnogaeth hollbwysig i artistiaid. Mae Covid-19 wedi cael effaith enfawr ar eu gwaith. Mae CASGLU a Mentora Lleisiau Newydd y cyntaf mewn cyfres o brosiectau fydd yn parhau i ddatblygu ac esblygu dros gylchoedd gwyliau nesaf, mewn ymateb i’r holl fewnbwn a gawn yn y chwe mis nesaf. Gall mentora fod yn drawsnewidiol wrth helpu artistiaid i gyflawni eu nodau - mae hwn yn amser gwych i bobl fuddsoddi yn eu datblygiad ar gyfer y dyfodol. Mae sgyrsiau artistiaid CASGLU bod dydd Gwener yn rhoi sylw i syniadau a dulliau gweithredu newydd, ac rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw sefydliadau sydd â diddordeb mewn cysylltu mwy gyda chwedleua wrth i ni symud ymlaen”, meddai Naomi Wilds, y Cyfarwyddwr Artistig.

I gael mwy o wybodaeth am CASGLU a Rhaglen Mentora Lleisiau Newydd, cysylltwch os gwelwch yn dda â Chydlynydd Ymgysylltu BtB Tamarwilliams@beyondtheborder.com

Mae Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Beyond the Border yn cael ei chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yr Uned Digwyddiadau Mawr, Ewrop Greadigol a’r Ffederasiwn Chwedleua Ewropeaidd.

Cefnogir gan

^
Cymraeg