body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Cyfarwydd Cyfoes (Chwedleuwr) Phil Okwedy

Roedd Phil Okwedy a’r chwedleuwr o Sir Benfro yn un o’r artistiaid ‘Cyfeiriadau Newydd’ yng Ngŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru, Beyond the Border yn 2021. Roedd yn chwedleuwr wedi ei gomisiynu ym mhrosiect Go Tell the Bees Theatr Genedlaethol Cymru ac mae ar hyn o bryd yn ysgrifennu llyfr ar sail ei Daith chwedleua ddiweddar yng Nghymru, The Gods Are All Here a gynhyrchwyd gan Adverse Camber ac oedd yn rhan o raglen Cynrychioli Cymru, Datblygu Awduron o Liw Llenyddiaeth Cymru. Mae llyfr cyntaf Phil, Wil & the Welsh Black Cattle yn gasgliad gwych o lên gwerin Cymru wedi eu plethu at ei gilydd a’u fframio o gwmpas chwedlau hen borthmyn y gorffennol. Mae Phil hefyd yn darparu’r gwasanaeth ‘storïau ar bresgripsiwn’ iechyd a chelfyddydau i People Speak Up.

“Gan adeiladu ar y gwaith a ddechreuwyd fel cymuned gyda People Speak Up, rwyf wedi cyffroi o weld sut y bydd y rôl hon yn datblygu wrth ymateb i weithio gyda chymunedau amrywiol. Rwyf wrth fy modd o gael y cyfle i gefnogi, datblygu a grymuso lleisiau sy’n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd a heb eu clywed yn aml. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen yn eiddgar am gael gweithio’n rhan o dîm mor ysbrydoledig.” Phil Okwedy

Back

Cefnogir gan

^
Cymraeg