Storïau, Chwedlau a Cherddoriaeth
Gyda Beyond the Border
Dydd Gwener 28 Ebrill, 6pm
Lleoliad: Davies & Co
Chwedleuwyr: Michael Harvey, Ceri Phillips, Tamar Eluned Williams a’r cerddor Owen Shiers.
Tocynnau £15 y person + Bwyd
Ar gael o Gwyl Len Llandeilo
Er mwyn rhoi hwb dechreuol i benwythnos yr Ŵyl Lenyddol, mae Beyond the Border – Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru yn dod â rhai o leisiau chwedleua gorau ac amlycaf Cymru a cherddoriaeth ac yn cymryd Davies & Co drosodd.
Am gael blas o Ŵyl Beyond the Border? Byddwn yn dod â rhaglen arbennig nos Wener yng Ngŵyl Lenyddol Llandeilo ar 28 Ebrill. Cewch flas ar storïau, chwedlau a cherddoriaeth gan rai o chwedleuwyr ac artistiaid gorau Cymru cyn ein gŵyl fis Gorffennaf yn Ninefwr.
Noson o chwedleua a cherddoriaeth i oedolion, rhywfaint yn Saesneg, rhywfaint yn Gymraeg, hwyl a llawenydd i’w cael. Eisteddwch a gwrando ar storïau traddodiadol a rhai sydd ddim mor draddodiadol o bob rhan o Gymru a’r byd.
Ac os ydych chi’n hoffi’r hyn welwch chi, bydd Beyond the Border yn ôl yn Ninefwr am yr ŵyl lawn o 7 i 9 Gorffennaf.