body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Peter Stevenson - Hydref 2021

Mae Peter Stevenson yn rhannu’r newyddion diweddaraf am ei brosiectau – Prosiect Appalachia Cymru, Chwedl Dŵr, Uisce Dŵr Water, Porthladdoedd Ddoe a Heddiw, Boggarts Trolls & Tylwyth Teg, a Phrosiect India Cymru.

Beth yw'r prosiect?

Yn 2016 dechreuais weithio ar gyfres o brosiectau oedd yn cyd-fynd â’i gilydd yn archwilio syniadau am ffiniau a mudo trwy lên gwerin a chwedleua, y cyfan wedi eu hysbrydoli gan y ffaith bod llywodraeth Prydain yn ceisio creu ffin ym Môr Iwerddon i wahanu eu hunain oddi wrth Ewrop, ac yna gorchymyn Arlywydd UDA i adeiladu wal i gadw pobl Mecsico allan.

Cychwynnodd Prosiect Appalachia Cymru yn 2019 pan wnes i guradu arddangosfa o gelf gwerin Cymru ac Appalachia ym Morgantown, hen dref Gymreig yng Ngorllewin Virginia, lle gwnaeth yr urdd chwedleua leol helpu i greu gŵyl chwedleua. Yna dangoswyd yr arddangosfa yng Ngŵyl Chwedleua Aberystwyth, a bydd y prosiect yn parhau yng ngwanwyn 2022 yn y dref a fu'n un lofaol Gymreig, Welch, Gorllewin Virginia (ydi, mae Welch yn bodoli, a’r dref lofaol arall gerllaw, Jenkinjones). Mae’r prosiect hefyd wedi esgor ar lyfr, ‘The Moon-eyed People’, a sioe chwedleua a berfformiwyd ym mhabell Casglu yn BtB 2021 gyda’r anhygoel Ailsa Mair Hughes.

https://www.wvpublic.org/news/2019-05-22/art-exhibit-explores-appalachias-connection-to-wales

https://www.wvpublic.org/news/2020-05-29/folktales-and-music-bring-to-life-the-w-va-welsh-connection

Chwedl Dŵr, Fairytale of Water: ffilm yw hon a gomisiynwyd gan WOW (Gŵyl Ffilm Un Byd Cymru) ar gyfer eu prosiect Ecosinema ym Medi 2021, ar sail y ffilmiau byr am lên gwerin Cymru yr wyf wedi eu gwneud gyda Jacob Whittaker. Rhoddodd hyn y cyfle i archwilio syniadau am ddŵr fel ffin hylifol, a chyflwyno chwedleua i gynulleidfa lawer ehangach.
https://www.wowfilmfestival.com/

Porthladdoedd Ddoe a Heddiw yw’r un prosiect ag y mae Gill Brownson wedi ysgrifennu amdano mewn rhifyn cynharach o Ysbrydoli. Rwy’n gweithio yn Abergwaun, lle’r wyf yn ysgrifennu llyfr ac yn creu ffilm gyda Jacob am lên gwerin a diwylliant croesi’r môr i Rosslare, ac rwyf wedi cyfweld y chwedleuwyr Deb Winter, Christinine Willison, a Hedydd Hughes o Straeon Gwaun ar ei gyfer. Ariennir y prosiect gan Brifysgolion Cork, Dulyn ac Aberystwyth a’r UE.
earlier Ysbrydoli. I’m working in Abergwaun, where I’m writing a book and making a film with Jacob about the folk tales and culture of the sea crossing to Rosslare, for which I’ve interviewed storytellers Deb Winter, Christine Willison, and Hedydd Hughes from Straeon Gwaun. The project is funded by Cork, Dublin and Aberystwyth Universities and the EU.

https://portspastpresent.eu/peterstevenson-jacobwhittaker

Llyfr yw Boggarts Trolls and Tylwyth Teg, Folk Tales of Hidden People and Lost Lands, a eginodd yn Seland Newydd ar ddiwedd 2019, ac a ysgrifennwyd yng Nghymru yn ystod yr ynysu yn 2020 pan nad oedd neb yn cael teithio. Ond eto mae’n llyfr taith, yn hanes gwerin am fudo, gan ddechrau a gorffen yng Ngheredigion, gan groesi llu o ffiniau ar hyd y ffordd. https://www.thehistorypress.co.uk/publication/boggarts-trolls-and-tylwyth-teg/9780750995627/

Prosiect Cymru India: Cyfres o weithdai a
gynlluniwyd i helpu pobl ifanc i fynegi eu pryderon am eu hamgylchedd gan ddefnyddio technegau chwedleua llafar, darlunio, creu ffilmiau, ysgrifennu ac animeiddio. Rhedir y gweithdai ar y cyd â’r darlunydd Ekta Bharti a’r animeiddiwr Anwaar Alam yn India, a’r animeiddiwr Charlie Carter yng Nghymru. Mae sesiynau yn cael eu rhedeg ar hyn o bryd yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth ac ariennir y prosiect trwy’r Cyngor Prydeinig, Cyngor y Celfyddydau a Dream a Dream.

Ar gyfer pwy y mae a sut y gall pobl gymryd rhan?

Cam nesaf prosiect Cymru Appalachia yw ar gyfer plant ysgol yn Welch Gorllewin Virginia.

Dangoswyd y ffilm Chwedl Dŵr yn WOW a bydd ar gael mewn gwyliau eraill ac ar-lein, a gobeithio y bydd o help i’r rhai sy’n ymwneud â ffilmio teithiau stori ar gyfer BtB.

Bydd y prosiect Porthladdoedd yn cloi yng ngwanwyn 2022 gyda digwyddiadau chwedleua a chyhoeddus yng Nghymru ac Iwerddon, ynghyd â chyhoeddi’r llyfr Uisce Dŵr Water.

Cyhoeddir Boggarts Trolls and Tylwyth Teg ym mis Hydref a bydd ar gael i bawb.
Gellir archebu’r sesiynau Cymru India trwy Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth a bydd rhai gweithdai ar-lein, a gobeithio y byddant yn cysylltu â chwedleuwyr ifanc ar draws Cymru.

Dywedwch ragor amdanoch eich hun mewn bywgraffiad byr. Sut wnaethoch chi ddechrau chwedleua? Am ba mor hir ydych chi wedi bod yn gwneud hyn? O ble ydych chi’n gweithio, Sut fyddwch chi’n gweithio hefo stori?

Rwy’n gweithio o Aberystwyth ac rwyf wedi adrodd storïau ers yn blentyn pan oeddwn yn arfer eu troi yn llyfrau lluniau â llaw, rhywbeth yr wyf yn dal i’w wneud, ond erbyn hyn maen nhw’n cael eu galw yn llyfrau artist. Fe wnaeth chwedleua gychwyn fel ffordd o fyw o ddifri pan es i Goleg Celf Manceinion i astudio darlunio a storïau’r tylwyth teg, ac yna i’r Sefydliad Astudiaethau Acenion a Bywyd Gwerin ym Mhrifysgol Leeds lle gwnes i ddechrau casglu storïau hen a newydd. Treuliais fy oes yn darlunio llyfrau o storïau tylwyth teg, gan gynnwys rhai i lyfrau Ladybird, ac yna fe wnaeth y lluniau lamu o’r tudalennau a throi yn kamishibai, crancis, llusernau hud, sioeau sleidiau, a phypedau. Fe wnes i hefyd ddod yn chwedleuwr gweledol.

Rydych yn gofyn sut yr wyf yn gweithio hefo stori. Wel, mae’n cymryd llawer o amser. Alla’ i ddim adrodd stori oddi wrth y testun yn unig. Rwy’n ymweld â thirwedd y stori, yn siarad â phobl leol, yn gweithio yn yr archifau, yn dychmygu a thynnu llun y cymeriadau, nes byddai’n gallu gweld y stori yn glir yn fy mhen. Dim ond ar ôl i’r stori ddod yn fwy na thestun, dim ond wedyn y byddaf yn gallu ei hadrodd.

 

Cefnogir gan

^
Cymraeg