Gweithdy ar gyfer ymarferwyr creadigol llawrydd yng nghamau cynnar eu gyrfaoedd neu rai sy’n meddwl am newid cyfeiriad. Arweinir gan Peter Chand, y chwedleuwr rhyngwladol a threfnwr gwyliau fydd yn rhannu technegau ymarferol am ffyrdd effeithlon i farchnata eich crefft a hefyd yn sôn am yr hyn mae sefydliadau celf yn edrych amdano. P’un ai’n greu bywgraffiad trawiadol, dylunio gwefan ddeinamig neu rwydweithio gyda darpar gleientiaid, dylai’r gweithdy hwn eich helpu i broffesiynoli eich crefft. Mae’r gweithdy hwn yn fersiwn gryno o gwrs diwrnod llawn Peter ar gyfer Busnesau Creadigol Annibynnol y bu’n ei redeg am ddeng mlynedd yn Lloegr ag yr aeth ag ef hefyd i Ogledd Iwerddon, Denmarc a Gwlad Belg. I gael mwy o wybodaeth ewch i
Facebook page – https://www.facebook.com/peterchandstories
I archebu eich lle ar y cwrs, anfonwch e-bost at tamarwilliams@beyondtheborder.com. tamarwilliams@beyondtheborder.comCyfyngwyd i 15 lle a ddyrennir ar sail cyntaf i’r felin.
Byddwn yn cynnig dau le yn rhad ac am ddim. Os hoffech fynychu’r cwrs ond yn teimlo na fedrwch dalu’r gost ar hyn o bryd, anfonwch e-bost at tamarwilliams@beyondtheborder.com os gwelwch yn dda i ofyn am le am ddim. Caiff y lle i ddyrannu i chi heb ofyn cwestiynau.*