body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Dwy o brif wyliau chwedleua’r byd o Gymru a Canada yn cydweithio ar ymchwilio ymgysylltu digidol newydd ar gyfer 2021

Mae dwy o brif wyliau chwedleua y byd, Beyond the Border: Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru a’r Festival Interculturel du conte de Montréal yng Nghanada wedi sicrhau cyllid i barhau i ymchwilio a chydweithio i greu cynigion digidol eu digwyddiadau eleni.

Yn 2020 ymchwiliodd y ddwy Ŵyl ffyrdd newydd arloesol a diddorol o greu digwyddiadau a gweithgareddau ar-lein yn cynnwys mini-wyliau, sgyrsiau gydag artistiaid, gweminarau a gweithdai yn ogystal ag ymchwilio y defnydd o weithgareddau digidol ar safleoedd eu gwyliau i gyflwyno ffyrdd newydd o chwedleua i gynulleidfaoedd.

Mae’r ddwy ŵyl i gynnig digwyddiadau rhyngwladol mawr eleni gydag artistiaid rhyngwladol yn Beyond the Border 2-4 Gorffennaf 2021 a Festival Interculturel du conte de Montréal – digwyddiad 10 diwrnod ym mis Hydref 2021. Gydag ansicrwydd am hyfywedd teithio rhyngwladol, ac ymrwymiadau cynyddol am gynaliadwyedd amgylcheddol, mae’r ddwy ŵyl yn cynllunio cyflwyno rhaglen fyw a digidol. Gyda chyllid gan y Cyngor Prydeinig a Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, gall y ddwy ŵyl barhau i wthio ac ailddyfeisio y profiad o chwedleua drwy lwyfannau digidol, gan ganfod ffyrdd newydd i ddod ag artistiaid, straeon a chynulleidfaoedd ynghyd.

Dywedodd Naomi Wilds, Cyfarwyddwr Artistig Beyond the Border: “Yn y 12 mis diwethaf rydym wedi ymchwilio ffyrdd newydd a blaengar o chwedleua a rydym eisiau dal ati i wthio’r syniadau hynny ymhellach er mwyn creu profiadau digidol sy’n manteisio ar gryfderau chwedleua ac yn codi cwr y llen o’r newydd ar waith a chrefft artistiaid. Rydym eisiau gwneud defnydd llawn a chreadigol o’r amrywiaeth o ddulliau a llwyfannau digidol sydd ar gael i ni. Mae’r ddwy ŵyl yn awyddus i feithrin cyfnewid synhwyraidd-gyfoethog sy’n ein trochi yng ngolwg y byd o artist neu ddiwylliannau chwedleua perfformiad.

Mae cydweithio rhwng gwyliau yn ein helpu i gyflawni mwy nag a fedrwn ar ein pen ein pen ein hunain. Mae’r ddwy ŵyl yn cyfuno ystod cyfoethog o dalent cynhenid gyda gwesteion ac ensembles rhyngwladol. Mae’r ddwy ŵyl hefyd yn anturus yn artistig, gan gymryd pyls y mudiad chwedleua rhyngwladol a chael ysbrydoliaeth drwy arferion a syniadau newydd.”

Bu Beyond the Border yn llwyddiannus wrth sicrhau cyllid gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r Cyngor Prydeinig ynghyd â chefnogaeth o ‘New Conversations’, cronfa ar y cyd gan y Cyngor Prydeinig, Farngham Maltings, Uchel Gomisiwn Canada yn yr Unol Daleithiau a Chyngor Celfyddydau Canada. Bydd y cyllid hwn yn galluogi profi ar raddfa fach ar ffyrdd newydd o gynnwys tri artist uchel eu bri o Ganada gan gweithio gyda thechnegwyr yng Nghymru i fod yn rhan o raglen ddigidol Beyond the Border ar gyfer gŵyl 2021. Mae’r artistiaid yn cynnwys Ivan Coyote, awdur a chwedleuwyr gwobrwyol o’r Yukon, a fydd yn eu caban yn nghoedwig pîn Yukon ym mis Gorffennaf 2021.

Cafodd Marta Singh, sy’n byw yn Ottawa, ei magu yn yr Ariannin pan oedd y junta milwrol mewn grym. Mae ei straeon, gyda’u gwreiddiau mewn llen gwerin, yn aml yn cyfuno elfennau cofiannol gyda manylion gorffennol cyhoeddus yr Ariannin. Yn hytrach na chreu perfformiadau seiliedig ar gamera, bydd Marta yn dod â barddoniaeth ac agosatrwydd emosiynol ei chwedleua drwy’r straeon sain wedi ymwreiddio mewn fersiwn ar-lein o’r ŵyl yn Ninefwr.

Mae’r cerddor/chwedleuwr Tamar Ilana yn defnyddio ei thras cymysg Iddewig –Cynhenid-Romanaidd-Albanaidd i greu perfformiadau electro-awtistig angerddol o chwedleua, cerddoriaeth a dawns.

Dywedodd Stephanie Beneteau, Cyfarwyddwr Artistig Festival interculturel , “Bu’r Festival interculturel du conte de Montréal and Beyond the Border yn cydweithio am flynyddoedd lawer ac rwy’n edrych ymlaen at ddechrau ar y cyfnod newydd yma o’n partneriaeth: i gefnogi artistiaid i ganfod ffyrdd newydd i gyfathrebu harddwch ein dull celf yn ddigidol. Mae’n rhaid i’r gwaith hwn gael ei wneud gan sefydliadau oherwydd na fedrir disgwyl i artistiaid unigol gael yr adnoddau addasu i newid mor sylweddol heb gefnogaeth. Rwy’n hynod falch i weithio gyda phartner rhyngwladol mor rhagorol yn ogystal â gyda thri artist gwych o Canada i ddod â’u gwaith i gynulleidfaoedd newydd.”

Yn ogystal â’r cydweithio gyda ffocws gydag artistiaid o Ganada, mae Beyond the Border hefyd yn cynllunio cynnal rhaglen ddigidol a gaiff ei ffilmio ledled Cymru a’i dangos yng nghartref yr Ŵyl yn Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dinefwr, gan godi proffil artistiaid o Gymru gyda chynulleidfaoedd o amgylch y byd

Dywedodd Sandra Bendelow, Rheolwr yr Ŵyl: “Mae ein gwaith digidol hyd yma wedi dangos pwysigrwydd buddsoddi mewn gwaith, cydweithio gyda thechnegwyr medrus a phrofiadol, i gyflwyno ymgysylltiad ansawdd dynol a blaengar. byddwn yn buddsoddi yng ngweithwyr creadigol digidol Cymru (technolegwyr creadigol, rheolwyr llwyfan digidol, technegwyr digidol, sy’n arbenigo mewn cyflenwi ar draws llwyfannau digidol, yn cynnwys peirianneg sain, rhwydweithio, technoleg gwybodaeth, cymysgu lluniau)( a fydd yn cydweithio gydag artistiaid a gwneuthurwyr ffilm o Ganada i ddod â’r gwaith i lwyfan gŵyl Beyond the Border.”

Caiff rhaglen fyw a digidol Beyond the Border ar gyfer gŵyl 2021 ei cyhoeddi yn ddiweddarach yn y flwyddyn cyn yr ŵyl ar 2-4 Gorffennaf 2021.

.           

Cefnogir gan

^
Cymraeg