body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Tachwedd - Phil Okwedy - The God Are All Here.

Mae The Gods Are All Here, prosiect newydd Phil Okwedy, yn gyfres o lythyrau caru a ysgrifennodd ei dad at ei fam. Darllenwch fwy am y prosiect chwedl, llen gwerin a cherddoriaeth yma fel rhan o Ysbrydoli ym mis Tachwedd eleni.

Beth yw'r prosiect?

Yr ysbrydoliaeth ar gyfer The Gods Are All Here, darn perfformiad newydd sy’n cynnwys chwedl, cerddoriaeth, llen gwerin a barddoniaeth, yw cyfres o lythyrau ‘caru’. Fy nhad wnaeth eu hysgrifennu at fy mam a maent yn cwmpasu’r cyfnod o fy mywyd pan ddywedant fod plant ifanc yn gweld eu rhieni fel duwiau! Ond wnes i erioed fyw gyda fy nhad na fy mam ac felly, ar ôl colli mas ar y profiad hwnnw, mae’r prosiect yn ymchwilio’r llythyrau i weld os gallaf i, a fy nghynulleidfa, weld ynddynt fod fy rhieni yn wir yn dduwiau! Diolch i Gyngor Celfyddydau Cymru a’r Loteri Genedlaethol am gefnogi’r prosiect ac i grant Cronfa Sefydlogi Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae’r cyllid hwn yn fy ngalluogi i weithio i ddatblygu’r darn gyda Michael Harvey fel dramaturg/provocateur, yr athro llais Pauline Down a’r cerddor Mikey Price.

I bwy yw e a sut gall bobl gymryd rhan ynddo?

Gyda themâu gwahanu oddi wrth rieni, hiliaeth, cydraddoldeb a rhyddid, nod y prosiect yw cysylltu â chynulleidfaoedd presennol, newydd ac amrywiol drwy gynnig darnau o stori drwy amrywiaeth o gyfryngau e.e. gwaith byw ar y gweill, detholiadau gorffenedig wedi eu ffilmio, podlediadau a blogiau yn rhoi sylw i elfennau o lunio’r darn. Bydd y gwahanol linynnau hyn wedyn ar gael ar adran arbennig o fy ngwefan fel elfennau o’r stori y gellir eu hymchwilio ac fel tameidiau blasu i’r amser pan y gellir perfformio’r cyfan i gynulleidfaoedd byw.

Dywedwch fwy wrthym amdanoch eich hun mewn bywgraffiad byr. Sut wnaethoch chi ddechrau chwedleua? Pa mor hir fuoch chi’n gwneud hyn? Lle ydych chi’n byw? Sut ydych chi’n gweithio gyda stori?

Cefais fy ngeni yng Nghaerdydd i fam o Gymru a thad o Nigeria amser maith yn ôl ond daeth chwedleua ataf drwy fy ngwaith fel athro mewn ysgol gynradd 9 mlynedd yn ôl. Roeddwn ar ben fy nigon yn syth. Roedd yn teimlo fel fy mod wedi bod yn aros fy holl fywyd iddo droi lan felly fe es ar gwrs wythnos yn Bleddfa gyda Michael Harvey a Hazel Bradley a wnes i erioed edrych yn ôl. Ar hyd y ffordd, cefais fy nghroesawu, fy nghefnogi a fy maethu gan lu o chwedleuwyr, anogwyr a threfnwyr (rydych yn gwybod pwy ydych chi). Rwyf yn byw yn ne sir Benfro a bûm yn rhedeg Clwb Chwedleua Dinbych y Pysgod. Yn ffodus, yn 2017, fe gynllwyniodd y duwiau, bendith arnynt, i gynnig cyfle i mi gymryd ymddiswyddiad gwirfoddol ac rwyf wedi bod yn gwneud fy mywoliaeth fel chwedleuwr llaw-amser byth ers hynny.

Ysbrydoliaeth Cyfnod Clo: beth yw rhywbeth rydych chi wedi'i weld ar-lein rydych chi am ei rannu? e.e. fideo / podlediad / digwyddiad ar-lein sydd wedi eich ysbrydoli ar yr adeg hon?

Yn gynnar yn y cyfnod clo gwelais sesiwn gan Len Cabral, chwedleuwr Affricanaidd-Americanaidd, ar Facebook Live. Roeddwn wedi clywed ei enw ond heb erioed gael y cyfle i’w glywed. Wrth gyflwyno ei stori olaf, diolchodd i’r chwedleuwr yr oedd wedi ei glywed yn ei hadrodd .. Daniel Morden, y stori o’i gasgliad am y Sipsiwn Cymreig ... roedd y byd yn sydyn yn llawn o gysylltiadau a phosibiliadau newydd.

https://www.philokwedystoryteller.co.uk/

Cefnogir gan

^
Cymraeg