body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Dydd Gwener Chwedleua Straeon Byr (Byr)

Yn dilyn yr ymateb gwych i Ddiwrnod Chwedleua y Byd ddydd Gwener diwethaf, rydym wedi penderfynu datblygu’r syniad o rannu straeon eto y dydd Gwener yma, dan ein Dydd Gwener Chwedleua newydd.

Mae straeon yn teimlo’n bwysicach nag erioed. Mae angen i ni ddal i siarad a chysylltu gyda’n gilydd, dod â phobl ynghyd ar-lein yn ystod y cyfnod anodd hwn a rhannu straeon yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Rydym wedi gofyn i nifer fach o chwedleuwyr o bob rhan o Gymru a’r byd i rannu rhai o’u hoff straeon byr gyda ni, i gyd ar thema undod a bod gyda’n gilydd. Dilynwch ni y dydd Gwener yma wrth i ni barhau i rannu straeon ar-lein.

Byddwn yn rhannu fideos byr 2-3 munud a recordiwyd ymlaen llaw a ffrwd byw ychydig yn hirach.

Available to watch on Friday:
Facebook @BTBStorytelling

YouTube Channel

Cefnogir gan

^
Cymraeg