Mae Llwybrau yn dro stori yn eich poced – perfformiad i wrando arno tra byddwch yn cerdded ar hyd llwybr wedi’i gynllunio. Mae pedwar perfformiad ar gael ar hyn o bryd, oll wedi’u llunio o amgylch llwybrau cerdded yng Nghaerdydd, gan gynnwys rhannau o Lwybr Taf, y Gwregys Gwyrdd, Llwybr Pererindod Penrhys a Llwybr Trelái, llwybrau gwahanol sy’n ymchwilio gwahanol ardaloedd o’r ddinas. Pan fyddant yn ymchwilio’r llwybrau hyn, gwahoddir gwrandawyr i “gerdded drwy’r stori” – i wrando ar gasgliad o straeon, i fyfyrio ar yr hyn sydd o’u cwmpas, yr hyn y gallant ei weld a sut mae’r stori yn ychwanegu dimensiwn newydd i’r tirlun. Er y cynlluniwyd y llwybrau stori ar gyfer eu cerdded yng Nghaerdydd, mae llawer o bobl hefyd wedi dewis cerdded drwy stori yn eu rhannau eu hunain o’r byd: o Aberystwyth i Iwerddon, California i Indiana.
Daeth y syniad am y prosiect yn ystod y cyfnod clo cyntaf. Roeddwn yn treulio llawer o amser allan yn cerdded ac oherwydd bod y cyfyngiadau yn eithaf llym yma am yng Nghymru am gryn amser, ni fedrwn deithio i parc cenedlaethol neu’r arfordir, lle rwyf yn mynd am droeon hir fel arfer. Felly yn lle hynny dechreuais ymchwilio fy ardal leol, gan edrych ar fy hen fap o Gaerdydd a dod ar draws yr holl lwybrau cerdded gwych yma sy’n ymchwilio rhannau diwydiannol, maestrefi a rhannau gwyrdd y ddinas. Wrth i mi gerdded, roeddwn hefyd yn gwrando ar lawer o bodlediadau, a dechreuais feddwl am sut y caiff rhywbeth newydd ei ychwanegu at eich profiad o’r tirlun pan fyddwch yn cerdded ac yn gwrando ar straeon. Rydych yn dechrau gosod arwyddocâd newydd i’r pethau a welwch, yr arogleuon, y synau, y newid yn y tymhorau. Hanfod Llwybrau yw ymchwilio’r syniad hwnnw a gwahodd pobl i roi sylw i’r hyn sydd o’u cwmpas, wrth iddo gymryd dimensiwn chwedlonol neu hudolus drwy stori.
Rydym yn awr yn symud i gyfnod nesaf y prosiect, pan fyddaf yn cydweithio gyda chwe chwedleuwr newydd o bob rhan o Gymru. Bydd y perfformiadau yn dod yn llai penodol am le ac yn lle hynny yn ymchwilio llwybrau ym mhob rhan o’r wlad.
Mae ar gyfer unrhyw un a phawb! Rwy’n gwahodd pobl i gerdded drwy’r stori hyd yn oed os nad ydynt yn byw yng Nghaerdydd, ac mae gan bob dro stori hefyd opsiwn hygyrch: rwy’n gwybod am bobl sydd wedi gwrando yn eu cartrefi neu yn eu gerddi, neu wedi creu eu llwybrau eu hunain i’w cerdded tra’n gwrando ar y straeon.
Gallwch dod o hyd i ddolenni i’r holl berfformiadau stori a manylion y llwybrau ar y wefan yma: www.pathways-llwybrau.comac rwyf wrth fy modd clywed ganddynt pan mae pobl wedi gwrando a cherdded! Gallant gysylltu â fi i sgwrsio am eu profiadau un ai drwy’r ffurflen cyswllt ar y wefan, fy nghyfeiriad Twitter neu fy nghyfeiriad e-bost tamarelunedwilliams@hotmail.co.ukBu’n wych clywed am brofiadau pobl o’r straeon, beth maent wedi eu hatgoffa amdano pan oeddent yn gwrando arnynt a sut, pan fyddant wedi dychwelyd i’r man lle’r oedden yn cerdded drwy’r stori, ei bod wedi cael naws hollol wahanol iddynt; mae ymlyniad emosiynol newydd neu elfen ddychmygus i’r man hwnnw nad oedd yno cyn hynny.
Cefais fy ngeni a fu magu yng Nghaerdydd a dychwelais yma ar ôl treulio pum mlynedd yn astudio a byw yng nghanol Lloegr. Astudiais theatr yn y brifysgol ac roeddwn eisiau dod yn actor neu gyfarwyddwr, ond fe wnes ddarganfod chwedleua pan oeddwn yn astudio. Rwy’n dweud darganfod, ond roedd yn fwy o “ailddarganfod”: mae chwedleua wedi bod o fy nghwmpas fy holl fywyd, clywed pobl yn dweud straeon mewn gwyliau a chlywed straeon y Mabinogion yn yr ysgol. Ond doedd gen i ddim syniad ei bod yn bosibl bod yn chwedleuwr – fel swydd – nes i mi ddechrau mynd i Gaffe Chwedleua Birmingham a gweld yr holl bobl yma’n dweud straeon o’u cof; roeddwn yn gaeth yn syth. Yr un flwyddyn, fe wnes ddweud stori yng nghystadleuaeth genedlaethol Chwedleuwr Ifanc y Flwyddyn ac er mawr syndod i mi, fe enillais. Rhan o fy ngwobr oedd llwyth o gyfleoedd perfformio, felly dechreuais gigio, dweud straeon mewn gwyliau a chlybiau stori, ac adeiladu fy repertoire. be a storyteller – as a job – until I started going to the Birmingham Storytelling Café and seeing all these people telling stories from memory, and I was immediately hooked. That same year, I told a story at the national Young Storyteller of the Year competition, and to my huge surprise, I won. Part of my prize was that I was given lots of performance opportunities, so I started gigging, telling stories at festivals and story clubs, and building my repertoire.
Pan ddychwelais i Gymru dechreuais geisio cael gyrfa lawn-amser fel chwedleuwr llawrydd. Rydw i bob amser bod â’r hyn maent yn ei alw yn “yrfa portffolio”: rydw i wedi gweithio ar draws y celfyddydau perfformio mewn amrywiaeth o wahanol swyddi – cyfarwyddo theatr, pypedau, cynnal gweithdai, cynhyrchu – ac rwy’n meddwl fod hynny wedi bod yn llawer o help pan ddechreuais arni i weithio’n llawrydd. Mae gweithio llawrydd yn y celfyddydau yn galed ond mae gennych fwy o gyfle o oroesi os y gallwch droi eich llaw at lawer o wahanol bethau. Felly, am y pum mlynedd ddiwethaf, rwyf wedi dweud straeon mewn ysgolion, perfformio mewn gwyliau, cynnal gweithdai a datblygu comisiynau a sioeau chwedleua. Nawr rydw i hefyd yn gweithio i Beyond the Border fel cydlynydd ymgysylltu llawrydd, ac wrth fy modd!
Rydw i’n gweithio’n ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg. Mae llawer o’r straeon a ddywedaf yn rhoi rwy’n cofio eu clywed pan oeddwn yn blentyn: chwedlau gwerin Cymru, mythau a chwedlau’r Mabinogion. Rwy’n cael fy nenu at weithio hen straeon a gwneud iddynt siarad gyda chynulleidfaoedd cyfoes; does gen i ddim diddordeb mewn ailwampio ystrydebau blinedig am dywysogesau sydd angen cael eu hachub. Rydw i’n meddwl fod chwedleua i gyd am gysylltu a rhannu gyda phobl eraill. Rwy’n gaeth iddo. Rwyf wrth fy modd yn clywed straeon, dweud straeon a chanfod straeon newydd i’w dweud.
Dau ddigwyddiad ar-lein arbennig iawn a fynychais yn yr ychydig fisoedd diwethaf oedd gig adfywiad Bellowhead - https://stabal.com/stabal_media/bellowhead-on-sale/ - a dangosiad Emilia the Play: https://www.emilialive.com/, stori ffeminyddol gref am frwydr menyw ddu i gael ei llais wedi’i glywed. Rydw i hefyd yn gwrando ar lawer o bodlediadau: IWeigh gyda Jameela Jamil, Pod Save America gan Crooked Media (defnyddiol iawn wrth geisio deall y newyddion am yr etholiad yn yr Unol Daleithiau) a How to Fail gyda Elizabeth Day. A rydw i wrth fy modd yn rhedeg Casglu ar gyfer Beyond the Border, ein grŵp trafod wythnosol ar-lein gyda chwedleuwyr ar foreau Gwener. Rydw i bob amser yn gadael yn teimlo wedi fy ysbrydoli ac yn barod i ddechrau creu! https://stabal.com/stabal_media/bellowhead-on-sale/ - a dangosiad Emilia the Play: https://www.emilialive.com/, stori ffeminyddol gref am frwydr menyw ddu i gael ei llais wedi’i glywed. Rydw i hefyd yn gwrando ar lawer o bodlediadau: IWeigh gyda Jameela Jamil, Pod Save America gan Crooked Media (defnyddiol iawn wrth geisio deall y newyddion am yr etholiad yn yr Unol Daleithiau) a How to Fail gyda Elizabeth Day. A rydw i wrth fy modd yn rhedeg Casglu ar gyfer Beyond the Border, ein grŵp trafod wythnosol ar-lein gyda chwedleuwyr ar foreau Gwener. Rydw i bob amser yn gadael yn teimlo wedi fy ysbrydoli ac yn barod i ddechrau creu!