body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Chwedleuwyr wedi eu gwreiddio yn y gymuned leol i ddatblygu a chreu amrywiaeth yn y grefft o chwedleua ar draws Gorllewin Cymru

Bydd PeopleSpeakUp Llanelli, mewn partneriaeth â Beyond the Border – Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru yn gweithio gyda dau chwedleuwr sefydledig ar hyd y flwyddyn nesaf fel rhan o brosiect ar y cyd newydd cyffrous trwy Gymru i ddatblygu a chreu amrywiaeth yn y grefft o chwedleua.

Mae’r chwedleuwyr o Sir Benfro, Phil Okwedy a Deb Winter wedi bod yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau gwahanol gyda PeopleSpeakUp yn Llanelli ers dwy flynedd fel chwedleuwyr a hwyluswyr. Bydd eu swyddi newydd fel Cyfarwyddion Cyswllt yn eu galluogi i ddyfnhau a datblygu’r gwaith hwn, gan gefnogi mwy o gymunedau ar draws Gorllewin Cymru a’u cysylltu â rhaglen newydd i Gymru gyfan, Hwb Chwedleua Myseliwm.

Mae Hwb Chwedleua Myseliwm yn gynllun cydweithredol newydd cyffrous rhwng gweithwyr llawrydd a sefydliadau a gefnogir gan Gronfa Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru.

Rhwydwaith o bartneriaid sefydliadol a llawrydd, wedi ymrwymo i rannu ymarfer a meithrin chwedlau llai cyffredin o bob rhan o gymunedau amrywiol Cymru yw Hwb Chwedleua Myseliwm. Ysbrydolwyd y model gan rwydweithiau myceliwm natur ac mae’n cynnwys cefnogaeth i gynhyrchwyr a rôl newydd i’n Cyfarwyddion cyfoes.

Mae PeopleSpeakUp yn fenter celfyddydau cymdeithasol, iechyd a llesiant yn Llanelli sy’n cysylltu gyda chymunedau drwy chwedleua, y gair llafar, ysgrifennu creadigol a chelfyddydau cyfranogol.

Mae PeopleSpeakUp yn un o nifer o sefydliadau sy’n creu’r Hwb gyda Beyond the Border, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol, Menter Iaith a Citrus Arts, chwedleuwyr unigol ac aelodau o’r gymuned, Head4Arts a Theatr Soar - y cyfan yn gweithio i sicrhau dyfodol y sector chwedleua yng Nghymru

Fel Cyfarwyddion Cysylltiedig bydd Phil Okwedy a Deb Winter yn datblygu cysylltiadau a phrosiectau newydd, gan ehangu’r amrywiaeth o ran ymgysylltiad â chwedleua. Byddant yn ymateb i’r storïau fydd yn codi yn eu cymunedau, gan feithrin partneriaethau diwylliannol amrywiol gan hefyd feithrin eu twf artistig eu hunain – gan rannu cynlluniau a chefnogaeth ar draws y rhwydwaith a rhannu’r hyn y byddant yn ei ddysgu â’r Hwb.

Dywedodd Eleanor Shaw o PeopleSpeakUp: “Rydym wedi cyffroi cymaint am weithio gyda Beyond the Border ar y prosiect arloesol hwn, bydd cael y cyfle i ymwreiddio chwedleuwyr profiadol, angerddol, yn ein model gwaith fel chwedleuwyr cyswllt yn cael cymaint o effaith ar ein cymuned, ein model gwaith, a’r effaith cymdeithasol. Mae’r manteision yn ddiddiwedd i’r chwedleuwyr, i’n sefydliad a’n cymuned chwedleua.”

Mae rhai o’r gweithgareddau cyntaf sydd wedi eu cynllunio’n barod ar gyfer Gorllewin Cymru yn cynnwys trefnu ‘Rhannu Stori’ yn fyw ac ar-lein i bobl sy’n byw eu hunain; datblygu Grŵp Dynion PSU trwy gyfres o weithdai rhyngweithiol; gweithdai annog i’r rhai sydd yn cychwyn chwedleua; uno â grwpiau amgylcheddol lleol i greu storïau wedi eu hysbrydoli gan natur a galwadau i weithredu ar newid hinsawdd, a gweithdai gydag aelodau Llwy Gariad i gasglu a chofnodi storïau o brofiadau a diwylliannau’r grŵp a datblygu lleisiau newydd.

"“Cychwynnodd grŵp cymdeithasol Llwy Gariad yn wreiddiol oherwydd ymgynghoriadau ar gyfer Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru, yn ôl yn Hydref 2020. Mae’n lle cymdeithasol i bobl o leiafrifoedd ethnig du, Asiaidd a “lleiafrifol” fel y maent yn cael eu galw a’u teuluoedd, sy’n byw yng ngorllewin Cymru, i ddod at ei gilydd a chyfarfod. Mae llawer ohonom yn “yr unig berson du yn y pentref”, yr unig “berson lliw” mewn dosbarthiadau, ysgolion, gweithleoedd a grwpiau cymdeithasol. Mae rhai ohonom yn rhieni brown i blant gwyn, a rhieni gwyn i blant brown, sy’n ceisio dod o hyd i gysylltiadau â hanes gwirioneddol, a phrofiadau diwylliannol y mae’n rhaid i ni deithio i ddinasoedd i’w cael dros dro,” dywedodd y Chwedleuwr Phil Okwedy. said Storyteller Phil Okwedy.

Aeth ymlaen, “Rwyf wedi meddwl ers tro ond yn anaml yr wyf wedi mynegi’r syniad y dylai chwedleuwr fod o wasanaeth i’w gymuned. Felly, rwyf wrth fy modd y bydd y swyddogaeth newydd yma yn gadael i mi archwilio a datblygu ffyrdd y gall chwedleua gyfrannu yn ddefnyddiol, a hwyluso, rhannu storïau a lleisiau sy’n cynrychioli amrywiaeth a chymhlethdod Cymru.”I’ve long entertained but seldom aired the idea that the storyteller ought to be of service to their community. So, I’m delighted that this new role will allow me to explore and develop ways in which storytelling can usefully contribute to, and facilitate, the sharing of the stories and voices that represent the diversity and complexity of Wales.”

Dywedodd Deb Winter,Dywedodd Deb Winter, “Gall chwedleua wneud gwahaniaethau anferth i iechyd meddwl pobl a’u llesiant, yn arbennig pan gaiff ei ddefnyddio i ddwyn pobl at ei gilydd, cynyddu hunan-barch a meithrin cyfeillgarwch a chysylltiadau yn y gymuned. Rwyf yr un mor gyffrous am y manteision hynny ag yr wyf am y cyfle gwych yma i ddefnyddio chwedleua i fod yn llais dros Natur, yn gatalydd dros weithredu cadarnhaol i ddiogelu ein planed ddioddefus.”

Am ragor o wybodaeth am PeopleSpeakUp ewch i peoplespeakup.co.uk

Am ragor o wybodaeth am Hwb Chwedleua Myseliwm a’r swyddi sydd ar gael i gynhyrchwyr a chwedleuwyr ar draws Cymru, ewch i Mae Hwb Chwedleua Myseliwm

The Mycelium Storytelling Hub | Hwb Chwedleua Myseliwm

Cefnogir gan

^
Cymraeg