body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Story Walks at Dinefwr

ELENI BYDDWN YN EICH ARWAIN AR DAITH CHWEDLEUA TRWY EIN CARTREF NEWYDD HYFRYD YN NINEFWR.

CEWCH EICH TYWYS GAN EIN CASGLIAD O CHWEDLEUWYR WRTH IDDYN NHW EICH ARWAIN AR HYD LLWYBRAU, CAEAU, TRYSORAU CUDD A DARGANFOD RHANNAU NEWYDD O SAFLE’R ŴYL NAD YDYN NHW AR Y LLWYBRAU ARFEROL.

Cynlluniwyd dwy o’n teithiau stori gan y senograffwraig Alison Neighbour, a greodd brofiadau theatr gafaelgar ar gerdded. Dilynwch ei mapiau manwl a’i symbolau i ganfod y ffordd wrth i chi gael eich arwain ar hyd y daith ar gyfer y teithiau stori Talisman a Hallows Queen - y gellir eu gwneud fel rhan o’r daith stori sydd ar yr amserlen neu yn ôl eich dewis eich hun. Os byddwch yn teithio yn ôl eich dewis eich hun chwiliwch am y gweithiau celf cudd a gwahoddiadau ar hyd y ffordd- efallai y byddant yn goleuo pethau mewn ffyrdd newydd, neu yn rhoi her neu weithgaredd i chi yn gysylltiedig â’r storïau o’r teithiau stori a drefnwyd a’r dirwedd ei hun.

Mae’r lleoedd i’w harchebu ar y Teithiau Stori yn gyfyngedig. Gwnewch yn siw^ r eich bod yn archebu eich lle yn Swyddfa Docynnau’r w^ yl 30 munud cyn i’r digwyddiad ddechrau. Nid yw’n bosibl archebu cynyr wyl.

 

Lisa Schneideau
Taith Stori - Tangle of the Commons
Sul hanner dydd
Stori’r dirwedd ym Mhrydain a’n perthynas gyda’r pethau gwyllt o’n cwmpas, yn weladwy ac anweladwy. Disgwyliwch dylwyth teg maleisus, brenhinoedd-ladron cachgïaidd, ysbrydion drwg llysnafeddog a mochyn gwyllt drwg ei hwyliau. 8+
8+
Man cychwyn – O flaen Ty Newton

 

Cath Little gyda Tim Ralphs, Marion Leeper, Christine Watinks & Kestrel Morton
Taith Stori - The Hallows Queen 
Sadwrn 2-3pm & 3pm-4pm

Yn ystod penwythnos yr w^ yl bydd Cath yn perfformio taith gerdded storïol trwy Ddinefwr yn ogystal â fersiwn agos atoch dan do o’i haddasiad hyfryd o The Hallows Queen - stori Peredur o’r Mabinogi wedi ei hail-ddychmygu gyda chaneuon gwreiddiol.

Starting point: Which path will you choose? Meet at either Hallows Queen start A or B gate. The groups will merge along the way.

The Fool’s Journey (route A) – a shorter walk with gentler slopes. Join a young fool as he begins his adventure.

or

The Trail Dolorous (route B) – a slightly more demanding route. Hear how rash actions lead to tragedy for King and Land alike.

DOWNLOAD MAP – The Hallows Queen

 ‘O’r Wlad‘/’From the Land’, Taith Stori(Cymraeg) 8+ gyda Ceri Phillips
Sadwrb 2pm

Chwedlau a fydd yn mynd â chi nôl at natur o’r palasaidd ar hyd llwybr gwaith caled! Bydd Ceri’nadrodd 3 stori werin Gymraeg sy’n ymwneud â ‘phoblgwell eu byd, ‘y werin pobl - pobl sy’n gweithio’ a dychweliad at natur, pob un wedi’i hadrodd gyda chefndir perthnasol.

Man cychwyn; gatiau Newton House.

 

Angharad Wynne a chasgliad o chwedleuwyr
Talisman
Sun 2pm 
(enw) gwrthrych, yn nodweddiadol modrwy neu garreg ag arysgrifen arni, y credir bod iddo rym hudol ac i ddod â lwc dda.
Mae TALISMAN yn blethiad o hanes a dirgelwch rhai o ddynion a merched hudol Cymru gyda storïau am gyfarfodydd arallfydol a bendithion a melltithion y Tylwyth Teg.

Man cychwyn – Talisman

Download Map – Talisman

TEITHIAU STORI (LLWYBR RHWYDD)

Yn ystod yr w^ yl. bydd rhai o’n chwedleuwyr yn addasu eu llwybrau stori i’w gwneud yn fwy hygyrch i’r rhai y mae eu gallu i symud wedi ei gyfyngu.

1) Lisa Schneideau, Tangle of the Commons. Sul 12-2pm
Stori’r dirwedd ym Mhrydain a’n perthynas gyda’r pethau gwyllt o’n cwmpas, yn weladwy ac anweladwy. Disgwyliwch dylwyth teg maleisus, brenhinoedd-ladron cachgïaidd, ysbrydion drwg llysnafeddog a mochyn gwyllt drwg ei hwyliau. 8+
8+
Man cychwyn – O flaen Ty Newton

2) Taith Stori gyda Fiona Collins & Amy Douglas. Sadwrn 5pm-6.30pm
O ysblander brenhinol i chwilota yn y coed ac yn ôl eto. Mae gan ein cymeriadau lwybr i’w ddilyn a thaith i fynd arni – fel ninnau!
Taith stori gyda Fiona Collins ac Amy Douglas.
Bydd y chwedleua yn Saesneg gydag edefyn llachar o Gymraeg yn plethu i mewn ac allan.
Addas i deuluoedd ac oedolion.
Man cychwyn – O flaen Ty Newton

Mae ein Teithiau Stori Llwybrau Rhwydd yn cychwyn o Dy Newton, a bydd ein chwedleuwyr yn llunio eu llwybrau gan ddibynnu ar anghenion y gynulleidfa.

Rydym wedi cynllunio’r llwybrau gorau fel eu bod yn addas i gadeiriau olwyn llaw, cadeiriau pŵer a sgwteri. Nid yw Dinefwr yn hollol wastad, a bydd cyfran o’r daith ar lwybr gwastad, peth ar darmac, peth ar lwybrau graean wedi eu cywasgu. Bydd y teithiau rhwng 0.8 a 1.4km.

Gall y llethr fod rhwng 1 mewn 0.02 a 1 mewn 0.2. Bydd y llwybrau yn cymryd rhwng 1.5 a 2 awr gyda digon o gyfle i stopio ar gyfer y stori a lleoedd ar gael i rai eistedd ar fanciau a meinciau.

 

Cefnogir gan

^
Cymraeg