body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Datganiad gan Beyond the Border

Er i ni fod yn edrych ymlaen yn fawr iawn at ein gŵyl yn 2020, yn croesawu pawb i safle newydd hudolus yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dinefwr ar gyfer rhaglen wych, er mwyn rhoi blaenoriaeth i iechyd a lles pawb yn gysylltiedig ac yn dilyn cyngor diweddar gan y llywodraeth a’r gwasanaeth iechyd, mae Beyond the Border wedi cymryd y penderfyniad anodd i ohirio yr Ŵyl y bwriedid ei chynnal yn 2020 gan flwyddyn. Caiff yn awr ei chynnal rhwng 2-4 Gorffennaf 2021.

Gwyddom y bydd pawb a roddodd eu hamser i gefnogi’r ŵyl hyd yma – ein cynulleidfaoedd teyrngar tu hwnt, artistiaid, staff, criw, technegwyr, gwirfoddolwyr, masnachwyr a chyflenwyr a gweithwyr llawrydd – yn siomedig. Mae’n golygu fod angen i ni aros blwyddyn arall i rannu’r holl chwedlau, cerddoriaeth, pypedau, llwybrau cerdded a gweithgareddau creadigol a chyfranogol gwych y byddwn yn eu creu gyda’n gilydd yn Ninefwr.

Gallwn eich sicrhau ein bod eisoes yn rhoi cynlluniau yn eu lle ar gyfer yr ŵyl yn 2021. Ar gyfer y llu ohonoch a brynodd docynnau ar gyfer mis Gorffennaf 2020, nid oes angen i chi wneud dim os hoffech fynychu yn 2021 – byddwn yn trosglwyddo eich tocynnau heb ddim cost ychwanegol. Os hoffech ad-daliad, yn yr ychydig ddyddiau nesaf gyda chefnogaeth ein cyflenwr tocynnau, Brown Paper Tickets, byddwn yn e-bostio manylion i bawb a brynodd docynnau yn rhoi manylion sut i wneud hynny.

Mae straeon yn teimlo’n bwysicach nag erioed. Mae angen i ni ddal i siarad a chysylltu gyda’n gilydd, ac fel cynifer o bobl, rydym wedi ymrwymo i wneud hyn orau y gallwn dros yr wythnosau a misoedd nesaf, gan ddechrau gyda digwyddiadau ar-lein Diwrnod Chwedleua y Byd yr wythnos ddiwethaf, gyda mwy ar y gweill. Rydym eisiau gwneud popeth a fedrwn gefnogi ein gilydd yn ystod y cyfnod anodd tu hwnt hwn, tra hefyd yn ymdopi gyda’r effaith yma ar yr Ŵyl. Felly, cadwch olwg am newyddion a chyfathrebiadau gennym am ddigwyddiadau a gweithgareddau i’n helpu i gadw pob un ohonom yn gall a gyda chwedlau drwy’r gyfnod hwn o ynysu angenrheidiol

Rydym yn ddiolchgar iawn i’n partneriaid yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Ninefwr am ein galluogi i wneud y symudiad hwn, a hefyd ein prif gyllidwyr Cyngor Celfyddydau Cymru ac Uned Digwyddiadau Mawr Llywodraeth Cymru ynghyd â’r llu o gyllidwyr sy’n cefnogi gweithgareddau penodol. Diolch i bawb ohonoch am eich cefnogaeth a’ch dealltwriaeth.

Bu hwn yn benderfyniad gwirioneddol anodd ond angenrheidiol. Gobeithiwn y byddwch yn parhau’r daith gyda ni, gan rannu straeon dros yr wythnosau a misoedd i ddod, ac i ddod ynghyd unwaith eto ym mis Gorffennaf 2021.

Yn y cyfamser, gofalwch amdanoch eich hun a’ch gilydd a chadw’n ddiogel.

Naomi – Cyfarwyddwr Artistig a Sandra – Rheolwr yr Ŵyl

Ar ran Tîm ac Ymddiriedolwyr BtB

 

 

 

 

Cefnogir gan

^
Cymraeg