body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Diweddariad - Gŵyl Beyond the Border 2-4 Gorffennaf 2021

Diolch i’n holl ffrindiau, deiliaid tocynnau a darpar ddeiliaid tocynnau am aros mor amyneddgar dros y flwyddyn ddiwethaf i ganfod os y cynhelir BtB yn 2021.

Mae llai na dau fis i fynd cyn dyddiadau yr ŵyl yn ein cartref newydd yn Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dinefwr.

Er ein bod yn gwneud popeth posibl i baratoi ar gyfer a chynllunio ar gyfer yr ŵyl ym mis Gorffennaf, rydym yn dal i ddisgwyl cymeradwyaeth digwyddiadau awyr agored byw yng Nghymru. Ni wyddom pryd y caiff hynny ei gymeradwyo, a gobeithiwn gael mwy o wybodaeth yn yr ychydig wythnosau nesaf.

Er ein bod yn gweld cyfyngiadau yn gostwng yma yng Nghymru, mae iechyd a llesiant ein cynulleidfaoedd, artistiaid a staff yn dal yn brif flaenoriaeth. Rydym eisiau mwynhau dod at ein gilydd a rhannu straeon mewn ffordd sy’n ddiogel ac o fewn cyfyngiadau COVID yma yng Nghymru.

Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid, staff, Digwyddiadau Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Gaerfyrddin a llawer o bobl eraill sydd i gyd wrthi’n galed yn ceisio dod â’r digwyddiad hwn ynghyd. Rydym yn cael arweiniad gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac yn gwrando ar Iechyd Cyhoeddus Cymru ar yr hyn y gallwn ei wneud ar safle’r ŵyl.

Rydym eisiau bod yn glir am yr hyn y gallwn ei wneud yn yr ŵyl eleni. Os aiff BtB yn ei flaen ym mis Gorffennaf, yn yr amgylchiadau eithriadol hyn, bydd yn un o lond dwrn o ddigwyddiadau diwylliannol a gynhelir yn rhan gynnar 2021 a byddwch yn rhan o nifer gyfyngedig o bobl i brofi digwyddiad byw

Mae dal modd prynu tocynnau dydd a thocynnau i'n gŵyl ar-lein o 24 Mai. Ceir mwy o wybodaeth am ein rhaglen isod.

DIWEDDARIAD Rhaglen yr Ŵyl

Gallwn yn awr ddweud mwy wrthych am beth i’w ddisgwyl o’n rhaglen. Mae gennym 50+ artist ar y rhaglen ar draws y penwythnos yn Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dinefwr.

Fe wnaeth ein thema o ‘Ailddychmygu, Ailddeffro’ ein hysbrydoli i ddod â llawer o chwedleuwyr a cherddorion gorau Prydain ynghyd â gwesteion rhyngwladol fydd yn ymddangos yn ddigidol – Ivan Coyote, Marta Singh a Tamar Ilana o Ganada – ynghyd â cherddoriaeth gan Catrin Finch a Seckou Keita, Will Pound, Cynefin a Don Kipper, gyda straeon gan Hugh Lupton, Daniel Morden, Cath Little, Tamar Eluned Williams, Ben Haggarty, Michael Harvey, David Ambrose, TUUP, Guto Dafis, The Devil’s Violin, Peter Stevenson, Ailsa Mair Hughes, Fiona Collins ac Amy Douglas.

Bydd uchafbwyntiau arbennig yn cynnwys Antur Chwedleua newydd a gomisiynwyd yn arbennig sef ‘Sêr a’u Cysurau’ gan Hugh Lupton a Daniel Morden gyda’r gyfansoddwraig Sarah Lianne Lewis, yn cynnwys fersiwn awyr agored yn edrych i fyny ar awyr y nos. Bydd Arbrofion Chwedleua gan Tim Ralphs a Tamar Eluned Williams yn cynnig ymagweddau newydd bywiog at straeon a baledi. Mae Cyfeiriadau Newydd yn gyfle i glywed darnau solo gan artistiaid yn BTB am y tro cyntaf yn cynnwys Sarah Liisa Wilkinson, Phil Okwedy a Saul Jaffe a Lleisiau Newydd ffres Chandrika Joshi, Kestrel Morton a Ceri Phillips, yn rhannu ffrwythau eu mentora diweddar gyda BtB.

Mae teithiau Chwedleua Awyr Agored yn cynnig llwybrau llawn awyrgylch i goetiroedd, gyda straeon sydd â’u gwreiddiau yn y tirlun a gweithiau celf cynhenid, ynghyd â rhaglen gyfoethog o lwybrau stori a ysbrydolwyd gan hanes a harddwch naturiol Dinefwr, gyda Lisa Schneidau, Malcolm Green, Ceri Phillips ac eraill. Mae Citrus Arts yn dod â sgiliau syrcas a gwneud llusernau diogel o ran Covid, ac mae’r babell Straeon Bach yn rhannu straeon ar gyfer y rhai dan 8, ac mae mwy i’w cyhoeddi eto!

Gŵyl ar-lein

Gwyddom na fydd modd i rai o'n cynulleidfaoedd ac artistiaid deithio. Mae dal modd bod yn rhan o'r ŵyl a hynny ar-lein. Rydym yn creu Gŵyl Ar-lein o 26 Mehefin i 10 Gorffennaf. Mae'r rhaglen yn cynnwys cymysgedd o ddigwyddiadau byw a rhai wedi eu recordio o flaen llaw. Bydd y tocynnau ar werth 24 Mai a'r rhaglen yn cael ei gyhoeddi 7 Mehefin.

Rydym eisiau i chi ein helpu a helpu creu gofod lle gallwn i gyd ymgynnull yn ddiogel hefyd. Ar ôl blwyddyn gythryblus bydd yn llawenydd o’r mwyaf i ddianc i ofod agored yn llawn straeon.

Byddwch yn rhan o brofiad eithriadol ac unigryw y siaredir amdano am flynyddoedd i ddod.

Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi cyn gynted ag y clywn unrhyw newyddion gan Lywodraeth Cymru dros yr ychydig wythnosau nesaf. Diolch i chi am fod mor amyneddgar a chefnogol i’n gwaith.

Naomi Wilds (Cyfarwyddwr Artistig) & Sandra Bendelow (Rheolwr yr Ŵyl)

Cefnogir gan

^
Cymraeg