Bydd Cath a Chandrika yn ein sgwrs Casglu ddydd Gwener 30 Hydref. Os hoffech ymuno â ni am goffi a chlonc am y prosiect ar-lein archebwch eich slot am ddim gyda tamarwilliams@beyondtheborder.com
Ein prosiect yw dweud a chanu stori Okha Haran yn Gymraeg, Gujurati a Saesneg. Stori Okha, merch felltigedig y Dduwies Parvati yw Okha Haran. Cafodd yr em hudolus yma o stori ei throsglwyddo am genedlaethau drwy deulu Chandrika. Rydym yn ddiolchgar i Gronfa Loteri Genedlaethol Cyngor Celfyddydau Cymru am wneud y gwaith hwn yn bosibl. Mae’r cyllid hwn wedi rhoi’r amser a gofod i ni gydweithio ac wedi ein galluogi i gael cefnogaeth ac ysbrydoliaeth ychwanegol gan y chwedleuwyr Sally Pomme Clayton a Tamar Eluned Williams.
Y bwriad yw rhoi rhan gyntaf y stori ar-lein ar 11 Rhagfyr ac mae croeso i bawb ymuno â ni. Byddwn yn anfon gwahoddiadau yn fuan drwy e-bost ac ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Byddem wrth ein bodd yn dweud yr holl stori wrthych yn y Gwanwyn, yr adeg traddodiadol i ddweud y stori hon. Gobeithiwn y bydd hwn yn berfformiad byw go iawn gyda gwledd i ddathlu ar y diwedd. Hoffem yn fawr iawn eich gweld yno!
Cafodd Chandrika ei geni yn Uganda i rieni Indiaidd a daeth i Gymru fel ffoadur yn 1972. Clywodd hi a’i siblingiaid straeon gan eu dau riant, straeon o Epigau Hindŵ yn ogystal â straeon gwerin o India. Roedd ei thad yn offeiriad Hindŵ a Kathakaar. Mae Kathakaariaid yn dweud a chanu straeon crefyddol o’r Mahabharat, Ramayana a’r gwahanol Puraana. Clywodd ef yn adrodd epigau crefyddol tebyg i Okha Haran (yn ei lais soniarus) wrth ei blant a hefyd ei gynulleidfa. Roedd straeon ei mam yn aml am fenywod cryf tebyg i Savitri a Draupadi a hefyd gymeriadau ffugiannol – straeon a gafodd eu creu gan fenywod ar gyfer menywod, y straeon a ddysgodd gan ei mam. Roedd gan ei dau riant berthnasau oedd yn chwedleuwyr proffesiynol. Cyfarfu Chandrika â Cath Little mewn gweithdy gan Frankie Armstrong , a chlywodd ganddi am chwedleua a chafodd ei denu yn syth. Ymunodd â Chylch Chwedleua Caerdydd a dechrau ailadrodd y straeon a glywodd gan ei rhieni.
Cafodd Cath ei ganu a’i magu yng Nghaerdydd ac mae fel arfer yn deud straeon o Gymru ac o’i threftadaeth Gwyddelig a Seisnig. Mae dweud stori o’r traddodiad Hindŵ yn her newydd iddi ac mae’n dysgu cymaint gan ei chyfaill Chandrika. Fel Chandrika, mae’n hoffi straeon menywod cryf. Mae’n falch iawn i ganfod menywod dewr, cryf, angerddol a hudolus yn stori Okha Haran.
Mae Cath bob amser wedi dwlu ar straeon. Fe wnaeth gwrdd â chwedleuwr proffesiynol am y tro cyntaf un diwrnod pan aeth hi a’i phlant i Amgueddfa Werin Sain Ffagan. Y chwedleuwr oedd Daniel Morden ac roedd yn dweud hanes Geni Taliesin. Cafodd ei hysbrydoli a dechreuodd freuddwydio am ffyrdd i gael gyrfa fel chwedleuwr. Cymerodd dipyn o amser iddi, fe wnaeth lawer o ymarfer, ymuno â Chylch Chwedleua Caerdydd a maes o law cymerodd ei chamau cyntaf ar y llwybr chwedleua proffesiynol yn 2006. Bu’n dilyn ei hangerdd byth ers hynny.
Mae uchafbwyntiau cyfnod clo Cath wedi cynnwys Casglu, a guradwyd gan y bythol siriol ac ysbrydoledig Tamar Eluned Williams. Dysgodd lawer hefyd yn gwrando yn y Privilege Café @privilegecafe, a guradwyd gan Mymuna Soleman. Uchafbwyntiau cyfnod clo Chandrika fu sicrhau lle ar raglen mentora BTB a chael cyfle i gydweithio gydag un o’i hoff chwedleuwyr – Cath Little.