body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Digidol

Yn ystod yr amser anodd ac ansicr yma, rydym ni’n dod o hyd i ffyrdd o ddod at ein gilydd a rhannu straeon. Dyna pam rydym ni eisiau gwybod beth i wneud er mwyn cefnogi chwedleuwyr a charwyr-chwedl, achos rydym ni’n credu bod angen straeon yn fwy nag erioed.

Roedd Beyond the Border yn barod yn datblygu cynlluniau i edrych ar sut i wella sgiliau digidol yn y byd chwedleua. Rydym ni wedi gweld dros y bythefnos ddiwethaf symudiad cyffrous tuag at ddefnyddio platfformau digidol i adrodd straeon. Felly, er mwyn ein helpu ni gyd i gysylltu drwy hunan-ynysu, rydym ni eisiau gwybod beth i’w wneud er mwyn cefnogi, rhannu a datblygu’r gwaith yma.

Chwedleuwyr, rydym ni eisiau defnyddio ein platfformau digidol er mwyn rhannu a lledaenu’r gair am eich gwaith gyda chynulleidfaoedd ar draws y byd ac i’ch helpu chi i ddatblygu eich sgiliau digidol. Felly, os mae gennych chi gylch chwedleua newydd yn digwydd ar blatfform digidol, sianel YouTube newydd hoffech chi rannu, neu rydych chi’n arbrofi gyda chwedleua mewn modd newydd tra’ch bod chi’n aros adref ac aros yn ddiogel, gadewch i ni wybod.

Rydym ni hefyd eisiau helpu chwedleuwr sydd yn newydd at ddefnyddio platfformau digidol i deimlo’n hyderus gydag adrodd straeon arlein. Felly, fe fyddem ni’n dechrau hyfforddiant arlein a grwpiau i helpu. Os mae gennych chi broblem penodol neu rywbeth hoffech chi ddysgu, danfonwch neges a fe wnewn ni weld beth sy’n bosib!

Cynulleidfaoedd, pob wythnos fe fyddem ni’n rhannu bwydlen o hyfrydwch digidol gyda chi i helpu rhannu gwaith chwedleuwyr o ar draws y byd a’n cysylltu ni gyd yn ystod yr amser yma. Ac os mae yna waith yn digwydd hoffech chi i ni rannu, danfonwch linc i ni!

Mae rhaglen 2023 bron iawn ar ei ffurf derfynol, a byddwn yn cyhoeddi’r rhaglen lawn yn y flwyddyn newydd. E-bost tamarwilliams@beyondtheborder.com

Cefnogir gan

^
Cymraeg