body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Cyfarwydd Cyfoes (Chwedleuwr) - Duke Al Durham

Mae Duke Al yn fardd cyhoeddedig, artist gair ar lafar, rapiwr, a hwylusydd.
Ar hyn o bryd mae’n dilyn cwrs Meistr Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Ysgrifennu odlau yw therapi Duke Al. Ers yn ifanc iawn byddai Duke Al yn ysgrifennu
rapiau a cherddi yn ei hen lyfr caneuon.
Dyna ei ffordd o fynegi ei hun; dull o ddianc a herio ei OCD.

Ffynnodd ei angerdd am eiriau, llif ac odl. Ar ôl cael diagnosis o ddiabetes math 1 yn 23 oed,
roedd ei feiro wrth law i’w helpu i ddeall a mynegi sut yr oedd yn teimlo.
Erbyn hyn mae’n anelu at greu newid gan ddefnyddio un pennill ar y tro. Fo yw awdur ‘Bittersweet: The Highs, The Lows, Hypers and
Hypos of Living with Type 1 Diabetes’. Gallwch ddod o hyd i waith cyhoeddedig diweddar Duke Al ar BBC Wales ar gyfer
Cwpan y Byd yn 2022, ‘Sport in Words’ BT Sports ar gyfer Mis Hanes Pobl Ddu
am Syr Lewis Hamilton, Anthology 8 Met Caerdydd, cylchgrawn Artes Mundi,
ar Amazon a Scrum V y BBC ar gyfer y Chwe Gwlad yn 2022.

“Rwyf mor ddiolchgar o fod yn rhan o brosiect mor ystyrlon. Mae swyddogaeth y chwedleuwr yn rhoi cyfle i mi archwilio a rhannu storïau grymus pobl eraill. Rwyf am weithio gyda’r Gwasanaeth Cyswllt Alcohol yn Rhondda Cynon Taf a siarad â defnyddwyr y gwasanaeth. Rwyf am roi llais i ddefnyddwyr y gwasanaeth a chyfle i rannu eu storïau. Wedyn rwyf yn gobeithio ysgrifennu drama gair ar lafar sy’n tacluso’r sgyrsiau craidd y byddwn yn eu cael. Fy nod yw chwalu stigma alcoholiaeth ac iechyd meddwl. Mae gan bawb stori i’w dweud, mae gan bawb rywbeth i’w ddweud, mae pobl wedi bod yn rhannu storïau ers canrifoedd, maent yn ddull o fynegiant, deall ein gilydd ac maent yn ein dwyn yn nes at ein gilydd.” Duke Al Durham

Back

Cefnogir gan

^
Cymraeg