body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Ein Stori

Beyond the Border Image for

 

Beyond the Border yw Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru - gan ddod â straeon a phobl ynghyd, o Gymru a'r byd, drwy ŵyl a gynhelir bob dwy flynedd a phrosiectau sy'n dyfnhau cysylltiad drwy rym straeon.

Mae'r ŵyl yn un o brif wyliau chwedleua Prydain ac yn arddangos chwedleua ar ei orau o bob rhan o'r byd ac yn denu ymwelwyr o bob oed o bob rhan o Brydain a thramor.

Yn ogystal â phenwythnos yr Ŵyl ei hunan, mae BtB hefyd yn hyrwyddo rhaglen drwy'r flwyddyn o ddigwyddiadau perfformiad chwedleua, yn ogystal ag ystod eang o brosiectau addysg a phrosiectau maes arloesol.

Mae Beyond the Border hefyd yn aelod ac yn cyfrannu at FEST, Ffederasiwn Chwedleua Ewropeaidd. FEST, the Federation for European Storytelling

Mae Beyond the Border yn cyllido ei weithgareddau drwy gyfuniad o werthu tocynnau, cyfraniadau gan unigolion, Ymddiriedolaethau a Sefydliadau a chefnogwyr masnachol a chyllid sector cyhoeddus, yn bennaf Gyngor Celfyddydau Cymru ac Uned Digwyddiadau Mawr Llywodraeth Cymru.

Cefnogir gan

^
Cymraeg