body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Y Chwedleuwragedd Cath Little a Ffion Phillips yn ymuno â Hwb Chwedleua Myseliwm

Bydd Hwb Chwedleua Myseliwm yn gweithio gyda dwy chwedleuwraig anhygoel a gwybodus, Cath Little a Ffion Phillips, a fydd yn helpu i ddatblygu’r rhaglen gydweithredu newydd trwy Gymru gyfan rhwng gweithwyr llawrydd a sefydliadau, gyda chefnogaeth cronfa Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru.

Rhwydwaith o bartneriaid sefydliadol a llawrydd, wedi ymrwymo i rannu arfer a meithrin chwedlau llai cyffredin o bob rhan o gymunedau amrywiol Cymru yw Hwb Chwedleua Mycelium. Ysbrydolwyd y model gan rwydweithiau myceliwm natur ac mae’n cynnwys cefnogaeth i gynhyrchwyr a rôl newydd i’n Cyfarwyddion cyfoes.

Bydd Beyond the Border, yr Eisteddfod Genedlaethol, People Speak Up, Menter Iaith a Citrus Arts, ynghyd â chwedleuwyr unigol ac aelodau o’r gymuned, Head4Arts a Theatr Soar, yn gweithio i sicrhau dyfodol y sector chwedleua yng Nghymru.

Bydd Cath Little a Ffion Phillips yn ymuno â phartneriaeth yr Hwb i gynnig cefnogaeth, dealltwriaeth a chymorth i ddatblygu’r rhaglen trwy Gymru.

Dywedodd Cynhyrchydd Ymgysylltu a Rheolwr Prosiect Beyond the Border, Tamar Williams; “Bydd y ddwy chwedleuwraig yn ymuno ag aelodau eraill yr Hwb i weithredu fel hwyluswyr a chysylltwyr, gan gefnogi Cynhyrchwyr a Chyfarwyddion yn y cymunedau lle maent yn gweithio a, phan fydd yn ddefnyddiol, creu cysylltiadau rhwng eu gwaith ac unrhyw weithgareddau eraill ar draws Cymru.  Rydym yn gwybod bod chwedleuwyr yn aml yn gweld eu hunain yn gweithio ar eu pennau eu hunain a holl ddull yr Hwb Mycelium yw cysylltu pobl â’i gilydd, fel ein bod yn gallu creu rhwydwaith cryfach a mwy gwydn o weithgareddau.”

Mae’r chwedleuwraig a’r gantores o Gaerdydd, Cath Little yn adnabyddus trwy’r gymuned gyfan. Mae Cath eisoes yn helpu i redeg Cylch Chwedleua Caerdydd ac mae’n curadu eu cyngherddau tymhorol, Chwedlau Troad y Rhod. Mae’n adrodd ei chwedlau ac yn gwrando arnynt yn Oasis, elusen yng Nghaerdydd, sy’n cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ac mae’n mentora Chwedleuwyr Ifanc Glan yr Afon, gan helpu i roi hyder i bobl ifanc yn ei chymuned i ddychmygu a siarad drostynt eu hunain.

Dywedodd Cath, “Mae angen i ni ddatblygu cenhedlaeth newydd o chwedleuwyr a rhoi llwyfan i leisiau a storïau o bob rhan o’n cymunedau amrywiol yng Nghymru. Rwy’n falch ac wrth fy modd o fod yn rhan o’r hwb sy’n gwneud i hyn ddigwydd.”

Darganfu Chwedleuwr Ifanc y Flwyddyn 2021-2022, Ffion Phillips, sydd yn byw yng Ngogledd Cymru, ei thalent wrth chwedleua yng Nghylch Stori Venue Cymru pan oedd yn wyth mlwydd oed. Wedi ei hysbrydoli gan ei chynefin yng Ngogledd Cymru, mae gan Ffion angerdd am ail-gofio ac ail-ddychmygu chwedlau Cymru. Mae wedi adrodd ei chwedlau yng Ngŵyl Chwedleua Aberystwyth, Beyond the Border a Gŵyl Chwedleua Ryngwladol yr Alban

Dywedodd Ffion,Rwy’n edrych ymlaen at gael y cyfle i roi fy nghyfraniad a bod yn rhan o lunio prosiect mor gyffrous ac unigryw i chwedleua yng Nghymru, ond yn fwy na dim, alla’i ddim aros i ddysgu o’r profiad o wylio’r hwb yn datblygu."

"Rydym yn falch iawn o allu tynnu ar yr amrywiaeth eang o sgiliau, profiadau a diddordebau y mae Cath a Ffion yn eu dwyn i’r gwaith hwn - fel chwedleuwragedd cynnar a mwy profiadol sy’n byw mewn rhannau gwahanol o’r wlad, y ddwy â safbwyntiau perthnasol dros ben wrth i ni weithio i wella’r strwythurau cefnogi sydd ar gael i bawb." Naomi Wilds.

Mycelium Storytelling Hub - Cath Little (English)
Ffion Philips - Hwb Chwedleua Myseliwm (Cymraeg)
Ffion Phillips Mycelium Storytelling Hub (English)

Cefnogir gan

^
Cymraeg