Suzanne sy’n goruchwylio’r holl farchnata a chyfathrebu ar gyfer gŵyl Beyond the Border a phrosiectau drwy gydol y flwyddyn, o ganfod mwy am yr ŵyl i archebu eich tocynnau.
Gan ddechrau ei gyrfa fel newyddiadurwraig a darlledydd, trodd Suzanne ei meddwl creadigol a sgiliau cyfathrebu i farchnata digwyddiadau a theatr byw. 20 mlynedd wedyn mae wedi gweithio gyda chanolfannau, cwmnïau dawns a theatr, digwyddiadau a gwyliau ledled Cymru a Phrydain. Mae bellach yn rhedeg ei chwmni ymgynghoriaeth ei hun.