body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Gŵyl Ar-lein Beyond the Border
26 Mehefin - 10 Gorffennaf

Ewch trwy'r drws i archebu eich tocynnau...

Gwyddom y byddai llawer o’n cynulleidfaoedd ac artistiaid wrth eu bodd yn bod gyda ni yn Beyond the Border yng nghartref newydd ein gŵyl yn Ninefwr yn Llandeilo, ond gan mai ychydig o leoedd fydd ar gael, bod pethau mor ansicr a’r cyfyngiadau teithio, gwn na all llawer ohonom fod gyda’n gilydd yn y cnawd eleni.

Rydym wedi syrthio mewn cariad gyda chartref newydd ein gŵyl ac eisiau gwneud popeth a fedrwn i fynd â chi yno a gadael i chi brofi’r gorau oll mewn chwedleua o Gymru, Prydain a’r byd.

Felly drwy hud Wi-Fi rydym eisiau mynd â chi ar daith wych o ble bynnag ydych yn y byd drwy Gymru ac ar hyd y lôn fawreddog honno yn Ninefwr i gyrraedd yr ŵyl a thrwy ddrysau ein Pabell Rithiol.

Awn â chi ar antur chwedleua drwy dechnoleg. Gallwch brofi bod yn agos at chwedleuwyrr, ymgolli mewn stori, mewn ffordd unigryw ac arbennig na fyddech wedi credu’n bosibl 12 mis yn ôl.

Yn ystod y cyfnod clo buom yn gweithio’n galed yn ymchwilio sut i gyflwyno goreuon chwedleua a hynny’n ddigidol.

Sut fyddwn ni’n mynd â chi ar daith stori i weld stori drwy lygaid aderyn? Sut gallwn roi chwedleuwr yn eich poced fel y gallwch mynd â nhw ar dro? Sut byddwn yn gadael i chi ymchwilio tirlun gyda straeon o’i mewn? Sut gallwn ddweud straeon coeden neu adael i goeden ddweud ei stori ei hun? Sut fyddwn ni yn rhannu gyda chi drwy sgrin dirlun godidog Cymru ac yn arbennig Ddinefwr?

Byddwn yn cynnig dwy ffordd i edrych ar gynnwys ar-lein.

Mynediad i'n rhaglen chwedleua wedi ei guradu yn ystod pythefnos yr ŵyl.

Bydd yn cynnwys profiadau digidol ecsliwsif, y dewis cyntaf i archebu lle ar ddigwyddiadau Zoom a’n profiad chwedleua ffôn byd-eang arbennig.

Mwy o wybodaeth yma


Pris - £53


Ydych chi eisiau archebu un neu ddau o ddigwyddiadau ar-lein yn unig yn hytrach na’r tocyn Chwilotwr?

Individual events are on sale now.


Pob digwyddiad yn £10.60 yr un


Sut mae'n gweithio

Byddwn yn cynnig cyfle i chi deimlo eich bod yn rhan o brofiad BtB eleni.

Archebwch eich band arddwrn rhithiol a byddwn yn eich cludo dwy byrth rhithiol i barthau darganfod ffyrdd newydd i brofi chwedleua.

Tocyn Chwilotwr Straeon - bydd y band arddwrn rhithiol hwn yn rhoi mynediad i chi i brofiad digidol wedi ei guradu fydd yn rhoi uchafbwyntiau’r rhaglen Rithiol. Bydd gennych rai nodweddion ecsliwsif i ddigwyddiadau Fforiwr, y cyfle cyntaf i archebu lle ar ein profiadau chwedleua rhyngweithiol ar Zoom; y cyfle cyntaf i enwebu rhywun am gyfle anhygoel i gael clywed stori lawr y ffôn o ben arall y byd ac i fynd ar daith stori bersonol. £53*

Tocynnau digwyddiad unigol Ydych chi eisiau archebu un neu ddau o ddigwyddiadau ar-lein yn unig yn hytrach na’r tocyn Chwilotwr? Byddwn yn mynd ar werth gyda digwyddiadau unigol pan fyddwn yn cyhoeddi’r rhaglen gyfan yn mis Mehefin.

Bydd pob digwyddiad yn £10.60* yr un

Ffi gweinyddu 6% yn cael ei gynnwys ym mhris y tocyn

Nodwch os gwelwch yn dda: Dim ond un tocyn sydd angen ar gyfer pob cartref.

Dim ond un tocyn sydd ei angen os ydych yn ei wylio ar eich ffôn, cyfrifiadur neu ipad ar eich pen eich hunan neu o fewn eich cartref. Ond os fyddwch chi a rhywun arall yn eich cartreg eisiau gwylio ar ddau ddyfais gwahanol bydd angen archebu dau docyn gan mai dim ond ar un dyfais mae modd gwylio ar y pryd. 1 tocyn ar gyfer 1 sgrin.

Mae gennym gymaint i’w rannu gyda chi ar-lein.

Lawrlwythwch ein Rhaglen yma

Mae'r profiad digidol yn cynnwys

  • Mynediad ecsliwsif i fideos ar-lein
  • Teithiau stori o Ddinefwr
  • Perfformiadau rhyngweithiol ar Zoom
  • Profiadau ymgolli mewn sain
  • Sgyrsiau
  • Cwestiynau ac atebion
  • a sesiynau hyfforddiant

Unwaith y byddwch wedi prynu eich tocynnau, anfonir cod digidol yn uniongyrchol atoch, lle medrwch gael mynediad i’r ŵyl arlein, pan fydd yr Ystafell yn agor yn agosach at ddyddiad yr ŵyl.

Os byddwch yn prynu ein Tocyn Chwilotwr Straeon cewch godau cyfrin i gael mynediad i barth rhyngweithiol arbennig i edrych a gwrando ar straeon bydd yn agor ar 26 Mehefin.

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiadau unigol yn cynnwys dolen i wylio ar-lein. Mae’r ddolen ar eich cyfer chi yn unig yn ogsytal â’r côd. Peidiwch â’i rannu ag eraill gan mae’n bosib na fydd modd i chi gael mynediad i’r digwyddiad.

Gwiriwch yr amseroedd a’r dyddiadau gan fod rhai digwyddiadau dim ond ar gael ar ddyddiadau penodol.

Byddwn yn cyhoeddi ein rhaglen Gŵyl Ar-lein a Byw llawn o 7 Mehefin

Cwestiynau a Ofynir yn Aml

Nid wyf yn gallu gweld y ddolen - ble mae hi?

Ar ôl i chi archebu eich tocyn byddech wedi derbyn neges e-bost gan ein swyddfa docynnau - Taliesin - gyda manylion sut i fewngofnodi. Yn y neges e-bost byddech wedi derbyn dolen i’w dilyn i gael mynediad at y cynnwys. Ni fydd y ddolen hon yn fyw tan 15 munud cyn i’r digwyddiad ddechrau.

Rwy’n cael trafferth gweld ar fy ffôn / gliniadur / sgrin

Ceisiwch wneud y canlynol;

  • Gwiriwch eich cyswllt wi-fi
  • Gwiriwch pa borwr yr ydych yn ei ddefnyddio ac a yw’n gyfredol
  • Gwiriwch eich bod wedi clicio ar y ddolen gywir yn yr e-bost
  • Gwiriwch amser a dyddiad y digwyddiad - dim ond o ddyddiad y digwyddiad y mae’r cynnwys ar gael

Am ba mor hir y mae’r fideos ar gael? A allaf wylio ar unrhyw amser? 

Gallwch wylio’r fideos o ddyddiad y digwyddiad ymlaen a byddant ar gael hyd 15 Gorffennaf 2021. Ar ôl y dyddiad hwnnw ni fyddwch yn gallu cael mynediad at y cynnwys.

Nid yw fy nolen yn gweithio o hyd?

Cysylltwch â ni digital@beyondtheborder.com

Pam bod angen i mi gofrestru ymlaen llaw?

Nifer gyfyngedig fydd yn gallu cysylltu â’r digwyddiadau Zoom gan y byddwch mewn Ystafell Zoom gyda’r artist ac rydym yn hoffi eu cadw’n glyd. Nifer gyfyngedig o 100 o gyfranogwyr sydd gennym. Os na fyddwch yn llwyddo i gael lle bydd y cynnwys ar gael i’w wylio ar alw ar ôl y digwyddiad.

Sut ydwi’n mewngofnodi ar Zoom?

Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad byddwch yn derbyn neges e-bost gyda dolen i gael mynediad i’r digwyddiad. Cliciwch ar y ddolen a dilyn y cyfarwyddiadau.

Nid wyf wedi derbyn neges e-bost cadarnhau?

Gwiriwch eich ffolder negeseuon e-bost sbwriel ac os nad yw yno cysylltwch â ni gyda’r enw a’r cyfeiriad e-bost y gwnaethoch eu defnyddio i gofrestru digital@beyondtheborder.com with the name and email you used to register.

Pa ddyfeisiadau alla’i eu defnyddio i wylio?

Gallwch wylio ar unrhyw ddyfais wedi ei chysylltu â’r rhyngrwyd - Cyfrifiadur, Gliniadur, tabled, ffôn.

A fydd fy nghamera a’r sain ymlaen?

Bydd eich camera wedi ei droi ymlaen ond gallwch chi ei ddiffodd (mae lle i ddewis ar waelod y sgrin i ddiffodd eich camera). Bydd eich sain i ffwrdd ond gallwch ofyn cwestiynau yn y sgwrs.

Sut allai droi fy nghamera ymlaen/ei ddiffodd?

Ar waelod y sgrin fideo mae lle i chi ddewis - Dechrau Fideo / Diffodd Fideo: Bydd hyn yn rhoi eich camera ymlaen neu’n ei ddiffodd.

Mae ansawdd y sain yn wael

Fel arfer mae ansawdd y sain yn well wrth wrando trwy glustffonau - rhowch gynnig ar hyn.

Mae gan Zoom restr faith o gwestiynau cyffredin ac erthyglau i’ch helpu ar eu gwefan: https://support.zoom.us/hc/en-us neu gallwch gysylltu â ni digital@beyondtheborder.com

Sut alla’i wylio’r cynnwys?

Ar ôl i chi brynu eich tocyn bydd gennych fynediad i’r Ystafell Archwilio Chwedleuwyr sydd â’r holl gynnwys i chi ei weld. Bydd angen i chi roi eich cod unigryw a bydd hyn yn rhoi mynediad i chi i Ystafell Ar-lein yr Ŵyl. Mae’r cynnwys yn gymysgedd o ddigwyddiadau ar Zoom, a digwyddiadau a sain y gallwch eu gwylio trwy Ystafell Ar-lein yr Ŵyl.

A allaf wylio’r cynnwys unrhyw bryd?

Mae’r digwyddiadau Zoom yn cael eu cynnal ar yr amser a hysbysebwyd, ond gallwch wylio recordiad ar ôl y digwyddiad. Gallwch wylio’r holl ddigwyddiadau ar alw ar ôl y digwyddiad hyd 15 Gorffennaf 2021, ac eithrio VAR: Story of Hervor sydd yn fyw yn unig.

Pa ddyfais sydd arnaf ei hangen i wylio?

Gallwch wylio ar unrhyw ddyfais wedi ei chysylltu â’r rhyngrwyd - Cyfrifiadur, Gliniadur, tabled, ffôn.

Nid wyf wedi derbyn neges e-bost cadarnhau

Gwiriwch eich ffolder negeseuon e-bost sbwriel ac os nad yw yno cysylltwch â ni gyda’r enw a’r cyfeiriad e-bost y gwnaethoch eu defnyddio i gofrestru digital@beyondtheborder.com with the name and email you used to buy your ticket.

A allaf rannu fy nolen?

Na. Ar gyfer eich cartref chi yn unig mae’r ddolen hon. Pan fyddwch yn agor y ddolen, mae’n cysylltu eich cyfeiriad IP i’r ddolen unigryw honno. Os defnyddir nifer o gyfeiriadau IP ar yr un ddolen, bydd yn atal y ffrydio i bawb.

Sut alla’i wylio’r cynnwys?

Ar ôl i chi brynu eich tocyn byddwch yn derbyn dolen trwy e-bost i gael mynediad at y cynnwys. Os bydd y cynnwys yn cael ei ffrydio, bydd y ddolen yn mynd â chi i Foyer Digidol, a fydd yn agor 30 munud cyn i’r digwyddiad ddechrau. Bydd arnoch angen eich cod unigryw o’ch e-bost cadarnhau i gael mynediad i’r Ystafell lle mae’r cynnwys yn cael ei ffrydio, felly cadwch hwnnw wrth law.

Os yw’r digwyddiad ar Zoom - byddwch yn derbyn dolen i Zoom yn eich e-bost cadarnhau a gallwch gael mynediad i’r ystafell aros ar gyfer y digwyddiad Zoom 15 munud cyn amser dechrau’r digwyddiad.

A allaf wylio’r cynnwys unrhyw bryd?

Mae’r digwyddiadau Zoom yn cael eu cynnal ar yr amser a hysbysebwyd, ond gallwch wylio recordiad ar ôl y digwyddiad. Gallwch wylio’r holl ddigwyddiadau ar alw ar ôl y digwyddiad hyd 15 Gorffennaf 2021, ac eithrio VAR: Story of Hervor sydd yn fyw yn unig.

Nid wyf wedi derbyn neges e-bost cadarnhau

Gwiriwch eich ffolder negeseuon e-bost sbwriel ac os nad yw yno cysylltwch â ni gyda’r enw a’r cyfeiriad e-bost y gwnaethoch eu defnyddio i gofrestru digital@beyondtheborder.com with the name and email you used to buy your ticket.

A allaf rannu fy nolen?

Na. Ar gyfer eich cartref chi yn unig mae’r ddolen hon. Pan fyddwch yn agor y ddolen, mae’n cysylltu eich cyfeiriad IP i’r ddolen unigryw honno. Os defnyddir nifer o gyfeiriadau IP ar yr un ddolen, bydd yn atal y ffrydio i bawb.

Archebwch Docyn Chwilotwr Straeon isod...

Btb Online Festival 800x450px
Gŵyl Ar-lein Beyond the Border - Tocyn Chwilotwr Straeon
Tocyn Chwilotwr Straeon - 26 Mehefin - 10 Gorffennaf

Cefnogir gan

^
Cymraeg