body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Dywedwch wrthym beth yw eich barn am ein cynnwys digidol

Roeddem yn drist iawn i beidio bod yn ein cartref newydd yn Ninefwr eleni, ond rydym yn edrych ymlaen yn barod at pryd y gallwn ailgysylltu â’n gilydd yn 2021.

Fel llawer o gyrff yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf rydym wedi arbrofi gyda ffyrdd ar-lein newydd o sut y gallwn gefnogwn ein chwedleuwyr ac ymgysylltu gyda chi, ein cynulleidfaoedd, ar draws Cymru, Prydain ac yn rhyngwladol yn ystod y cyfnod hwn digynsail hwn.

Hoffem glywed beth yw eich barn am yr hyn y bu Beyond the Border yn ei wneud yn ystod y cyfnod clo. Efallai y byddwch wedi gweld ein Dyddiau Gwener Chwedleua, Straeon o Ddinefwr neu – yn fwy diweddar - Ailddychmygu: Beyond the Border Ar-lein.

Mae’r hyn yn torri tir newydd i ni a hoffem wybod beth yw eich barn a hefyd glywed mwy amdanoch chi, y cynulleidfaoedd rydym yn ymgysylltu â nhw yn ystod y cyfnod hwn. Hoffem hefyd os y gallech fynychu un o’n digwyddiadau rywbryd yn y dyfodol neu hyd yn oed yr Ŵyl pan mae’n ddiogel gwneud hynny. Bydd eich adborth yn werthfawr tu hwnt yn y ffordd y gallwn lunio ein cynnwys ar-lein a ffyrdd o weithio ar gyfer y dyfodol.

Rydym yn gweithio gyda’r Audience Agency i gasglu’r wybodaeth hon mewn arolwg 5 munud ar-lein. Bydd eich ymatebion yn hollol ddi-enw a chânt eu defnyddio fel sail i’n cynllunio ein hunain, yn ogystal â chael eu hychwanegu at ymatebion o bob rhan o Brydain i helpu rhoi darlun cenedlaethol. Pan fydd yr arolwg yn gofyn am eich ymweliad heddiw, meddyliwch am eich ymweliad diweddaraf i BtB ar-lein os gwelwch yn dda. Dim ond i’ch ymatebion y bydd yr Audience Agency yn cael mynediad iddynt ac ni fyddant yn gallu gweld dim o’ch gwybodaeth bersonol.

Cliciwch ar y ddolen islaw i gymryd rhan yn yr arolwg erbyn 3 Awst os gwelwch yn dda.

Diolch i chi eto am ymuno â ni ar-lein dros yr ychydig fisoedd diwethaf.

CYMERWCH RAN YN EIN HAROLWG DIGIDOL

Cefnogir gan

^
Cymraeg