body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Cerddoriaeth newydd a straeon chwedlonol o Gymru wedi’u hailddychmygu o dan y sêr yr haf hwn ar gyfer cynulleidfaoedd gŵyl ac ar-lein

Mae’r chwedleuwyr mawr eu clod, Daniel Morden a Hugh Lupton, wedi ymuno ag un o’r cyfansoddwyr newydd mwyaf cyffrous yng Nghymru, sef Sarah Lianne Lewis, i greu profiad chwedleua emosiynol a dwys o waelod yr enaid, a fydd yn cael ei gyflwyno o dan y sêr yn Beyond the Border – Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru yr haf hwn, yn ogystal ag yn yr ŵyl ar-lein.

Dychmygwch wrando ar straeon yn cael eu hadrodd yn y nos, wrth i chi syllu i fyny ar y sêr…

Mae Stars and their Consolations yn dwyn i gof chwedlau Groegaidd am rai o’r cytserau amlycaf yn awyr nos Hemisffer y Gogledd. Caiff ei berfformio dan do ac yn yr awyr agored yn ystod yr ŵyl chwedleua, yn ogystal â gartref ar-lein, a bydd cynulleidfaoedd yn gallu clywed cyfuniad o straeon hynafol wedi’u hailddychmygu a’u goleuo gan seinwedd unigryw ac atgofus gan y gyfansoddwraig a anwyd yn Aberystwyth, Sarah Lianne Lewis.

Mae Daniel Morden (Y Fenni) a Hugh Lupton (Norfolk) yn enwog am ailadrodd Ovid a Homer mewn ffordd glir ac angerddol, gan deithio i wyliau ledled y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd. Ysgogwyd y diddordeb hwn mewn datblygu prosiect newydd gan eu partneriaeth berfformio ar y llwyfan a’u dysgeidiaethau oddi ar y llwyfan, ac fe’i comisiynwyd gan Beyond the Border fel ‘Antur Chwedleua’ gyda chymorth gan y Tŷ Cerdd.

Mae’r chwedleuwr Hugh Lupton yn esbonio, “Ychydig flynyddoedd yn ôl, fe addysges i a Daniel Morden gwrs ar fytholeg y cytserau yng ‘Nghanolfan Amari’ Stella Kassimati ar ynys Crete. Wedi hynny, fe feddylion ni y byddai’n ddiddorol creu perfformiad o gyfres o’r straeon hyn. Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda mytholeg Roegaidd ers blynyddoedd, ac roedden ni’n gwybod bod Metamorphoses Ovid yn cynnwys haen gyfoethog o straeon am y sêr. Fe sylweddolon ni y byddai aros o fewn un diwylliant yn rhoi cydlyniad i’r darn – byddai popeth yn bodoli yn yr un byd dychmygus.

Bu’n broses ddiddorol iawn, nid lleiaf wrth ailystyried Mytholeg Roegaidd yn sgil y mudiad ‘Me-Too’. Mae pum wythnos i fynd o hyd cyn ein perfformiad cyntaf yn yr ŵyl; rydyn ni wedi bod yn gweithio ar-lein, a’r wythnos nesaf byddwn yn cyfarfod wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ac yn ymarfer gyda’n gilydd. Bu’n gydweithrediad cyffrous. Bydd y sioe’n gymysgedd cyfoethog o chwedleua a seinwedd.”

Dywedodd y Cyfarwyddwr Artistig, Naomi Wilds, “Mae gan Beyond the Border hanes cryf o gomisiynu gwaith newydd anturus, ac rydyn ni wedi bod yn falch iawn o gefnogi’r safbwyntiau newydd y mae Sarah, Daniel a Hugh wedi bod yn eu cyflwyno ar yr hyn y mae’r straeon yma’n ei olygu i ni heddiw yn ystod eu proses greadigol. Ers canrifoedd, ac ar draws diwylliannau, mae’r sêr wedi bod yn bwyntiau sefydlog i bobl gael hyd i’w ffordd ac, mewn byd cythryblus, mae’r straeon rydyn ni’n eu hadrodd am y cytserau yn taflu goleuni arnon ni ein hunain, mewn ffyrdd y mae’r artistiaid hyn wedi’u cyfleu’n wych.”

Bydd Comisiynau Antur Chwedleua yn parhau ar gyfer gŵyl nesaf Beyond the Border yn 2023 gyda galwad agored a ddisgwylir y flwyddyn nesaf.

Bydd Stars and their Consolations yn cael ei berfformio ym Mhabell Fawr Gŵyl Beyond the Border nos Wener 2 Gorffennaf, ac fe’i dilynir gan ddarllediad awyr agored arbennig nos Sadwrn 3 Gorffennaf, pan fydd y cynulleidfaoedd yn gwrando trwy glustffonau. Ar yr un pryd, bydd cynulleidfaoedd ar-lein nad ydynt yn gallu dod i’r ŵyl eleni yn gallu gwrando gartref ar y nos Sadwrn trwy Ŵyl Ar-lein Beyond the Border.
Rhybudd: mae’r rhaglen hon yn cynnwys delweddau o drais rhywiol.
Yn addas i bobl 16+ oed

Bydd Beyond the Border – Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru yn cael ei chynnal o 2-4 Gorffennaf yn Ninefwr, Sir Gaerfyrddin (yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru). Mae nifer gyfyngedig o docynnau dydd ar gael o hyd.
Bydd Gŵyl Ar-lein Beyond the Border yn cael ei chynnal o 26 Mehefin tan 10 Gorffennaf, a bydd profiad sain Stars and Consolations yn digwydd ddydd Sadwrn 3 Gorffennaf. Bydd tocynnau ar gael ar-lein.
Cyhoeddir amserlen rhaglen yr Ŵyl a’r Ŵyl Ar-lein ar ôl 7 Mehefin.

Cefnogir gan

^
Cymraeg