body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Tachwedd - Gillian Brownson - Porthladoedd, Ddoe & Heddiw

Mae Gillian Brownson, chwedleuwraig o Gaergybi, yn rhannu ei phrosiect diweddaraf Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw – Croesiadau Diwylliannol rhwng Iwerddon a Chymru gyda ni fel rhan o uchafbwyntiau Ysbrydoli ym mis Tachwedd eleni.

Beth yw'r prosiect?

Mae Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw, yn mynd rhagddo nawr ar draws Iwerddon a Chymru i ddathlu bywyd porthladdoedd hanesyddol yn y ddwy wlad ac i helpu adfywio pob porthladd, gan eu troi yn ardaloedd diwylliannol bywiog. Mae llawer o wahaniaethau rhwng y porthladdoedd ond un peth sydd ganddynt i gyd yn gyffredin yw treftadaeth gyfoethog o len gwerin morwrol a thraddodiad llafar sy’n perthyn yn agos i’r tir a’r môr, ac yn eiddgar i gael eu rhannu. Byddaf yn ymchwilio’r straeon gwych yma, gan ddechrau gyda Caergybi, drwy ysgrifennu creadigol a chwedleua wrth i mi weithio gyda fy nghymuned i gasglu a chynhyrchu straeon tebyg i rai Evelyn, y gallwch ei gweld yma https://holyheadstoriesofaport.com/2020/07/  Bydd gan y gweithiau yma fynediad cyfunol, drwy brint, technoleg apiau a pherfformiad byw, mewn cyfnodau mwy diogel i ddod. Gallwch ganfod ychydig mwy am yr hyn sydd ar y gweill yma https://portspastpresent.eu/gillian-brownson

I bwy yw e a sut gall bobl gymryd rhan ynddo?

Caiff y prosiect hwn ei ddatblygu’n bendant iawn ar gyfer dau grŵp o bobl.

Yn gyntaf, mae ar gyfer y bobl sy’n byw yn y trefi hyn, i ddilysu a chofnodi eu profiadau fel Pobl Porthladd, i ddathlu hanes hynafol a mwy diweddar ac i freuddwydio am yr hyn y gallai eu dyfodol fel cymuned fod. Os oes gennych unrhyw straeon am Gaergybi a’i phorthladd pwysig, neu am y croesiad rhwng Caergybi ac Iwerddon, cysylltwch â fi yn gillybrownson@sky.com a fy helpu i lunio straeon y dref wych yma.

Yn ail, mae hyn ar gyfer y rhai sy’n ymweld â’r ynys, rhai sydd hyd yn oed yn mynd drwyddi ar eu ffordd i Iwerddon, i brofi moment ym mywyd y dref, i’w hannog i efallai dreulio amser yn cerdded drwy ein straeon a phrofi’r arfordir hardd, dramatig wrth wneud hynny.

Yn drydydd, gallwch hefyd gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar yr holl ddatblygiadau drwy gofrestru ar gyfer y cylchlythyr ar wefan Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw yma https://portspastpresent.eu/newsletter

Dywedwch fwy wrthym amdanoch eich hun mewn bywgraffiad byr. Sut wnaethoch chi ddechrau chwedleua? Pa mor hir fuoch chi’n gwneud hyn? Lle ydych chi’n byw? Sut ydych chi’n gweithio gyda stori?

Mae fy nghefndir mewn Perfformiad ac Ysgrifennu Creadigol ond pan symudais i Gaerefrog yn y 90au i ddechrau ar fy ngradd mewn perfformio rwy’n cofio, ymysg fy sosbenni, llieiniau, ffeiliau a ffolderau, mai’r darn o adref a drysorwn fwyaf oedd ‘Map y Mabinogion’. Roedd fy nghariad at straeon wedi dechrau ychydig flynyddoedd yn flaenorol gyda straeon am seintiau a dreigiau pan oeddwn yn mynd am droeon hir yn Eryri neu i ynys Llanddwyn ym Môn. Roedd gan fy Nhad yr holl wybodaeth leol i danio’r fflam, a rwyf wedi dal ati. Roeddwn yn ffodus iawn i fod yn ferch iddo a beth bynnag wn i ddim os yw’n bosibl bod yn ysgrifennwr a pherfformiwr yng Nghymru heb eich canfod eich hun ar y llwybr i’r traddodiad llafar. Mewn un ffordd neu’r llall, rwyf wedi bod yn dweud straeon am 30 mlynedd. Ar ôl fy MA mewn Ysgrifennu Creadigol, bûm yn rhannu hanesion llafar mewn amgueddfeydd, gan ddarganfod fod straeon gwir pobl yn aml yn cynnwys yr un faint o ddrama a thensiwn â’r rhai a adroddwyd am filoedd o flynyddoedd. Pan gefais fy hun yn ysgrifennu ac yn cyfarwyddo dramâu dehongli ar gyfer Amgueddfa’r V&A, agorodd mytholeg y byd i fi ac rwy’n awr yn llyncu mytholeg o bob cornel o’r byd, gyda chariad arbennig am chwedlau o India, yn ail yn unig i’r rhai o Gymru. Rwy’n ddigon ffodus i rannu’r straeon hyn fel rhan o dîm Cylch Stori rwan, adre yng Ngogledd Cymru, a drwy fy ngwaith mewn ysgolion a gydag oedolion ar wahanol brosiectau.

After my MA in Creative Writing, I shared Oral Histories in Museums, discovering that people’s true stories are often equal in drama and tension as those told for thousands of years. When I found myself writing & directing interpretive plays for the V&A Museum, world Mythology opened up to me, and I now devour Mythology from every corner of the globe, with a special love for Indian Legends, second only to those of Wales. I’m lucky enough to share these stories as part of the Cylch Stori team now, at home in North Wales, and through my work in schools and with adult learners on various projects.

Gweld yn y Cyfnod Clo

Mae hwn yn wych. Nid oes ganddo ddim i’w wneud gyda phrosiect Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw, ond mae’n dangos gwaith Jacob Williams, Chwedleuwr Ifanc y Flwyddyn, yn ogystal â’r enillydd categori Ffion Phillips. Mae’r holl straeon ar ‘Friday Night Children’s Stories’ Caffe Chwedleua’r Byd yn wych ac mae stori gyfoethog Gymreig Ffion ‘Tylluan Cwm Cowlyd’ am 34.50 a stori hardd o Affrica gan Jacob am gofio, mor deimladwy, ar 51.27 munud i mewn. Mwynhewch, a beth am ymuno â ni yn https://www.facebook.com/YSFWGSIC2019 i ganfod mwy am Ŵyl Chwedleuwyr Ifanc Cymru.

Cadwch mewn cysylltiad â fi yma, i gael mwy o gyfleoedd cyffredinol i gymryd rhan mewn chwedleua a/neu gofnodion straeon, ac i gefnogi chwedleuwyr ac ysgrifenwyr ifanc ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

www.Facebook.com/GillianBrownson

Cefnogir gan

^
Cymraeg