body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Cefnogwch Ni

Mae Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Beyond the Border yn elusen a dibynnwn ar gymorth ariannol a chyfraniadau yn ogystal ag incwm o werthu tocynnau i helpu rhedeg ein gŵyl a phrosiectau ar hyd y flwyddyn.

Mae ein gwaith yn cefnogi chwedleua ar draws Cymru, gan ddefnyddio straeon i ddod â chymunedau ynghyd, i helpu iechyd a llesiant ac i gasglu a rhannu straeon, mythau a chwedlau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Aiff pob ceiniog a gyfrannir i Beyond the Border yn ôl i’n gŵyl a phrosiectau. Gwnawn yn siŵr fod ein cefnogaeth yn cael effaith ar ein cymunedau.
Rydym hefyd yn cefnogi lleisiau chwedleua a chynhyrchwyr ifanc ac sy’n dod i’r amlwg drwy ein rhaglen mentora Lleisiau Newydd, Cyfeiriadau Newydd a Hyb Chwedleua Mycelium. Hefyd, cefnogwn brosiectau eraill a gaiff eu rhedeg gan sefydliadau eraill yn cynnwys rhaglen Chwedleuwr Ifanc y Flwyddyn.

Rydym yn ymroddedig i gefnogi chwedleuwyr. Talwn gyfraddau’r diwydiant ar gyfer ein rhaglen chwedleua.
Cynhaliwn sesiynau Casglu misol sy’n gweithio gyda chwedleuwyr i ddatblygu sgiliau a chynnig arfer gorau a chyngor ar gyfer gweithio fel chwedleuwyr proffesiynol.

Yn yr un modd â phob gŵyl ar draws Prydain, rydym yn wynebu costau uwch am bopeth sydd eu hangen i adeiladu profiad gŵyl. Sylweddolwn hefyd fod pawb yn wynebu argyfwng costau byw, tanwydd tlodi ac ymdeimlad cynyddol o ansicrwydd am y dyfodol. Rydym eisiau cefnogi cynulleidfaoedd i fynychu ac wedi rhewi prisiau ein tocynnau i brisiau 2020. Rydym eisiau i bobl fedru mynychu, ond bydd gwneud hynny yn effeithio ar sut ydym yn rhedeg yr ŵyl.
We want to support audiences attending and we have frozen our tickets prices to 2020 prices. We want people to be able to attend, but in doing so this will impact on how we run the festival.

Os gallwch ein cefnogi hyd yn oed drwy swm bach unigol o arian, neu gyfraniadau misol, bydd hyn yn ein helpu i gyflawni cymaint ar gyfer ein cymuned a chwedleua yng Nghymru.

CYFRANNU

Rydym yn ffodus i gael cefnogaeth gan y sefydliadau dilynol:
Cyngor Celfyddydau Cymru
Uned Digwyddiadau Mawr Llywodraeth Cymru
National Lottery
Wales Arts International

 

Caiff rhai o'n prosiectau cymunedol a maes eu cyllido'n benodol gan sefydliadau neilltuol i'n helpu i gyflawni gwasanaethau penodol i gymunedau a phrosiectau iechyd. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn ein hastudiaethau achos a phrosiectau.

Cefnogir gan

^
Cymraeg