body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Cyfarwydd Cyfoes (Chwedleuwr) - Bevin Magama

Chwedleuwr proffesiynol ac awdur a aned yn Zimbabwe yw Bevin Magama sy’n byw yng Nghasnewydd. Mae wedi gweithio ar Raglen Greadigol Arweiniol Cyngor Celfyddydau Cymru fel Ymarferwr Creadigol ac Asiant Creadigol ers blynyddoedd lawer. Mae Bevin wedi cydweithio hefyd gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru, fel cyfarwyddwr artistig a chwedleuwr, i gynhyrchu perfformiadau a mynegiant artistig i ffoaduriaid.

Roedd Bevin yn ddarllenwr yng nghynyrchiadau National Theatre Wales o City of the Unexpected Roald Dahl, yn 2016, a hefyd fel prif actor yn Bordergame, a dderbyniodd bedair seren gan y Financial Times.

Mae Bevin wedi cael ei wahodd i chwedleua mewn nifer o wyliau chwedleua rhyngwladol pwysig. Ymhlith y rhain mae Sting In The Tale, Dorset, 2014, Chwedleua er lles Iechyd, Abertawe 2017, Gŵyl Platforma, Newcastle, 2017, Chwedleua Rhyngwladol Johannesburg, 2013, Gŵyl Gelfyddydol Harare, 2018, Gŵyl Who are We y Tate Modern, Llundain, 2018 a’r Ŵyl Lyfrau a Chwedleua Nozincwadi, Durban De Affrica 2020.

Daeth Bevin i’r Deyrnas Unedig fel ffoadur yn 2001. Cyhoeddodd erthyglau yn Forbes Africa Magazine, Rhifyn Mai 2014 Erthygl dan y teitl, A plane Ride to Hell, td 78. Erthygl dan y teitl, Through Mayhem and Tear Gas, Rhifyn Awst 2014, td 76. Ymhlith y llyfrau y mae wedi eu cyhoeddi mae Dreaming All Things Great, Vicious, Gross Misconduct, One Dead Zimbo Walking, a Harare Is Sick.

"Mae bod yn Gyfarwydd Cyfoes yn gwireddu breuddwyd, cyfle i fod y cyfrwng sy’n defnyddio chwedleua i ysbrydoli cymunedau i fyw mewn harmoni gyda’i gilydd beth bynnag fo eu lliw neu hil. Fy ngweledigaeth i yw gweld Cymru’n carlamu tuag at y llinell derfyn a chodi’r tlws fel y genedl yn y Deyrnas Unedig sy’n esiampl i bawb o ran gwrth-hiliaeth.".” Bevin Magama

Back

Cefnogir gan

^
Cymraeg