Darganfod Straeon oedd ein prosiect cynhyrfus lleol ni a gafodd ei gefnogi gan y Gronfa Loteri Genedlaethol. Yn arwain lan at ein gwyl 2021 ni, partnerodd yr wyl gyda chwedleuwyr lleol: Ceri Phillips, Stacey Blythe, Cath Little a Phil Okwedy, a grwpiau pobl ifanc Mess up the Mess ac Operasonic. Cydweithiom ni gyda phedair ysgol lleol yn Sir Gâr i greu cyfle unigryw i rannu, archwilio, ac ail-ddychmygu pwysigrwydd mytholegol ac hanesyddol Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dinefwr.